Addysg, BA (Anrh)

Mae clirio ar agor!

Gwnewch gais nawr
myfrywr

Mae'r cwrs hwn ar gael trwy Glirio

Cymorth a Chefnogaeth Clirio 0808 175 3071

Trosolwg o'r Cwrs

Mae ein cwrs BA (Anrh) Addysg yn gwrs tair blynedd, blaengar, a arweinir gan ymchwil a fydd yn rhoi amrywiaeth o wybodaeth a sgiliau i chi sydd eu hangen ar gyfer gyrfa gyffrous a gwerth chweil yn y maes hwn.

Mae'n faes astudio sy'n datblygu'n gyflym, sy'n seiliedig ar ddisgyblaethau seicoleg, athroniaeth, hanes a'r gwyddorau cymdeithasol gan ganolbwyntio ar ddeall sut y mae pobl yn dysgu ac sut y mae strwythurau addysg yn meithrin dysgu gydol oes a datblygiad personol.

Pam Addysg yn Abertawe?

Wedi’i leoli ar ein campws godidog ym Mharc Singleton, mewn parcdir sy’n edrych dros Fae Abertawe ar gyrion Penrhyn Gŵyr, cewch gyfle i:

  • archwilio arfer addysgol yn yr oes ddigidol; astudio technolegau dysgu digidol sydd ar flaen y gad o ran tueddiadau addysg cyfredol
  • ddysgu am bolisi ac arfer addysg hanesyddol a chyfoes
  • ddysgu am wahanol arddulliau o arwain a rheoli
  • gael dealltwriaeth o sut mae addysg yn edrych mewn gwahanol wledydd ac archwilio'r berthynas rhwng cydraddoldeb, tegwch ac amrywiaeth ac addysg
  • archwilio materion yn ymwneud ag anghenion dysgu ychwanegol a lles
  • astudio ddamcaniaethau gwahanol am ddatblygiad, addysgu a dysgu plant.

Dysgwch gan ddarlithwyr hynod gymwys sydd ag ystod eang o wybodaeth ac arbenigedd mewn agweddau amrywiol o Addysg. Bydd eich darlithwyr yn eich helpu i ddatblygu sgiliau academaidd ac ymchwil yn ogystal ag ystod o sgiliau cyflogadwyedd, a bydd cyflogwyr yn gwerthfawrogi pob un ohonynt.

Mae Addysg yn Abertawe:

  • Yn y 15 adran orau yn y DU am Ansawdd Ymchwil (Complete University Guide 2025)

Eich Profiad Addysg

Mae Addysg yn Abertawe yn radd hyblyg sy'n cynnig amrywiaeth eang o fodiwlau arbenigol sy'n eich galluogi i deilwra eich nodau gyrfa ar gyfer y dyfodol tra'n datblygu eich diddordebau unigol.

Cewch gyfle i gwblhau lleoliadau gwaith mewn sefydliadau fel ysgolion, awdurdodau lleol, busnesau ac elusennau i wella eich profiad fel myfyriwr a'ch rhagolygon gyrfa.

Cyfleoedd Cyflogaeth Addysg

Mae ein graddedigion Addysg yn dilyn gyrfaoedd yn cynnwys:

  • Addysgu ysgol gynradd ac uwchradd
  • Addysgu blynyddoedd cynnar
  • Gweinyddu addysgol
  • Datblygu cymunedol
  • Cyhoeddi addysgol
  • Astudiaethau ôl-raddedig

Modiwlau

Yn ystod eich blwyddyn gyntaf byddwch yn astudio meysydd sy'n cynnwys addysg gyfoes; tarddiad a theori ymchwil addysgol ac addysg mewn gwledydd eraill.

Yn ystod y ddwy flynedd ddilynol byddwch yn cwmpasu amrywiaeth eang o feysydd yn cynnwys datblygiad plant; diogelu a hyrwyddo llesiant mewn addysg; niwrowyddoniaeth addysgol a gwahaniaeth ac amrywiaeth mewn addysg.

Byddwch yn cwblhau traethawd hir annibynnol yn seiliedig ar ymchwill yn y flwyddyn olaf, gan ddatblygu'r wybodaeth a'r sgiliau i fod yn addysgwr effeithiol o ran ymchwil.

Addysg

Addysg gyda Blwyddyn Dramor