Trosolwg o'r Cwrs
Darganfyddwch y byd drwy ddwy lens bwerus: gwleidyddiaeth fyd-eang a dylanwad America. Mae ein gradd gyfunol mewn Cysylltiadau Rhyngwladol ac Astudiaethau Americanaidd yn rhoi'r cyfle i chi archwilio sut mae cenhedloedd yn rhyngweithio â'i gilydd, pam mae grym yn bwysig a sut mae diwylliant a pholisïau UDA wedi llunio'r byd rhyngwladol ac yn parhau i wneud hynny. O ddiplomyddiaeth a diogelwch i lenyddiaeth, ffilm a hunaniaeth, byddwch yn meithrin dealltwriaeth hanfodol o heriau byd-eang mwyaf dybryd y byd sydd ohoni, wrth ddatblygu'r sgiliau dadansoddol a chyfathrebu y mae galw mawr amdanynt ymhlith cyflogwyr.
Mae ein gradd BA cydanrhydedd yn ymdrin â Chysylltiadau Rhyngwladol â'i ffocws ar wleidyddiaeth fyd-eang, diogelwch, hawliau dynol a chydweithrediad rhyngwladol, yn ogystal ag Astudiaethau Americanaidd sy’n archwilio hanes, diwylliant a gwleidyddiaeth UDA, ynghyd â’i rôl fel grym byd-eang. Cewch gyfle i astudio hanes, llenyddiaeth, gwleidyddiaeth a diwylliant Americanaidd, o adeg gwladychu i'r presennol, ac amrywiaeth o bynciau cysylltiadau rhyngwladol o ddiogelwch rhyngwladol a globaleiddio i heddwch a rheoli gwrthdaro, neu hawliau dynol ac economi wleidyddol. Gyda'i gilydd, maent yn cynnig safbwynt cyfannol ar sut mae UDA yn llunio'r system ryngwladol, ac yn ei dro, sut mae UDA yn cael ei llunio gan y system honno, sydd yn hynod berthnasol yn ein byd rhyng-gysylltiedig heddiw.
Gallwch lunio'r radd yn unol â'ch diddordebau eich hun, boed hynny ym maes diwylliant poblogaidd a phrotestio gwleidyddol UDA neu ddamcaniaeth wleidyddol a heddwch a gwrthdaro rhyngwladol. Mae gennych hefyd gyfle i astudio am flwyddyn neu semester yn yr Unol Daleithiau, lle byddwch yn darganfod y pwnc yn uniongyrchol.