Trosolwg o'r Cwrs
Mae ein cwrs Ffilm a Diwylliant Gweledol, BA (Anrh) newydd yn rhaglen ryngddisgyblaethol, wedi'i hanelu at fyfyrwyr sydd â diddordeb mewn archwilio sbectrwm eang o ddiwylliant gweledol a ffilm.
Cewch gyfle i ymchwilio i ddiwylliant cyfoes drwy blatfformau cyfryngau cymdeithasol amrywiol, gemau fideo, cyfryngau creadigol a mwy.
Byddwch yn dadansoddi iaith a llenyddiaeth ym myd ffilm a theledu a byddwch hefyd yn ennill sgiliau a phrofiad ym maes cynhyrchu ffilmiau ac ysgrifennu ar gyfer radio a sgrin - gan ddysgu gan weithwyr proffesiynol profiadol yn y diwydiant ac academyddion blaenllaw.
Wrth astudio Ffilm a Diwylliant Gweledol, BA (Anrh) gyda ni, byddwch yn dysgu sgiliau ymarferol i'ch paratoi ar gyfer gyrfa gyffrous yn y cyfryngau, marchnata, neu feysydd cysylltiedig, yn ogystal â sgiliau trosglwyddadwy sy'n cael eu gwerthfawrogi gan gyflogwyr ac agor amrywiaeth o gyfleoedd ehangach o ran gyrfa.