Cysylltiadau Rhyngwladol, BA (Anrh)

Darganfyddwch Abertawe yn ein Diwrnod Agored nesaf

Cadwch le heddiw
Y Cenhedloedd Unedig, Cynulliad Cyffredinol

Trosolwg o'r Cwrs

Wrth i dechnoleg, trafnidiaeth, ac economi sy'n fwy cymhleth ac wedi'i globaleiddio wneud ein byd yn llai, mae gwerth perthnasoedd heddychlon a chydweithredol rhwng gwladwriaethau a chenhedloedd yn fwyfwy pwysig. Ar yr un pryd, mae'r bygythiadau y mae gwladwriaethau, cymunedau ac unigolion yn eu hwynebu yn dod yn fwy dwys ac yn fwy eang. Sut mae gwladwriaethau yn ymdopi â natur newidiol gwrthdaro a bygythiadau newydd i ddiogelwch? Sut rydyn ni'n cynnal ac yn atgyfnerthu cysylltiadau heddychlon rhwng pobl a gwladwriaethau? Pa rôl gall sefydliadau rhyngwladol ei chwarae ochr yn ochr â gweithredwyr y wladwriaeth mewn byd cymhleth a rhyng-gysylltiedig?

Mae ein gradd BA Cysylltiadau Rhyngwladol tair blynedd yn rhoi cyfle i chi ymchwilio i effaith byd wedi’i globaleiddio ar wladwriaethau a dinasyddion, rôl cyfathrebu digidol wrth lunio dealltwriaeth dinasyddion o ddigwyddiadau, a datblygiad hawliau dynol byd-eang. Mae'r ysgogwyr a'r grymoedd y tu ôl i gydweithredu a gwrthdaro rhyngwladol yn rhan o'n gradd fel y mae effaith gwrthdaro ar y berthynas rhwng gwladwriaethau a phobl. Byddwch yn dysgu sut mae pŵer, normau a sefydliadau, yn ogystal â fframweithiau cyfreithiol, yn effeithio ar ein bywydau beunyddiol a sut mae digwyddiadau hanesyddol yn cael effaith amlwg o hyd ar y drefn fyd-eang.

Pam Cysylltiadau Rhyngwladol yn Abertawe?

 Cysylltiadau Rhyngwladol yn Abertawe yn y safleoedd canlynol:

  • 7fed yn y DU am Lais y Myfyriwr (Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr 2025)* - a aseswyd o dan Wleidyddiaeth
  • 13eg yn y DU ar gyfer Boddhad â'r Addysgu (Guardian University Guide 2026)
  • Ymysg y 25 gorau yn y DU yn gyffredinol (Guardian University Guide 2026)
  • Mae ymhlith 250 prifysgol orau’r byd (Safleoedd Prifysgolion y Byd yn ôl Pwnc QS 2025)

*yn seiliedig ar y sgôr gyfartalog ar gyfer agwedd gadarnhaol fesul thema yn Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr 2025 o'n cymharu â phrifysgolion eraill yn y Times Good University Guide.

Gan astudio ar gampws prydferth Parc Singleton, mewn parcdir yn edrych dros Fae Abertawe ac wrth ymyl Penrhyn Gŵyr, bydd gennych chi’r cyfle i:

  • Astudio yn un o'r ychydig adran ddethol yn y DU sy'n cynnig modiwlau Astudiaethau Seneddol Prydain, lle cewch eich addysgu gan ein staff academaidd arbenigol ac aelodau seneddol. Byddwch hefyd yn ymweld â Thŷ'r Cyffredin yn Llundain.
  • Edrych y tu ôl i'r penawdau ar y prif ffigyrau mewn gwleidyddiaeth fyd-eang, gan archwilio syniadau pwysig a sut gallwn fynd ati i ddatrys gwrthdaro neu sicrhau cydweithrediad.
  • Meithrin dealltwriaeth o ymddygiad rhwng cenhedloedd, eu harweinwyr a'u sefydliadau, gan ganolbwyntio ar y rhyngweithiadau a'r perthnasoedd rhwng meddyliau athronyddol, gwleidyddol ac economaidd.

Eich Profiad Cysylltiadau Rhyngwladol

Mae ein rhaglen Cysylltiadau Rhyngwladol yn Abertawe yn radd hyblyg sy’n cynnig amrywiaeth eang o fodiwlau arbenigol, gan eich galluogi i deilwra eich nodau gyrfa yn y dyfodol wrth ddatblygu eich diddordebau personol.

Cewch eich addysgu gan arbenigwyr arloesol mewn cysylltiadau rhyngwladol ac astudiaethau cuddwybodaeth a diogelwch sydd â chysylltiadau cenedlaethol a rhyngwladol cryf. Cewch gyfle i wella a datblygu'ch sgiliau drwy asesiadau a phrofiadau dysgu amrywiol, drwy ymuno â gweithgareddau allgyrsiol megis cymdeithasau myfyrwyr a chyfnodolion neu weithgareddau gwirfoddoli, neu'r opsiwn i gystadlu am le i ymuno ag un o'n rhaglenni haf dramor.

Mae'r rhaglen hon hefyd yn cynnwys cyfle i chi i astudio dramor am flwyddyn, gan gyfoethogi'ch dysgu a chynnig profiad bywyd amhrisiadwy. Mae'r cwrs hwn hefyd yn cynnig y cyfle i chi dreulio Blwyddyn ym myd Diwydiant, yn y DU neu dramor, gan eich galluogi i ennill profiad gwerthfawr yn y gweithle. Mae'r Brifysgol yn ffafrio lleoliadau â thâl yn unig, sydd â chyflog gwerth mwy nag £20,000 ar gyfartaledd. Mae lleoliadau di-dâl yn cael eu hystyried fesul achos.

At hynny, mae’r Flwyddyn Sylfaen ddewisol sy'n rhan o'r rhaglen hon yn rhoi cyflwyniad cyffrous i chi i addysg uwch, ac yn sicrhau bod gennych y sgiliau, yr hyder a'r wybodaeth y bydd eu hangen arnoch chi i lwyddo yn eich gradd israddedig. Mae'n ddelfrydol os oes angen ychydig fwy o gymorth arnoch chi ar ôl addysg bellach neu os ydych yn dychwelyd i fyd addysg ar ôl seibiant. Ar ôl i chi gwblhau'r Flwyddyn Sylfaen yn llwyddiannus, byddwch chi'n symud ymlaen i Flwyddyn 1 eich gradd BA.

Cyfleoedd Cyflogaeth Cysylltiadau Rhyngwladol

Mae ein graddedigion yn cael eu cyflogi ledled y byd, ac yn dechrau gyrfaoedd mewn sectorau gan gynnwys:

  • Addysg
  • Llywodraeth a gwleidyddiaeth
  • Sefydliadau dyngarol
  • Busnes
  • Y cyfryngau a chysylltiadau cyhoeddus
  • Y gyfraith a gwasanaethau cyhoeddus

Mae ein myfyrwyr hefyd wedi cael eu cyflogi mewn sefydliadau megis:

  • Westminster Forum Projects
  • Y Blaid Lafur
  • Price Waterhouse Coopers

Modiwlau

Rydym wrthi'n adolygu ein cwricwlwm i wella eich profiad dysgu ac ymgorffori sgiliau a fydd o fudd i'ch gyrfa yn y dyfodol. Mae hyn yn golygu y gall rhai modiwlau newid.

Gofynion Mynediad

Bydd y Brifysgol yn ystyried ceisiadau gan fyfyrwyr sy'n cynnig ystod eang o gymwysterau.

Cysylltiadau Rhyngwladol, BA (Anrh)

Cysylltiadau Rhyngwladol gyda Blwyddyn Dramor, BA (Anrh)

Cysylltiadau Rhyngwladol gyda Blwyddyn mewn Diwydiant, BA (Anrh)