Hanes, BA (Anrh)

Astudiwch Hanes a Meithrin Sgiliau Gwerthfawr

Students walking through Singleton Park

Trosolwg o'r Cwrs

Manteisiwch ar eich diddordeb yn y gorffennol drwy astudio hanes ym Mhrifysgol Abertawe. Byddwch yn datblygu'r sgiliau sy'n cael eu gwerthfawrogi gan gyflogwyr ar draws amrywiaeth o sectorau, wrth archwilio'r cyflwr dynol o'r canol oesoedd i'r presennol.

Yn eich blwyddyn gyntaf, byddwch chi'n cael cyflwyniad i'r ymagweddau mae haneswyr yn eu defnyddio i ddeall ac esbonio agweddau gwahanol ar y gorffennol ar draws amrywiaeth eang o gyfnodau. Wrth i'ch astudiaethau fynd yn eu blaenau, byddwch chi'n gallu canolbwyntio'n fwy ar y canrifoedd, y diwylliannau a'r mathau o newidiadau hanesyddol sydd fwyaf diddorol i chi.

Pam Hanes yn Abertawe?

Ar ein campws Parc Singleton rhagorol, mewn parcdir sy'n edrych dros Fae Abertawe wrth ymyl Penrhyn Gŵyr, mae gan ein cwrs Hanes ym Mhrifysgol Abertawe enw da iawn ymhlith myfyrwyr a chyflogwyr:

Cewch eich addysgu gan staff ag arbenigedd yn hanes Prydain, Ewrop ac America, o'r canol oesoedd i'r presennol, ar bynciau sy'n cynnwys rhyw, rhywioldeb ac anghydraddoldeb; treftadaeth a hanes yn y gweithle; meddygaeth, iechyd ac anabledd; a rhyfel, trais a heddwch.

Gallwch astudio'r gorffennol y tu allan i'r ddarlithfa a'r llyfrgell, drwy deithiau maes a modiwlau teithiau astudio, gan ddefnyddio eich gwybodaeth mewn lleoliad gwaith. Gallwch ddewis treulio semester dramor gydag un o'n partneriaid niferus yn Asia neu Ogledd America.

Os ydych chi'n dewis ein gradd pedair blynedd, byddwch yn treulio'r flwyddyn rhwng eich ail a'ch pedwaredd flwyddyn dramor yn datblygu eich sgiliau ac yn cael profiadau newydd yn Ewrop, Asia neu Ogledd America.

Hanes yn Abertawe:

  • Mae 94% o  raddedigion Hanes yn mewn gwaith ac/neu astudio, neu'n gwneud gweithgareddau eraill fel teithio 15 mis ar ôl gadael Prifysgol Abertawe (Arolwg Canlyniadau Graddedigion 2025).

Eich Profiad Hanes

Rydym yn cynnig amgylchedd dysgu a chymuned sy'n gynhwysol ac yn bwrpasol i fyfyrwyr. Caiff modiwlau eu haddysgu a’u hasesu mewn amrywiaeth o ffyrdd gwahanol a chewch eich annog i gymryd cyfrifoldeb am eich dysgu eich hun, i weithio’n annibynnol yn ogystal ag ar y cyd ag eraill, i ymddwyn yn broffesiynol a meistroli sgiliau newydd.

Drwy gydol eich cwrs, bydd gennych chi Tiwtor Personol i'ch cefnogi i gyrraedd eich nodau. Mae'r Gymdeithas Hanes, dan arweiniad myfyrwyr, yn trefnu digwyddiadau cymdeithasol a gweithgareddau diwylliannol, ac mae'n un o lu o gymdeithasau a fydd ar gael i chi ymuno â nhw fel myfyriwr yn Abertawe.

Cyfleoedd Cyflogaeth Hanes

Mae astudio hanes yn meithrin sgiliau meddwl yn feirniadol, cyfathrebu ysgrifenedig ac ar lafar, datrys problemau, a chasglu a dadansoddi gwybodaeth.

Mae ein graddedigion yn mynd ymlaen i weithio mewn amrywiaeth eang o sectorau, gan gynnwys:

  • Addysg
  • Y Cyfryngau a Chysylltiadau Cyhoeddus
  • Treftadaeth ac Amgueddfeydd
  • Busnes a Rheoli
  • Y Gyfraith a Gwasanaethau Cyhoeddus

Modiwlau

Rydym wrthi'n adolygu ein cwricwlwm i wella eich profiad dysgu ac ymgorffori sgiliau a fydd o fudd i'ch gyrfa yn y dyfodol. Mae hyn yn golygu y gall rhai modiwlau newid.

Gofynion Mynediad

Bydd y Brifysgol yn ystyried ceisiadau gan fyfyrwyr sy'n cynnig ystod eang o gymwysterau.

Cynnig Nodweddiadol Safon Uwch

ABB-BBC

Hanes

Hanes gyda Blwyddyn Dramor

Hanes gyda Blwyddyn mewn Diwydiant