Trosolwg o'r Cwrs
Mae'r cwrs Llenyddiaeth Saesneg a Hanes yn un amrywiol a heriol sy'n cwmpasu cyfnod sy'n ymestyn o'r canol oesoedd i'r oes fodern.
Archwiliwch dros fil o flynyddoedd o lenyddiaeth, o'r oesoedd canol cynnar hyd heddiw, tra'n ymwneud â themâu sy'n defro’r meddwl rhyw, diwylliant, a chymdeithas. Mae’r cwrs hwn yn ymdrin â thraddodiadau llenyddol cenedlaethol a byd-eang, gan gynnwys y Dadeni, genres Gothig, llenyddiaeth y 19eg ganrif, a ffuglen gyfoes. Trwy ymchwilio i'r gweithiau hyn, byddwch yn datblygu dealltwriaeth ddyfnach o lenyddiaeth tra'n ennill sgiliau trosglwyddadwy a werthfawrogir gan gyflogwyr, gan agor ystod o gyfleoedd gyrfa.
Ochr yn ochr â llenyddiaeth, mae detholiad amrywiol o fodiwlau hanes yn eich galluogi i deilwra eich astudiaethau i’ch diddordebau. Gall y pynciau gynnwys Ewrop ganoloesol, hanes cymdeithasol modern Prydain, crefydd, iechyd a meddygaeth, rhyw a hanes menywod, hanes diwylliannol, cof rhyfel a gwrthdaro, hanes cyhoeddus a threftadaeth, a’r Rhyfel Oer.
Cewch hefyd gyfle i dreulio semester dramor yn UDA, Canada, Tsieina, Hong Kong neu Singapôr – profiad cyffrous sy'n llawn boddhad a fydd yn gwella eich profiad myfyriwr a’ch rhagolygon gyrfa ymhellach.