Addysg a'r Gymraeg (Llwybr i Fyfyrwyr Iaith Gyntaf), BA (Anrh)

Mae clirio ar agor!

Gwnewch gais nawr
myfrywr

Mae'r cwrs hwn ar gael trwy Glirio

Cymorth a Chefnogaeth Clirio 0808 175 3071

Trosolwg o'r Cwrs

Mae ein cwrs BA (Anrh) Addysg gyda Chymraeg yn radd dair blynedd flaengar, a arweinir gan ymchwil a fydd yn rhoi amrywiaeth o wybodaeth a sgiliau i chi sydd eu hangen ar gyfer gyrfa gyffrous a gwerth chweil yn y maes hwn.

Mae'n faes astudio sy'n datblygu'n gyflym sy'n seiliedig ar yr iaith Gymraeg, hawliau'r Gymraeg, aml-ddiwylliannaeth ac iaith a chymdeithas a llenyddiaeth yn ogystal â seicoleg, athroniaeth, hanes a'r gwyddorau cymdeithasol gan ganolbwyntio ar ddeall sut y mae pobl yn dysgu ac sut y mae strwythurau addysg yn meithrin dysgu gydol oes a datblygiad personol.

Pam Addysg a'r Gymraeg (Llwybr i Fyfyrwyr Iaith Gyntaf) yn Abertawe?

Mae Astudiaethau Celtaidd yn Abertawe: 

  • Yn 2il yn y DU yn gyffredinol - Celtic Studies (Times Good University Guide 2025)

Mae Addysg yn Abertawe:

  • Yn y 15 adran orau yn y DU am Ansawdd Ymchwil (Complete University Guide 2025)

Eich Profiad Addysg a'r Gymraeg (Llwybr i Fyfyrwyr Iaith Gyntaf)

Mae'r radd hyblyg hon yn cynnig amrywiaeth eang o fodiwlau arbenigol sy'n eich galluogi i deilwra eich nodau gyrfa ar gyfer y dyfodol tra'n datblygu eich diddordebau unigol.

Byddwch yn cael cyfle i gwblhau lleoliadau gwaith er mwyn gwella eich profiad fel myfyriwr a'ch rhagolygon gyrfa.

Byddwch yn dysgu gan arbenigwyr arloesol sydd â chysylltiadau cenedlaethol a rhyngwladol cryf sydd ag enw da rhagorol o ran ansawdd eu haddysgu a'u hymchwil.

Rhoddir pwyslais ar ddatblygu eich sgiliau unigol ac ar roi cymorth o ansawdd uchel i chi.

Cyfleoedd Cyflogaeth Addysg a'r Gymraeg (Llwybr i Fyfyrwyr Iaith Gyntaf)

Mae ein graddedigion Addysg yn dilyn gyrfaoedd yn cynnwys:

  • Addysg
  • Marchnata
  • Y Cyfryngau
  • Gwleidyddiaeth
  • Cynllunio iaith
  • Gwaith ieuenctid
  • Cyfieithu
  • Gweinyddiaeth y llywodraeth
  • Astudiaethau ôl-raddedig

Bydd angen cymhwyster Addysg Gychwynnol Athrawon neu Dystysgrif Addysg i Raddedigion ychwanegol arnoch i fod yn athro/athrawes.

Modiwlau

Yn ystod eich blwyddyn gyntaf byddwch yn astudio meysydd yn cynnwys addysg, problemau a materion cyfoes; cyflwyniad i ddysgu ac addysgu ac addysg ar draws ystod bywyd.

Yn ystod y ddwy flynedd ddilynol byddwch yn astudio amrywiaeth eang o bynciau yn yr iaith Gymraeg yn cynnwys astudiaethau plentyndod; arwain a rheoli ym myd addysg; gwahaniaeth ac amrywiaeth mewn addysg ac ymarfer addysgol mewn oes ddigidol.

Byddwch yn cwblhau traethawd hir annibynnol yn seiliedig ar ymchwil yn y flwyddyn olaf, gan ddatblygu gwybodaeth a sgiliau i fod yn ymarferwr hyderus yn eich dewis yrfa.

Addysg a'r Gymraeg (Llwybr i Fyfyrwyr Iaith Gyntaf)

Addysg a'r Gymraeg gyda Blwyddyn Dramor