Gwleidyddiaeth, BA (Anrh)

Darganfyddwch Abertawe yn ein Diwrnod Agored nesaf

Cadwch le heddiw
students working together

Trosolwg o'r Cwrs

Mae gwleidyddiaeth yn golygu mwy na llywodraethau, mae'n ymwneud â phŵer, syniadau a newid. Mae ein gradd Gwleidyddiaeth israddedig yn sicrhau bod gennych chi'r offer i archwilio cwestiynau mawr: Pwy sy'n gwneud penderfyniadau? Sut mae cymdeithasau'n gweithio? Beth gallwch chi ei wneud er mwyn gwneud gwahaniaeth?

Mae gan wleidyddiaeth gysylltiad agos ag economeg, hanes, diwylliant a hunaniaeth (rhywedd, hil, dosbarth a dinasyddiaeth), yn ogystal â bod yn gysylltiedig â chwestiynau am werthoedd mewn cymdeithas. Drwy ein gradd BA (Anrh) mewn Gwleidyddiaeth, gallwch archwilio materion sy’n ymwneud â democrateiddio a dirywiad democrataidd, cydraddoldeb a hawliau dynol, arferion a gwerthoedd sy'n llywio cymdeithasau ac unigolion, yn ogystal â sut caiff polisïau cyhoeddus eu datblygu yng Nghymru, Prydain a thu hwnt. 

Mae'r cyfle i ymgymryd ag interniaeth gydag Aelod o'r Senedd yn ystod ein modiwl Senedd Cymru, yn rhoi'r cyfle i ddysgu sut mae seneddau a seneddwyr yn gweithredu. Gallwch hefyd astudio'r modiwl Astudiaethau Seneddol Prydain, a gyflwynir yn rhannol gan staff arbenigol o Ddau Dŷ'r Senedd. Gall ein gradd BA (Anrh) mewn Gwleidyddiaeth arwain at amrywiaeth o bosibiliadau gyrfa cyffrous drwy eich helpu i ddatblygu sgiliau ymchwil a sgiliau dadansoddol, yn ogystal â gweithio'n gydweithredol tuag at nodau a rennir a sicrhau bod gennych chi'r priodoleddau graddedigion y mae cyflogwyr yn eu gwerthfawrogi.

Ymunwch â chymuned fywiog o feddylwyr ac ysgogwyr newid, archwiliwch faterion y byd go iawn, a datblygwch y sgiliau i ddylanwadu ar yfory. Os ydych chi'n credu bod y ffordd rydyn ni'n llywodraethu ein hun fel cymdeithas, sut rydym yn ymdrin â safbwyntiau amrywiol a sut y gallwn ymateb i heriau byd-eang yn bwysig, mae ein BA mewn Gwleidyddiaeth yn cynnig man cychwyn cyffrous ar gyfer eich taith deallusol a phroffesiynol.

Pam Gwleidyddiaeth yn Abertawe?

Mae Gwleidyddiaeth yn Abertawe:

  • Yn 7fed yn y DU am Lais Myfyrwyr (NSS 2025)*
  • Ymysg yr 15 adran orau yn y DU am Ragolygon Graddedigion (Complete University Guide 2026)
  • Ymysg yr 20 orau yn y DU am Gymorth Academaidd (NSS 2025)*
  • Ymhlith 250 prifysgol orau’r byd (Safleoedd Prifysgolion y Byd yn ôl Pwnc QS 2025)

*yn seiliedig ar y sgôr gyfartalog ar gyfer agwedd gadarnhaol fesul thema yn Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr 2025 o'i chymharu â phrifysgolion eraill yn y Times Good University Guide.

Bydd ein Campws Parc Singleton godidog yn eich ysbrydoli ac yn cynnig yr amgylchedd perffaith ar gyfer cymryd seibiant yn y parc a mwynhau'r golygfeydd dros Fae Abertawe wrth ymyl prydferthwch Penrhyn Gŵyr.

Eich Profiad Gwleidyddiaeth

Yn Abertawe, mae cynnwys ein cyrsiau'n amrywiol, sy'n eich galluogi i ddilyn eich diddordebau a llunio eich gradd mewn gwleidyddiaeth er mwyn graddio gyda gradd sy'n addas i'ch diddordebau chi.

Mae pynciau'n cynnwys heriau byd-eang megis democratiaeth a pholareiddio, anghydraddoldeb, hiliaeth, hawliau dynol byd-eang a heriau amgylcheddol; dadleuon moesegol a moesol mewn cymdeithasau cyfoes, neu gwestiynau am hunaniaeth a gwleidyddiaeth hunaniaeth, yn ogystal â rôl newidiol UDA wrth lunio trafodaethau gwleidyddol dros amser.

Caiff addysgu ei lywio gan ein hymchwil sy'n arwain y ffordd yn fyd-eang, a gallwch ymuno â digwyddiadau allgyrsiol gyda siaradwyr gwadd proffil uchel, cynrychiolwyr gwleidyddol neu gyn-fyfyrwyr yn rhannu eu teithiau gyrfa.

Hefyd, bydd gennych diwtor personol ar gyfer unrhyw gymorth bugeiliol ac academaidd a all fod ei angen arnoch.

Mae rhai o uchafbwyntiau'r radd yn cynnwys:

  • Y modiwl Astudiaethau Seneddol a gyflwynir mewn cydweithrediad â Thŷ'r Cyffredin;
  • Y modiwl dysgu drwy brofiad 'Efelychu Uwchgynhadledd Fyd-eang' lle gallwch roi eich sgiliau negodi ar waith a gweithio ar atebion ar gyfer heriau byd-eang penodol;
  • Y prosiect Ymchwilio i Wleidyddiaeth a Chysylltiadau Rhyngwladol, sy'n para am flwyddyn, lle byddwch yn cynnal ymchwil yn annibynnol ac mewn grŵp bach ar gwestiynau cyfoes ym maes Cysylltiadau Rhyngwladol, gan arwain at roi cyflwyniad i'r garfan yn trafod eich ymagwedd at y pwnc a'ch canfyddiadau.

Mae'r rhaglen hon yn cynnwys cyfleoedd i ymgymryd â semester neu flwyddyn dramor, mewn lleoliadau megis Unol Daleithiau America, Hong Kong, neu Singapore, gan gyfoethogi eich dysgu a chynnig profiad bywyd amhrisiadwy.

Mae'r cwrs hwn hefyd yn cynnig y cyfle i chi dreulio Blwyddyn ym myd Diwydiant, yn y DU neu dramor, gan eich galluogi i ennill profiad gwerthfawr yn y gweithle. Mae'r Brifysgol yn ffafrio lleoliadau â thâl yn unig, sydd â chyflog gwerth mwy nag £20,000 ar gyfartaledd. Mae lleoliadau di-dâl yn cael eu hystyried fesul achos.

Mae'r Flwyddyn Sylfaen ddewisol sy'n rhan o'r rhaglen hon yn rhoi cyflwyniad cyffrous i chi i addysg uwch, ac yn sicrhau bod gennych y sgiliau, yr hyder a'r wybodaeth y bydd eu hangen arnoch chi i lwyddo yn eich gradd israddedig. Mae'n ddelfrydol os bydd angen ychydig mwy o gymorth arnoch chi ar ôl addysg bellach neu os ydych yn dychwelyd i fyd addysg ar ôl seibiant. Ar ôl i chi gwblhau'r Flwyddyn Sylfaen yn llwyddiannus, byddwch chi'n symud ymlaen at Flwyddyn 1 eich gradd BA.

Cyfleoedd Cyflogaeth Gwleidyddiaeth

Fel myfyriwr ar y cwrs hwn, byddwch fel arfer yn datblygu sgiliau cyfathrebu ardderchog, a byddwch yn dysgu sut i gyflwyno'ch syniadau mewn ystod o ffyrdd, yn ogystal â sgiliau ymchwil, dadansoddi a datrys problemau cryf.

Mae ein graddedigion yn wirioneddol ryngwladol ac maent mewn swyddi ledled y byd.

Mae ganddynt yrfaoedd yn y meysydd canlynol:

  • Addysg
  • Llywodraeth a gwleidyddiaeth
  • Sefydliadau dyngarol
  • Busnes
  • Y cyfryngau a chysylltiadau cyhoeddus
  • Y Gyfraith
  • Gwasanaethau Cyhoeddus

Modiwlau

Rydym wrthi'n adolygu ein cwricwlwm i wella eich profiad dysgu ac ymgorffori sgiliau a fydd o fudd i'ch gyrfa yn y dyfodol. Mae hyn yn golygu y gall rhai modiwlau newid.

Gofynion Mynediad

Bydd y Brifysgol yn ystyried ceisiadau gan fyfyrwyr sy'n cynnig ystod eang o gymwysterau.

Gwleidyddiaeth, BA (Anrh)

Gwleidyddiaeth gyda Blwyddyn Dramor, BA (Anrh)

Gwleidyddiaeth gyda Blwyddyn mewn Diwydiant, BA (Anrh)