Iaith a Llenyddiaeth Saesneg, BA (Anrh)

Astudiwch am Radd mewn Llenyddiaeth Saesneg a Sbaeneg gyda Blwyddyn Dramor

rankings banner

Trosolwg o'r Cwrs

Fel myfyriwr Iaith a Llenyddiaeth Saesneg, byddwch yn dysgu am y cydberthnasau cymhleth a diddorol rhwng llenyddiaeth, gwleidyddiaeth a hanes ac yn astudio'r ffordd y caiff iaith ei dadansoddi a'i dehongli mewn gwahanol gyd-destunau. Bydd y cwrs gradd BA tair blynedd hwn yn cynnig amrywiaeth o bosibiliadau gyrfa cyffrous drwy eich helpu i feithrin sgiliau trosglwyddadwy y mae cyflogwyr yn chwilio amdanynt.

Mae'r cwrs yn mynd i'r afael â'r ffordd rydym yn caffael iaith, sut mae iaith yn gweithio, sut mae cymdeithasau'n cyfathrebu a mwy na mil o flynyddoedd o lenyddiaeth, o Beowulf i'r presennol. Cewch gyfle i astudio llenyddiaeth genedlaethol a byd-eang, llenyddiaeth y Dadeni, ffuglen Gothig a phoblogaidd, llenyddiaeth y 19eg ganrif, modernrwydd a ffuglen gyfoes, rhywedd a diwylliant, ysgrifennu creadigol a phroffesiynol.

Bydd gennych opsiwn o astudio ar gyfer Tystysgrif Caergrawnt mewn Addysgu'r Iaith Saesneg i Oedolion (CELTA) yn ystod eich ail flwyddyn, a fydd yn gyfle i wella eich profiad fel myfyriwr a'ch rhagolygon gyrfa ymhellach.

Pam Iaith a Llenyddiaeth Saesneg yn Abertawe?

Mae pwnc Llenyddiaeth Saesneg ym Mhrifysgol Abertawe, sydd wedi'i leoli ar gampws godidog Parc Singleton, mewn parcdir sy'n edrych dros Fae Abertawe ar gyrion Penrhyn Gŵyr, yn y safle canlynol:

Saesneg yn Abertawe:

  • 11eg yn y DU am Effaith Ymchwil (REF2021)
  • Ymhlith y 15 uchaf yn y DU ar gyfer Boddhad Addysgu (Guardian University Guide 2026)
  • 101-150 uchaf yn y Byd (QS World University Rankings by Subject 2025)
  • 3ydd yng DU (NSS 2025) asesu o dan 'ieithoedd saesneg' *

*Yn seiliedig ar y sgôr gyfartalog ar gyfer agwedd gadarnhaol wrth ateb cwestiwn 1 - 26 yn Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr 2025, o'n cymharu â phrifysgolion eraill yn y Times Good University Guide.

Eich Profiad Iaith a Llenyddiaeth Saesneg

Rydym yn cynnig cynnwys cwrs amrywiol a hyblyg, felly gallwch lywio eich cwrs yn unol â'ch diddordebau eich hun, boed hynny mewn llenyddiaeth genedlaethol a byd-eang, llenyddiaeth y Dadeni, ffuglen Gothig a phoblogaidd, llenyddiaeth y 19eg ganrif, modernrwydd a ffuglen gyfoes, rhywedd a diwylliant, ysgrifennu creadigol a phroffesiynol, dadansoddi iaith, ieithyddiaeth gymdeithasegol, astudio tafodieithoedd neu addysgu Saesneg fel iaith dramor.

Mae gan Gymru draddodiad telynegol cyfoethog ac Abertawe yw man geni Dylan Thomas. Gallwch gymryd rhan mewn prosiectau gyda Chanolfan Dylan Thomas a National Theatre Wales.

Cewch eich addysgu gan ysgrifenwyr profiadol sydd ag enw da sefydledig y mae eu gwaith wedi cael ei gyhoeddi, ei ddarlledu a'i berfformio'n eang ac mae ein staff academaidd yn gydnabyddedig yn rhyngwladol am eu hymchwil.

Yn yr ail flwyddyn, cewch gyfle i astudio ar gyfer cymhwyster CELTA i athrawon Saesneg fel iaith dramor, sy'n uchel ei barch. Bydd gennych opsiwn o dreulio semester yn UDA, Canada, Tsieina, Hong Kong neu Singapôr.

Mae gwaith rhai o'n myfyrwyr wedi cael ei gyhoeddi mewn cyfnodolion rhyngwladol a'i gyflwyno mewn cynadleddau rhyngwladol.

Hefyd, bydd gennych tiwtor personol a all roi unrhyw gymorth bugeiliol neu academaidd sydd ei angen arnoch, ac mae Cymdeithas y Myfyrwyr Saesneg yn trefnu amrywiaeth o ddigwyddiadau llenyddol, cymdeithasol a diwylliannol.

Cyfleoedd Cyflogaeth Iaith a Llenyddiaeth Saesneg

Mae ein graddedigion yn symud ymlaen i yrfaoedd mewn amrywiaeth eang o sectorau, gan gynnwys:

  • addysg
  • marchnata
  • cyfryngau cymdeithasol
  • gweinyddu prosiectau

Modiwlau

Rydym wrthi'n adolygu ein cwricwlwm i wella eich profiad dysgu ac ymgorffori sgiliau a fydd o fudd i'ch gyrfa yn y dyfodol. Mae hyn yn golygu y gall rhai modiwlau newid.

Gofynion Mynediad

Bydd y Brifysgol yn ystyried ceisiadau gan fyfyrwyr sy'n cynnig ystod eang o gymwysterau.

Cynnig Nodweddiadol Safon Uwch

ABB-BBC

Iaith a Llenyddiaeth Saesneg

Saesneg ac Astudiaethau Iaith gyda Blwyddyn Dramor

Saesneg ac Astudiaethau Iaith gyda Blwyddyn mewn Diwydiant