Llenyddiaeth Saesneg a Hanes gyda Blwyddyn Dramor, BA (Anrh)

Astudio Llenyddiaeth Saesneg a Hanes a Datblygu Sgiliau Gwerthfawr

students working together

Trosolwg o'r Cwrs

Mae'r cwrs Llenyddiaeth Saesneg a Hanes gyda Blwyddyn Dramor yn un amrywiol a heriol sy'n cwmpasu cyfnod sy'n ymestyn o'r canol oesoedd i'r oes fodern.

Bydd y cwrs gradd pedair blynedd hwn yn cynnig amrywiaeth o bosibiliadau gyrfa cyffrous drwy eich helpu i feithrin sgiliau trosglwyddadwy y mae cyflogwyr yn chwilio amdanynt. 

Cewch hefyd gyfle i dreulio blwyddyn yn astudio yn UDA neu Ewrop, gan wella eich rhagolygon gyrfa ymhellach.

Byddwch yn cael cyfle i astudio llenyddiaeth genedlaethol a byd-eang gan gynnwys llenyddiaeth y Dadeni, ffuglen Gothig a phoblogaidd, llenyddiaeth y 19eg ganrif a llenyddiaeth gyfoes, ysgrifennu creadigol a phroffesiynol neu Ewrop ganoloesol, meddygaeth fodern neu'r Rhyfel Oer.

Pam Llenyddiaeth Saesneg a Hanes gyda Blwyddyn Dramor yn Abertawe?

Mae pwnc Llenyddiaeth Saesneg ym Mhrifysgol Abertawe, sydd wedi'i leoli ar gampws godidog Parc Singleton, mewn parcdir sy'n edrych dros Fae Abertawe ar gyrion Penrhyn Gŵyr.

Cewch gyfle i fyw ac astudio yn UDA neu Ewrop am flwyddyn.

Mae Llenyddiaeth Saesneg yn Abertawe wedi'i rhestru:

  • Ymysg y 25 adran orau yn y DU am Foddhad Myfyrwyr (Complete University Guide 2025)
  • 101-150 uchaf yn y byd (QS World Rankings 2024)
  • 97% o raddedigion mewn cyflogaeth a/neu'n astudio, neu'n ymgymryd â gweithgareddau eraill, megis teithio, 15 mis ar ôl gadael Prifysgol Abertawe (HESA 2023)

 

Eich Profiad Llenyddiaeth Saesneg a Hanes gyda Blwyddyn Dramor

Rydym yn cynnig cynnwys cwrs amrywiol a hyblyg fel y gallwch deilwra eich cwrs gradd yn unol â'ch diddordebau, boed hynny mewn llenyddiaeth genedlaethol a byd-eang o Beowulf i'r presennol, llenyddiaeth y Dadeni, ffuglen Gothig a phoblogaidd, llenyddiaeth y 19eg ganrif, ffuglen gyfoes, rhywedd a diwylliant, ysgrifennu creadigol a phroffesiynol yn ogystal â hanes cymdeithasol modern Prydain, hanes crefydd, iechyd a meddygaeth, rhywedd a hanes menywod, hanes diwylliannol, hanes a chofio rhyfel a gwrthdaro, hanes cyhoeddus a threftadaeth.

Gallwch dreulio eich trydedd flwyddyn yn astudio yn UDA neu Ewrop.

Mae Cymdeithas Myfyrwyr Saesneg a Chymdeithas Myfyrwyr Hanes Prifysgol Abertawe yn trefnu digwyddiadau cymdeithasol a diwylliannol bywiog. Hefyd, bydd gennych Tiwtor Personol a all roi unrhyw gymorth bugeiliol neu academaidd sydd ei angen arnoch.

Cyfleoedd Cyflogaeth Llenyddiaeth Saesneg a Hanes gyda Blwyddyn Dramor

Mae ein graddedigion yn symud ymlaen i yrfaoedd mewn amrywiaeth eang o sectorau, gan gynnwys:

  • addysg
  • newyddiaduraeth
  • y cyfryngau a chysylltiadau cyhoeddus
  • gwasanaethau cyhoeddus

Modiwlau

Rydym wrthi'n adolygu ein cwricwlwm i wella eich profiad dysgu ac ymgorffori sgiliau a fydd o fudd i'ch gyrfa yn y dyfodol. Mae hyn yn golygu y gall rhai modiwlau newid.

Gofynion Mynediad

Bydd y Brifysgol yn ystyried ceisiadau gan fyfyrwyr sy'n cynnig ystod eang o gymwysterau.

Cynnig Nodweddiadol Safon Uwch

ABB-BBC

Llenyddiaeth Saesneg a Hanes gyda Blwyddyn Dramor