Beth sydd ei angen arnoch er mwyn astudio yn Abertawe
Gweler tudalen y cwrs perthnasol am ofynion mynediad cyrsiau penodol, neu cysylltwch â ni os nad ydych chi'n gweld eich cymhwyster ar y rhestr.
Cofiwch, os ydych chi'n cael graddau AAA-AAB neu gyfwerth, byddwch yn gymwys am Ysgoloriaeth Rhagoriaeth neu Deilyngdod - gweler yma am ragor o wybodaeth.
Ar hyn o bryd, mae cymwysterau yn y DU yn cael eu diwygio'n sylweddol; mae Prifysgol Abertawe wedi ystyried yn ofalus y wybodaeth sydd ar gael hyd yn hyn ar y newidiadau, ac mae datganiad wedi cael ei gyhoeddi - Qualification Reform Statement PDF.
Bagloriaeth Cymru Uwch – bydd ymgeiswyr yn gallu bodloni ein gofynion ar sail tair Safon Uwch neu ddwy Safon Uwch a’r Dystysgrif Her Sgiliau.
Cymhwyster Prosiect Estynedig – bydd ymgeiswyr y mae disgwyl iddynt ennill gradd B neu uwch yn y Cymhwyster Prosiect Estynedig yn derbyn cynnig o un radd yn llai e.e. byddai cynnig o AAB yn newid i ABB yn ogystal â B yn y Cymhwyster Prosiect Estynedig.
Rydym yn annog ymgeiswyr i ddisgrifio gwaith ymchwil y Cymhwyster Prosiect Estynedig yn eu datganiadau personol UCAS, yn enwedig pan fydd yr ymchwil yn berthnasol i’w cwrs a/neu eu gyrfa arfaethedig.