Trosolwg o'r Cwrs
Wrth i dechnoleg, trafnidiaeth ac economi ryngwladol gymhleth wneud ein byd yn llai, mae gwerth cydberthnasau heddychlon a chydweithredol rhwng gwledydd yn fwyfwy pwysig.
Mae cysylltiadau rhyngwladol yn agwedd hanfodol ar ddinasyddiaeth mewn cymdeithas fyd-eang, ac mae'r cwrs gradd pedair blynedd BA Cysylltiadau Rhyngwladol gyda Blwyddyn Sylfaen yn un o'r rhaglenni gradd pwysicaf a gynigir gennym.
Mae'r Flwyddyn Sylfaen yn rhoi cyflwyniad cyffrous i chi i Addysg Uwch, yn rhoi'r sgiliau, yr hyder a'r wybodaeth y mae eu hangen arnoch chi i fod yn llwyddiannus yn eich gradd israddedig. Mae'n ddelfrydol os bydd angen ychydig mwy o gymorth arnoch chi ar ôl addysg bellach neu'n dychwelyd i fyd addysg ar ôl blynyddoedd lawer.
Mae'r maes astudio diddorol hwn yn archwilio globaleiddio a sefydliadau byd-eang, datblygu a hawliau dynol, gwleidyddiaeth ryngwladol a rhanbarthol, heddwch a gwrthdaro, economi wleidyddol, astudiaethau diogelwch ac astudiaethau strategol, a byddwch yn dysgu sut mae grym, sefydliadau a chyfreithiau yn effeithio ar ein bywydau o ddydd i ddydd.
Mae Cysylltiadau Rhyngwladol yn Abertawe yn y safle canlynol:
- Ymysg y 15 cwrs gorau o’i fath yn y DU (Guardian University Guide 2025)
- 92% o raddedigion mewn cyflogaeth a/neu'n astudio, neu'n ymgymryd â gweithgareddau eraill, megis teithio, 15 mis ar ôl gadael Prifysgol Abertawe (HESA 2023)