Trosolwg o'r Cwrs
Llenyddiaeth Saesneg yw un o'r disgyblaethau mwyaf amrywiol a heriol a gynigir gennym.
Drwy astudio ein cwrs gradd BA tair blynedd byddwch yn meithrin sensitifrwydd tuag at iaith ac yn ceisio ateb rhai cwestiynau pryfoclyd. Mae hefyd yn cynnig amrywiaeth o bosibiliadau gyrfa cyffrous drwy eich helpu i feithrin sgiliau trosglwyddadwy y mae cyflogwyr yn rhoi llawer o werth arnynt.
Cewch gyfle i astudio dros fil o flynyddoedd o lenyddiaeth, o Beowulf i'r presennol. Mae ein cwrs yn cwmpasu llenyddiaeth genedlaethol a byd-eang sy'n ymestyn o lenyddiaeth y Dadeni, ffuglen Gothig a phoblogaidd a llenyddiaeth y 19eg ganrif i fodernrwydd a ffuglen gyfoes. Ymhlith y pynciau cyffrous eraill mae rhywedd a diwylliant ac ysgrifennu creadigol a phroffesiynol.
Cewch gyfle i dreulio semester yn astudio yn UDA, Canada, Tsieina, Hong Kong neu Singapôr, gan wella eich rhagolygon gyrfa ymhellach.