Trosolwg o'r Cwrs
Mae'r galw am gyfieithwyr a chyfieithwyr ar y pryd sy'n deall y technolegau iaith ddiweddaraf yn tyfu'n gyflym. Mae hyn o ganlyniad i nifer cynyddol o gwmnïau, sefydliadau a phobl yn masnachu'n fyd-eang ond yn disgwyl defnyddio gwasanaethau yn eu hieithoedd eu hunain, sy'n arwain at y datblygiadau technolegol diweddaraf yn cael eu hymgorffori yn y diwydiant gwasanaethau iaith sy'n datblygu'n gyflym.
Bydd y radd arbenigol hon yn sicrhau bod gennych sgiliau iaith arbennig mewn hyd at ddwy iaith, yn ogystal â sgiliau cyfieithu a chyfieithu ar y pryd damcaniaethol, ymarferol, technegol a galwedigaethol.
Gellir astudio Ffrangeg, Almaeneg a Sbaeneg ar y lefelau canlynol ac yn y cyfuniadau canlynol:
- Dwy Iaith Uwch: yn addas os oes gennych Safon Uwch neu gymhwyster/brofiad cyfwerth yn y ddwy iaith.
- Un Iaith Uwch ac un iaith i ddechreuwyr: yn addas os oes gennych Safon Uwch mewn un iaith ac yn dymuno parhau â’r iaith honno, gan ychwanegu ail iaith at eich set o sgiliau (mae modiwlau Eidaleg a Tsieineeg i ddechreuwyr hefyd ar gael o'r ail flwyddyn astudio).
- Un iaith uwch: yn addas os oes gennych Safon Uwch neu gymhwyster/brofiad cyfwerth ac yn dymuno canolbwyntio'n llwyr ar un iaith.
Mae pedair lefel o ieithoedd yn cael eu haddysgu ar y rhaglen hon ar gyfer y prif ieithoedd a restrir uchod: lefel i ddechreuwyr, lefel ganolradd, lefel ganolradd uwch, lefel uwch. Gallwch ddewis y lefel briodol yn seiliedig ar eich cefndir yn yr ieithoedd hyn ac a ydych chi'n penderfynu ymgymryd â blwyddyn dramor neu flwyddyn mewn diwydiant ychwanegol ai peidio. Mae gan y modiwlau iaith hyn asesiadau gwahanol i adlewyrchu eich lefel astudio yn deg.
Ar ôl cwblhau'r rhaglen hon, bydd gennych ddealltwriaeth o gyfieithu a chyfieithu ar y pryd mewn gwahanol feysydd a chyd-destunau arbenigol, yn ogystal â lefel uchel o ruglder yn yr ieithoedd a ddewiswyd gennych, ac mewn technolegau iaith.