Addysg a'r Gymraeg (Llwybr ar gyfer myfyrwyr Ail Iaith), BA (Anrh)

Archwilio ymarfer addysgol mewn oes ddigidol

myfwrwr

Trosolwg o'r Cwrs

Mae ein cwrs BA (Anrh) Addysg gyda Chymraeg (Llwybr Y Fyfyrwyr Ail Iaith) yn radd dair blynedd flaengar, a arweinir gan ymchwil a fydd yn rhoi amrywiaeth o wybodaeth a sgiliau i chi sydd eu hangen ar gyfer gyrfa gyffrous a gwerth chweil yn y maes hwn.

Mae'n faes astudio sy'n datblygu'n gyflym sy'n seiliedig ar yr iaith Gymraeg, hawliau'r Gymraeg, aml-ddiwylliannaeth ac iaith a chymdeithas a llenyddiaeth yn ogystal â seicoleg, athroniaeth, hanes a'r gwyddorau cymdeithasol gan ganolbwyntio ar ddeall sut y mae pobl yn dysgu ac sut y mae strwythurau addysg yn meithrin dysgu gydol oes a datblygiad personol.

Pam Addysg a'r Gymraeg (Llwybr ar gyfer myfyrwyr Ail Iaith) yn Abertawe?

Wedi'ch lleoli ar gampws godidog Parc Singleton, mewn parcdir sy'n edrych dros Fae Abertawe ar gyrion Penrhyn Gŵyr.

Cewch gyfle hefyd i wneud y canlynol:

  • Dysgu gan awduron a beirdd amlwg a chymwys tu hwnt, y mae dau ohonynt wedi ennill cystadleuaeth Llyfr y Flwyddyn yng Nghymru;
  • Astudio'r iaith Gymraeg ac ieithyddiaeth; cynllunio iaith a pholisi a llenyddiaeth, a dysgu sgiliau arwain a rheoli;
  • Archwilio ymarfer addysgol mewn oes ddigidol, astudio technolegau dysgu digidol sydd ar flaen y gad o ran tueddiadau addysg;
  • Gwneud cais am Brif Ysgoloriaeth y Coleg Cymraeg gwerth £3,000, yn ogystal ag Ysgoloriaethau Cyffredinol y Brifysgol.

Mae Astudiaethau Celtaidd yn Abertawe:

  • Yn 2il yn y DU yn gyffredinol - Celtic Studies (Times Good University Guide 2025)

Mae Addysg yn Abertawe:

  • Yn y 15 adran orau yn y DU am Ansawdd Ymchwil (Complete University Guide 2026)

Eich Profiad Addysg a'r Gymraeg (Llwybr ar gyfer myfyrwyr Ail Iaith)

Mae'r radd hyblyg hon yn cynnig amrywiaeth eang o fodiwlau arbenigol sy'n eich galluogi i deilwra eich nodau gyrfa ar gyfer y dyfodol tra'n datblygu eich diddordebau unigol.

Byddwch yn cael cyfle i gwblhau lleoliadau gwaith er mwyn gwella eich profiad fel myfyriwr a'ch rhagolygon gyrfa.

Byddwch yn dysgu gan arbenigwyr arloesol sydd â chysylltiadau cenedlaethol a rhyngwladol cryf sydd ag enw da rhagorol o ran ansawdd eu haddysgu a'u hymchwil.

Rhoddir pwyslais ar ddatblygu eich sgiliau unigol ac ar roi cymorth o ansawdd uchel i chi.

Cyfleoedd Cyflogaeth Addysg a'r Gymraeg (Llwybr ar gyfer myfyrwyr Ail Iaith)

Mae ein graddedigion Addysg yn dilyn gyrfaoedd yn cynnwys:

  • Addysg
  • Marchnata
  • Y Cyfryngau
  • Gwleidyddiaeth
  • Cynllunio iaith
  • Gwaith ieuenctid
  • Cyfieithu
  • Gweinyddiaeth y llywodraeth
  • Astudiaethau ôl-raddedig

Bydd angen cymhwyster Addysg Gychwynnol Athrawon neu Dystysgrif Addysg i Raddedigion ychwanegol arnoch i fod yn athro/athrawes.

Modiwlau

Rydym wrthi'n adolygu ein cwricwlwm i wella eich profiad dysgu ac ymgorffori sgiliau a fydd o fudd i'ch gyrfa yn y dyfodol. Mae hyn yn golygu y gall rhai modiwlau newid.

Gofynion Mynediad

Bydd y Brifysgol yn ystyried ceisiadau gan fyfyrwyr sy'n cynnig ystod eang o gymwysterau.

Cynnig Nodweddiadol Safon Uwch

BBB-BCC

Addysg a'r Gymraeg (Llwybr ar gyfer myfyrwyr Ail Iaith)

Addysg a'r Gymraeg gyda Blwyddyn Dramor