Trosolwg o'r Cwrs
Mae rhai o faterion mawr ein hoes, megis yr argyfwng costau byw, Brexit, arlywyddiaeth Trump yn America, y newid yn yr hinsawdd, a Covid-19, wedi sbarduno diddordeb sylweddol mewn gwleidyddiaeth, a hefyd wedi ysgogi myfyrdod ar gysyniadau athronyddol allweddol megis democratiaeth, rhyddid, gwirionedd a chyfiawnder. Mae’r radd BA mewn Athroniaeth a Gwleidyddiaeth ym Mhrifysgol Abertawe yn galluogi myfyrwyr i archwilio cwestiynau sylfaenol am y byd o’n cwmpas a’r math o gymdeithas rydym eisiau byw ynddi. Mae hyn yn cynnwys beth yw ystyr bod yn rhydd, pa fath o ddemocratiaeth sydd fwyaf dymunol, natur yr hunan a sut i fyw bywyd sy’n foesol dda.
Mae’r radd BA mewn Athroniaeth a Gwleidyddiaeth yn eich arfogi â sgiliau deallusol allweddol y mae galw mawr amdanynt ymhlith llawer o gyflogwyr. Mae’r sgiliau hyn yn cynnwys meddwl yn feirniadol, datrys problemau, bod yn agored eich meddwl, a dadansoddi gwybodaeth yn effeithiol.
Mae’r addysgu wedi’i lywio gan yr arbenigedd ymchwil sydd gan aelodau ein Hadran Gwleidyddiaeth, Athroniaeth a Chysylltiadau Rhyngwladol, a byddwch yn astudio modiwlau sy’n croesi rhwng athroniaeth a gwleidyddiaeth, gan eich galluogi i archwilio’r ffyrdd y mae athroniaeth a gwleidyddiaeth yn gysylltiedig a sut y gellir eu cyfuno er mwyn deall a goresgyn yr heriau cymdeithasol mawr sy’n ein hwynebu.