Trosolwg o'r Cwrs
Yn Abertawe, mae astudio Llenyddiaeth Saesneg yn golygu archwilio syniadau sy'n bwysig, rhai o'r gorffennol a'r presennol - gan eich gwneud chi'n rhan o waith diwylliannol beirniadol o bwys!
Mae ein gradd yn gwneud astudio llenyddiaeth yn gyfoes drwy archwilio testunau yn eu fframweithiau diwylliannol a hanesyddol a meddwl am yr hyn y maent yn ei olygu i'r byd rydyn ni'n byw ynddo heddiw. Mewn marchnad swyddi sy'n newid yn gyflym, mae cyflogwyr yn gwerthfawrogi graddedigion sydd â'r gallu i wynebu heriau, dadansoddi ac ysgrifennu cynnwys yn glir, a chyfathrebu mewn modd sy'n dwyn perswâd. Bydd ein gradd yn eich helpu i feithrin y sgiliau hynny.
Drwy gydol y rhaglen hon, byddwch yn:
- Profi 'teithio' llenyddol ar draws amser a lle, drwy archwilio testunau Saesneg a ysgrifennwyd mewn cyd-destunau lleol a byd-eang, o'r cyfnod canoloesol hyd heddiw.
- Archwilio'r cwestiynau diwylliannol mwyaf dybryd drwy destunau llenyddol: am hunaniaeth, yr argyfwng amgylcheddol, rhywedd, hil ac ethnigrwydd, a chenedl
- Cysylltu ag arbenigwyr. Gweithio gydag arbenigwyr cyhoeddi, cyrff diwylliannol, paneli gwobrau llenyddol, ac arweinwyr y diwydiant i helpu i lunio ein tirwedd lenyddol.
- Caffael sgiliau meddwl yn feirniadol, darllen ar gyfer ystyr, ysgrifennu at bwrpas, ac atebion creadigol: sgiliau sydd i gyd yn hanfodol i'r farchnad swyddi fodern.
- Cynnig safbwynt amrywiol a beirniadol i gyflogwyr.
- Cynhyrchu cymwysiadau proffesiynol, byd go iawn, creadigol a beirniadol.
- Meithrin gyrfa ag effaith. Paratoi ar gyfer rolau cyffrous ym maes cyhoeddi, y diwydiannau creadigol a diwylliannol, ysgrifennu/awduraeth, newyddiaduraeth, cyfathrebu a chysylltiadau cyhoeddus, a rheoli gwyliau llenyddol, fel beirniaid, sgriptwyr a chrewyr cynnwys.
Gyda'r diwydiannau diwylliannol a chreadigol bellach ymhlith y sectorau byd-eang sy'n tyfu gyflymaf, dyma'r amser i fod yn rhan o'r dyfodol llenyddol!