Cysylltiadau Rhyngwladol a Hanes, BA (Anrh)

Darganfyddwch Abertawe yn ein Diwrnod Agored nesaf

Cadwch le heddiw
students working together

Trosolwg o'r Cwrs

Mae Cysylltiadau Rhyngwladol a Hanes yn archwilio cwestiynau mawr o sefydlu gwladwriaethau, globaleiddio, hawliau dynol, astudiaethau diogelwch, neu heddwch a gwrthdaro ac yn gofyn sut mae digwyddiadau'r gorffennol yn dylanwadu ar ein byd cyfoes. Byddwch yn dysgu am ddamcaniaethau Cysylltiadau Rhyngwladol ac astudiaethau achos yn y byd go iawn fel ei gilydd, fel rhyfeloedd a chwyldroadau, dad-drefedigaethu, neu fudo yn y gorffennol a'r presennol. Byddwch hefyd yn ymdrin â hanes drwy bynciau gan gynnwys hanes menywod a rhywedd, cof am ryfel a gwrthdaro, a hil a hiliaeth.

Mae astudio'r cwrs gradd hwn yn agor ystod o gyfleoedd gyrfa cyffrous drwy eich helpu i ddatblygu sgiliau fel gweithio gyda ffynonellau gwreiddiol, cymhwyso cysyniadau i senarios yn y byd go iawn, a dehongli digwyddiadau cymhleth, sydd i gyd yn cael eu gwerthfawrogi'n fawr gan gyflogwyr.

Pam Cysylltiadau Rhyngwladol a Hanes yn Abertawe?

Addysgir ein cwrs Cysylltiadau Rhyngwladol a Hanes ar ein campws Parc Singleton ysblennydd, mewn parcdir sy'n edrych dros Fae Abertawe ar gyrion Penrhyn Gŵyr ac mae'n uchel iawn ei barch ymysg myfyrwyr a chyflogwyr fel ei gilydd:

Wrth astudio Cysylltiadau Rhyngwladol a Hanes yn Abertawe, gallwch:

  • Ddewis y modiwl blwyddyn olaf Astudiaethau Seneddol Prydain, a chewch eich addysgu gan ein staff academaidd arbenigol ac Aelodau Seneddol.
  • Cymryd rhan mewn gweithdai a seminarau sy'n cael eu cynnal gan siaradwyr gwadd.
  • Cyhoeddi eich papurau rhagorol yn Populo – sef y cylchgrawn myfyrwyr, neu ddod yn rhan o'r tîm golygyddol

Mae Cysylltiadau Rhyngwladol yn Abertawe yn y safle canlynol:

  • Ymysg y 15 adran orau yn y DU am Foddhad â’r Addysgu (Guardian University Guide 2026)

Hanes yn Abertawe:

  • Mae 94% o raddedigion Hanes yn gweithio, yn astudio a/neu'n ymgymryd â gweithgareddau eraill megis teithio 15 mis ar ôl gadael Prifysgol Abertawe (Arolwg Hynt Graddedigion 2025)

Byddwch yn cael eich addysgu gan academyddion arbenigol ar draws y ddwy ddisgyblaeth. Mae ein tîm Hanes yn cynnwys arbenigwyr mewn hanes canoloesol, modern cynnar a modern ledled y DU, Ewrop a'r byd ehangach. Ochr yn ochr â hyn, byddwch yn dysgu gan ysgolheigion sy'n gydgysylltiedig yn rhyngwladol ym meysydd cysylltiadau rhyngwladol, gwleidyddiaeth fyd-eang, astudiaethau cuddwybodaeth a diogelwch, gan roi profiad dysgu eang a diddorol i chi.

Er mwyn cyfoethogi eich profiad fel myfyriwr a gwella eich rhagolygon gyrfa, gallwch gymryd rhan yn Rhaglenni Lleoliadau Gwaith Prifysgol Abertawe, gan gynnwys Rhaglen Interniaeth â Thâl Abertawe a Lleoliadau Gwaith a Ariennir gan Brifysgolion Santander.

Gallwch hefyd gysylltu â Thîm Cyflogadwyedd y Brifysgol, sy'n darparu rhwydwaith sy'n cysylltu myfyrwyr â chyflogwyr. Drwy'r gwasanaeth hwn gallwch gymryd rhan mewn sgyrsiau, gweithdai a digwyddiadau rhwydweithio dan arweiniad myfyrwyr sy'n eich helpu i fagu hyder, meithrin eich cysylltiadau a datblygu eich proffil proffesiynol.

Eich Profiad Cysylltiadau Rhyngwladol a Hanes

Yn ystod eich cwrs Cysylltiadau Rhyngwladol a Hanes bydd gennych diwtor personol ar gyfer unrhyw gymorth bugeiliol ac academaidd y gallai fod ei angen arnoch. Mae'r cymdeithasau myfyrwyr Gwleidyddiaeth a Chysylltiadau Rhyngwladol (PAIR), y Gymdeithas Astudiaethau Hynafol a chymdeithas myfyrwyr Hanes yn trefnu amrywiaeth o ddigwyddiadau cymdeithasol a diwylliannol yn ogystal â sgyrsiau gan ymarferwyr.

Mae strwythur y radd yn hyblyg, gan gynnig ystod eang o fodiwlau arbenigol, gan gynnwys cyfiawnder byd-eang a hawliau dynol, De'r Byd mewn Cysylltiadau Rhyngwladol, Dylanwadu ar y Ddaear, Gwleidyddiaeth Amgylcheddol Fyd-eang, Ymerodraeth a Chenedligrwydd, neu Ryfeloedd Cudd, sy'n eich galluogi i deilwra'ch gradd i'ch nodau gyrfa yn y dyfodol.

Mae rhai o uchafbwyntiau'r gradd yn cynnwys:

  • y modiwl Astudiaethau Seneddol sy'n cael ei gyflwyno mewn cydweithrediad â Thŷ'r Cyffredin;
  • y modiwl dysgu drwy brofiad 'Efelychu Uwchgynhadledd Fyd-eang' lle gallwch roi cynnig ar eich sgiliau trafod a gweithio ar atebion ar gyfer heriau byd-eang dethol;
  • Ymchwilio i Wleidyddiaeth a Chysylltiadau Rhyngwladol neu Ymchwilio i Hanes – profiadau dysgu ar sail prosiectau lle rydych chi'n cynnal ymchwil i gwestiynau cyfoes ac yn cyflwyno eich canfyddiadau i'ch cyfoedion.

Mae'r rhaglen hon yn cynnwys cyfleoedd i dreulio semester neu flwyddyn dramor, mewn lleoliadau fel Hong Kong, Tsieina neu Singapore neu Ogledd America, gan gyfoethogi eich dysgu a chynnig profiad bywyd amhrisiadwy. Mae'r cwrs hwn hefyd yn cynnig y cyfle i chi dreulio Blwyddyn ym myd Diwydiant, yn y DU neu dramor, gan eich galluogi i ennill profiad gwerthfawr yn y gweithle. Mae'r Brifysgol yn ffafrio lleoliadau â thâl yn unig, sydd â chyflog gwerth mwy nag £20,000 ar gyfartaledd. Mae lleoliadau di-dâl yn cael eu hystyried fesul achos.

Mae'r Flwyddyn Sylfaen ddewisol sy'n rhan o'r rhaglen hon yn rhoi cyflwyniad cyffrous i chi i addysg uwch, ac yn sicrhau bod gennych y sgiliau, yr hyder a'r wybodaeth sydd eu hangen arnoch chi i fod yn llwyddiannus yn eich gradd israddedig. Mae'n ddelfrydol os bydd angen ychydig fwy o gymorth arnoch chi ar ôl addysg bellach neu os ydych yn dychwelyd i fyd addysg ar ôl seibiant. Ar ôl i chi gwblhau'r Flwyddyn Sylfaen yn llwyddiannus, byddwch chi'n symud ymlaen i Flwyddyn 1 eich gradd BA.

Cyfleoedd Cyflogaeth Cysylltiadau Rhyngwladol a Hanes

Mae myfyrwyr ar y cwrs hwn fel arfer yn datblygu sgiliau llafar ac ysgrifennu ardderchog, a byddwch yn dysgu sut i gyflwyno'ch syniadau mewn ystod o fformatau, yn ogystal â sgiliau ymchwil, dadansoddi a datrys problemau cryf.

Mae ein graddedigion yn wirioneddol ryngwladol ac yn dechrau gyrfaoedd mewn ystod eang o sectorau gan gynnwys:

  • Addysg
  • Llywodraeth a gwleidyddiaeth
  • Recriwtio
  • Y Cyfryngau a Chysylltiadau Cyhoeddus
  • Treftadaeth ac Amgueddfeydd
  • Busnes
  • Busnes a Rheoli

Modiwlau

Rydym wrthi'n adolygu ein cwricwlwm i wella eich profiad dysgu ac ymgorffori sgiliau a fydd o fudd i'ch gyrfa yn y dyfodol. Mae hyn yn golygu y gall rhai modiwlau newid.

Gofynion Mynediad

Bydd y Brifysgol yn ystyried ceisiadau gan fyfyrwyr sy'n cynnig ystod eang o gymwysterau.

Cysylltiadau Rhyngwladol a Hanes, BA (Anrh)

Cysylltiadau Rhyngwladol A Hanes gyda Blwyddyn Dramor, BA (Anrh)

Cysylltiadau Rhyngwladol a Hanes gyda Blwyddyn mewn Diwydiant, BA (Anrh)