Hanes a Gwleidyddiaeth, BA (Anrh)

Mae clirio ar agor!

Gwnewch gais nawr
students working together

Mae'r cwrs hwn ar gael trwy Glirio

Cymorth a Chefnogaeth Clirio 0808 175 3071

Trosolwg o'r Cwrs

Manteisiwch ar eich diddordeb yn y gorffennol drwy astudio hanes ym Mhrifysgol Abertawe. Byddwch yn datblygu'r sgiliau sy'n cael eu gwerthfawrogi gan gyflogwyr ar draws amrywiaeth o sectorau, wrth archwilio'r cyflwr dynol o'r canol oesoedd i'r presennol.

Mae Hanes a Gwleidyddiaeth yn archwilio sut mae digwyddiadau hanesyddol yn dylanwadu'n uniongyrchol ar wleidyddiaeth fyd-eang. Byddwch yn dysgu am wleidyddiaeth Prydain ac Ewrop yn ogystal â hanes y canol oesoedd, hanes modern cynnar a hanes modern drwy bynciau sy'n cynnwys hanes menywod a rhyw(edd), hanes cyhoeddus a threftadaeth.

Bydd astudio'r cwrs gradd BA tair blynedd hwn yn cynnig amrywiaeth o gyfleoedd gyrfa cyffrous drwy eich helpu i ddatblygu sgiliau y mae cyflogwyr yn eu gwerthfawrogi'n fawr.

Pam Hanes a Gwleidyddiaeth yn Abertawe?

Ar ein campws Parc Singleton rhagorol, mewn parcdir sy'n edrych dros Fae Abertawe wrth ymyl Penrhyn Gŵyr, mae gan ein cwrs Hanes ym Mhrifysgol Abertawe enw da iawn ymhlith myfyrwyr a chyflogwyr:

Cewch eich addysgu gan staff ag arbenigedd yn hanes Prydain, Ewrop ac America, o'r canol oesoedd i'r presennol, ar bynciau sy'n cynnwys rhyw, rhywioldeb ac anghydraddoldeb; treftadaeth a hanes yn y gweithle; meddygaeth, iechyd ac anabledd; a rhyfel, trais a heddwch.

Gallwch astudio'r gorffennol y tu allan i'r ddarlithfa a'r llyfrgell, drwy deithiau maes a modiwlau teithiau astudio, gan ddefnyddio eich gwybodaeth mewn lleoliad gwaith. Gallwch ddewis treulio semester dramor gydag un o'n partneriaid niferus yn Asia neu Ogledd America.

Bydd hefyd yn bosib astudio rhai modiwlau drwy gyfrwng y Gymraeg a gallai amrywiaeth o ysgoloriaethau iaith Gymraeg fod ar gael.

Eich Profiad Hanes a Gwleidyddiaeth

Rydym yn cynnig amgylchedd dysgu a chymuned sy'n gynhwysol ac yn bwrpasol i fyfyrwyr. Caiff modiwlau eu haddysgu a’u hasesu mewn amrywiaeth o ffyrdd gwahanol a chewch eich annog i gymryd cyfrifoldeb am eich dysgu eich hun, i weithio’n annibynnol yn ogystal ag ar y cyd ag eraill, i ymddwyn yn broffesiynol a meistroli sgiliau newydd.

Drwy gydol eich cwrs, bydd gennych chi Tiwtor Personol i'ch cefnogi i gyrraedd eich nodau. Mae'r Gymdeithas Hanes, dan arweiniad myfyrwyr, yn trefnu digwyddiadau cymdeithasol a gweithgareddau diwylliannol, ac mae'n un o lu o gymdeithasau a fydd ar gael i chi ymuno â nhw fel myfyriwr yn Abertawe.

Gwleidyddiaeth yn Abertawe:
10 uchaf yn y DU am Foddhad Addysgu (Guardian University Guide 2025)
10 uchaf yn y DU am Brofiad Myfyrwyr (Times Good University Guide 2025)

Hanes yn Abertawe:
15 uchaf yn y DU am Brofiad Myfyrwyr (Times Good University Guide 2025)

Cyfleoedd Cyflogaeth Hanes a Gwleidyddiaeth

Mae astudio hanes yn meithrin sgiliau meddwl yn feirniadol, cyfathrebu ysgrifenedig ac ar lafar, datrys problemau, a chasglu a dadansoddi gwybodaeth.

Mae ein graddedigion yn mynd ymlaen i weithio mewn amrywiaeth eang o sectorau, gan gynnwys:

  • Addysg
  • Y Cyfryngau a Chysylltiadau Cyhoeddus
  • Treftadaeth ac Amgueddfeydd
  • Busnes a Rheoli
  • Y Gyfraith a Gwasanaethau Cyhoeddus

Modiwlau

Bydd eich astudiaethau cynnar yn eich cyflwyno i hanes Prydain fodern, gwleidyddiaeth a’r bobl, a moeseg, cyfiawnder a’r gymdeithas. Yna byddwch yn dewis eich llwybr gyda modiwlau i gyd-fynd â’ch diddordebau eich hun.

Hanes a Gwleidyddiaeth

Hanes a Gwleidyddiaeth a Blwyddyn Dramor