Modern Languages and English Literature, BA (Anrh)

Astudiwch Ieithoedd Modern a Llenyddiaeth Saesneg

Myfyrwyr yn llyfrgell

Trosolwg o'r Cwrs

Mae'r BA mewn Ieithoedd Modern a Llenyddiaeth Saesneg ym Mhrifysgol Abertawe yn gwrs cyffrous a heriol, sy'n agor ystod o bosibiliadau gyrfa drwy eich helpu i feithrin sgiliau trosglwyddadwy y mae cyflogwyr yn eu gwerthfawrogi.

Byddwch yn astudio Ffrangeg, Almaeneg neu Sbaeneg a chanrifoedd o Lenyddiaeth Saesneg, gan eich helpu i ddod yn rhan o gymuned fyd-eang ac agor drysau i ystod eang o yrfaoedd.

Yn ogystal ag astudio eich dewis iaith, mae cynnwys y cwrs yn ymestyn o lenyddiaethau cenedlaethol a byd-eang gan gynnwys llenyddiaeth y Dadeni, ffuglen Gothig a genre, llenyddiaeth y 19eg ganrif, moderniaeth a ffuglen gyfoes, rhywedd a diwylliant, ysgrifennu creadigol a phroffesiynol i iaith, diwylliant, hanes, sinema, ffuglen llenyddiaeth, cyfieithu ac addysgu ieithoedd.

Gellir astudio'r cwrs fel cwrs tair blynedd, neu gallwch ymestyn eich astudiaethau am flwyddyn drwy gynnwys Blwyddyn Dramor neu Flwyddyn mewn Diwydiant. Bydd yr opsiynau ychwanegol hyn yn eich galluogi i wella eich profiad fel myfyriwr ymhellach drwy roi mynediad i chi at ddealltwriaeth ddiwylliannol unigryw a chyfleoedd sy'n seiliedig ar sgiliau.

Pam Ieithoedd Modern a Llenyddiaeth Saesneg ym Mhrifysgol Abertawe?

Wedi’i leoli ar ein campws godidog ym Mharc Singleton, mewn parcdir sy’n edrych dros Fae Abertawe ar gyrion Penrhyn Gŵyr;

Mae Ieithoedd Modern yn Abertawe wedi'u rhestru fel a ganlyn:

  • Ar y brig o ran Boddhad Myfyrwyr (Complete University Guide 2026)
  • 4ydd yn y DU am Foddhad â’r Addysgu (Guardian University Guide 2026)
  • 5ed yn y DU yn Gyffredinol (Guardian University Guide 2026), a
  • 100% Boddhad Cyffredinol Myfyrwyr* (NSS 2025)

    *Wedi'i asesu dan ‘Ieithyddiaeth’, (Q28, NSS 2025)

Mae Saesneg yn Abertawe yn y rhestr ganlynol:

  • 11eg yn y DU ar gyfer Effaith Ymchwil (REF 2021) 
  • Yn y 15 Gorau yn y DU am Boddhad Addysgu (Guardian University Guide 2026)
  • Yn y 25 gorau yn y Deyrnas Unedig am Brofiad Myfyrwyr (Times Good University Guide 2026)
  • Ymysg y 101-150 rhaglen orau yn y byd (QS World University Rankings by Subject 2025)

Mae ein darlithwyr a’n hathrawon yn awduron, yn ieithyddion, ac yn gyfieithwyr a gydnabyddir yn rhyngwladol y mae eu gwaith wedi’i gyhoeddi, ei ddarlledu a’i berfformio’n eang. Byddwch yn dysgu gan arbenigwyr ymchwil sy'n arbenigo mewn pynciau fel ffilm, astudiaethau rhywedd, llenyddiaeth, astudiaethau theatr a chyfieithu.

Eich profiad Ieithoedd Modern a Llenyddiaeth Saesneg

Rydym yn cynnig cynnwys cwrs amrywiol a hyblyg, felly gallwch arbenigo yn eich pynciau dewisol a siapio eich cwrs i gyd-fynd â’ch diddordebau, boed mewn llenyddiaethau cenedlaethol a byd-eang, y Dadeni, llenyddiaeth y 19eg ganrif neu gyfoes, ffuglen Gothig a genre, ysgrifennu creadigol a phroffesiynol neu Hanes, iaith, llenyddiaeth, ffilm, cyfieithu neu addysgu Ffrangeg.

Mae Cymdeithas Myfyrwyr Saesneg ffyniannus Abertawe a chymdeithasau iaith yn trefnu digwyddiadau cymdeithasol a diwylliannol. Mae diwylliant campws bywiog i fyfyrwyr iaith gan gynnwys cyfarfodydd rheolaidd ar gyfer ymarfer sgiliau iaith.

Bydd gennych hefyd diwtor personol ar gyfer unrhyw gymorth bugeiliol ac academaidd y gallai fod ei angen arnoch.

Mae'r Flwyddyn Dramor yn cynnig cyfle i chi astudio yn un o'n sefydliadau partner yn Ffrainc, Gwlad Belg, y Swistir, Sbaen, yr Almaen neu Awstria. Fel arall, gallwch ddewis gweithio fel athro Iaith Dramor Saesneg drwy'r Cyngor Prydeinig. Ar gyfer myfyrwyr Sbaeneg, mae cyfleoedd ychwanegol ar gael yn America Ladin.

Mae treulio blwyddyn dramor, naill ai ar leoliad gwaith cyflogedig neu’n astudio yn un o’n sefydliadau partner yn gyfle cyffrous a gwerthfawr a fydd yn rhoi hwb pellach i’ch profiad fel myfyriwr a’ch rhagolygon cyflogaeth.

Gellir treulio'r Flwyddyn mewn Diwydiant yn y DU neu dramor**, gan roi profiad gwerthfawr yn y gweithle. Mae'r Brifysgol yn eiriol dros leoliadau â thâl, sydd ar gyfartaledd â chyflog o £20,000+. Mae lleoliadau di-dâl yn cael eu hystyried fesul achos. Er mai cyfrifoldeb y myfyriwr yw sicrhau lleoliad, rydym yn gweithio gyda sawl sefydliad sy'n darparu ystod o gyfleoedd. Cefnogir myfyrwyr trwy gydol y daith ymgeisio gyda chyngor, arweiniad ac adnoddau. Os na allwch sicrhau lleoliad erbyn diwedd yr ail flwyddyn astudio, byddwch yn trosglwyddo i'r rhaglen radd gyfatebol.

*Cyfrifoldeb y myfyriwr yw sicrhau lleoliad, ond byddwch yn cael eich cefnogi trwy gydol eich taith ymgeisio gyda chyngor ac arweiniad. Os na allwch sicrhau lleoliad erbyn diwedd ail flwyddyn eich astudiaethau, byddwch yn trosglwyddo i'r rhaglen tair blynedd.
**mae lleoliadau tramor yn dibynnu ar gyfyngiadau VISA fesul gwlad.

Cyfleodd Cyflogadwyedd Ieithoedd Modern a Llenyddiaeth Saesneg

Mae ein graddedigion yn dechrau gyrfaoedd mewn ystod eang o sectorau gan gynnwys:

  • Addysg
  • Marchnata
  • Cyfryngau cymdeithasol
  • Gweinyddu prosiect
  • Addysgu
  • Gwaith dyngarol
  • Newyddiaduraeth, y cyfryngau a chysylltiadau cyhoeddus
  • Gwasanaethau cyhoeddus

Modiwlau

Rydym wrthi'n adolygu ein cwricwlwm i wella eich profiad dysgu ac ymgorffori sgiliau a fydd o fudd i'ch gyrfa yn y dyfodol. Mae hyn yn golygu y gall rhai modiwlau newid.

Gofynion Mynediad

Bydd y Brifysgol yn ystyried ceisiadau gan fyfyrwyr sy'n cynnig ystod eang o gymwysterau.

Cynnig Nodweddiadol Safon Uwch

ABB-BBC

Modern Languages and English Literature, BA (Hons)

Modern Languages and English Literature with a Year Abroad, BA (Hons)

Modern Languages and English Literature with a Year in Industry, BA (Hons)