Astudiaethau Plentyndod Cynnar gyda Statws Ymarferydd Blynyddoedd Cynnar, BA (Anrh)

Mae clirio ar agor!

Gwnewch gais nawr
myfyrwyr mewn ystafell ddosbarth

Mae'r cwrs hwn ar gael trwy Glirio

Cymorth a Chefnogaeth Clirio 0808 175 3071

Trosolwg o'r Cwrs

Mae Astudiaethau Plentyndod Cynnar gyda Statws Ymarferwr y Blynyddoedd Cynnar (EYPS) yn cynnig ymagwedd gyfannol at ddeall plant o enedigaeth hyd at wyth mlwydd oed. Mae’n nodi pwysigrwydd plentyndod cynnar fel cyfnod sylweddol ym mywyd sy’n sail i ddysgu gydol oes, lle gellir ystyried plant yn aelodau galluog a medrus o gymdeithas.

Ar y cwrs hwn, mae myfyrwyr yn treulio 700 awr (oddeutu 20 wythnos) ar leoliadau gwaith mewn lleoliadau plentyndod cynnar ac mae gofyn iddynt ddangos cymhwysedd yn y Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol a gyflwynwyd gan Gofal Cymdeithasol Cymru. Mae'r lleoliadau gwaith yn rhai amser llawn ac wedi'u trefnu mewn blociau o rhwng pum a deg wythnos. Bydd graddedigion yn cymhwyso gyda'r cymhwyster Statws Ymarferydd Blynyddoedd Cynnar.

Pam Astudiaethau Plentyndod Cynnar gyda Statws Ymarferydd Blynyddoedd Cynnar yn Abertawe?

Mae Astudiaethau Plentyndod Cynnar yn Abertawe:

  • Yn y 3ydd safle yn y DU am Ansawdd Ymchwil (Complete University Guide 2025)
  • Yn y 5ed safle yn y DU yn gyffredinol (Complete University Guide 2025)

Byddwch yn dysgu sut i gefnogi plant a chydnabod eu bod yn ganolbwynt teuluoedd, cymunedau a’r byd economaidd-gymdeithasol ehangach. Byddwch yn astudio amrywiaeth, yr hyn sy’n unigryw am bob plentyn a sut gall gweithwyr proffesiynol ym maes Plentyndod Cynnar gefnogi plant mewn sefyllfaoedd anodd, megis y rhai hynny sy’n dioddef o drawma ac sydd mewn argyfwng cymdeithasol. Ar hyn o bryd, mae gan Astudiaethau Plentyndod Cynnar broffil uchel yn rhyngwladol ar lefel lywodraethol ac o fewn sefydliadau rhyngwladol, lle mae hawliau plant, iechyd, lles a phroblemau cymdeithasol wedi denu llawer o sylw o ganlyniad i symudiadau byd-eang diweddar a’r argyfwng ffoaduriaid. Nod y cwrs hwn yw darparu addysgu a hyfforddiant penodol i’r rhai hynny sy’n dymuno gweithio gyda babanod, plant bach a phlant ifanc mewn cyd-destun proffesiynol.

Eich Profiad Astudiaethau Plentyndod Cynnar gyda Statws Ymarferydd Blynyddoedd Cynnar

Mae Astudiaethau Plentyndod Cynnar yn Abertawe yn gwrs gradd hyblyg sy’n cynnig ystod eang o fodiwlau arbenigol sy’n eich galluogi chi i deilwra eich nodau gyrfa ar gyfer y dyfodol wrth ddatblygu eich diddordebau unigol. Byddwch chi’n dysgu am y ffyrdd gorau o gefnogi plant a theuluoedd a chysylltiadau cymunedol. Byddwch chi’n ennill Statws Ymarferydd y Blynyddoedd Cynnar (EYPS) wrth gael profiad ymarferol yn y gweithle ar y cyd â gwybodaeth ddamcaniaethol a gwybodaeth yn seiliedig ar bolisi, yn ogystal â’r sgiliau trosglwyddadwy angenrheidiol ar gyfer ymarfer effeithiol yn y Blynyddoedd Cynnar.

Cewch gyfle i ymgymryd â lleoliadau gwaith mewn sefydliadau megis ysgolion cynradd, canolfannau Dechrau’n Deg, a meithrinfeydd preifat er mwyn gwella eich profiad fel myfyriwr a’ch rhagolygon gyrfa.

Cyfleoedd Cyflogaeth Astudiaethau Plentyndod Cynnar gyda Statws Ymarferydd Blynyddoedd Cynnar

Bydd ein graddedigion yn cymhwyso gan ennill cymhwyster Statws Ymarferydd Blynyddoedd Cynnar a ddyfernir gan Ofal Cymdeithasol Cymru.

  • Gall gyrfaoedd gynnwys:
  • Addysgu'r Blynyddoedd Cynnar
  • Gweithwyr Cefnogi Teuluoedd a Chymunedau
  • Cynorthwywyr Addysgu
  • Astudio ôl-raddedig

Bydd angen astudiaethau ychwanegol ar gyfer rhai gyrfaoedd, megis cymhwyster Addysg Gychwynnol Athrawon (ITE) neu Dystysgrif Addysg Ôl-raddedig (TAR) er mwyn bod yn athro neu’n athrawes.

Modiwlau

Ym mlwyddyn gyntaf eich astudiaethau, cewch eich addysgu drwy ddarlithoedd a thiwtorialau. Y dull asesu fydd gwaith cwrs, traethawd ac arholiad.

Yn yr ail flwyddyn, byddwch yn dysgu drwy seminarau a gwaith grŵp. Mae'r dull asesu'n amrywiol, gan gynnwys gwaith cwrs, traethodau, cyflwyniadau grŵp ac arholiad.

Yn y flwyddyn olaf, byddwch yn astudio'n annibynnol drwy ddulliau ymchwil, traethawd hir neu bortffolio ymarfer, a chewch hefyd eich addysgu drwy seminarau a gwaith grŵp. Mae'r dulliau asesu'n cynnwys traethawd hir ymchwil annibynnol, cyflwyniad annibynnol, gwaith cwrs ac arholiad.

Byddwch yn treulio 700 o oriau ar leoliad yn ystod y cwrs tair blynedd.

Gweld Rhestr Ddarllen Astudiaethau Plentyndod Cynnar.

Astudiaethau Plentyndod Cynnar gyda Statws Ymarferydd Blynyddoedd Cynnar

Astudiaethau Plentyndod Cynnar gyda Statws Ymarferydd Blynyddoedd Cynnar gyda Blwydyyn Dramor