Gwleidyddiaeth a Chysylltiadau Rhyngwladol, BA (Anrh)

Mae clirio ar agor!

Gwnewch gais nawr
student discussion room

Mae'r cwrs hwn ar gael trwy Glirio

Cymorth a Chefnogaeth Clirio 0808 175 3071

Trosolwg o'r Cwrs

Mae ein gradd Cydanrhydedd mewn Gwleidyddiaeth a Chysylltiadau Rhyngwladol wedi'i chynllunio ar gyfer myfyrwyr sydd â diddordeb mewn gwleidyddiaeth ddomestig (gan gynnwys astudio damcaniaeth wleidyddol, taleithiau, etholiadau a seneddau) yn ogystal â gwleidyddiaeth rhwng gwledydd (gyda ffocws ar ddamcaniaeth cysylltiadau rhyngwladol, astudiaethau diogelwch a gwrthdaro). Mae'r radd hon yn galluogi myfyrwyr i ddatblygu arbenigedd yn y ddau faes ac archwilio pynciau (megis gwleidyddiaeth amgylcheddol, economi wleidyddol fyd-eang a datblygu rhyngwladol) lle byddant yn croesdorri.

Cynlluniwyd y cwrs i roi sylfaen gref i fyfyrwyr mewn gwleidyddiaeth a chysylltiadau cyhoeddus yn y flwyddyn gyntaf, cyn rhoi cyfle i arbenigo'n fwy ac yn ogystal â chynyddu ffocws ar y croestoriad domestig/rhyngwladol yn yr ail flwyddyn a gweithio tuag at y flwyddyn olaf lle bydd mwy o bwyslais ar ddysgu hunan-gyfeiriedig, gan roi hyblygrwydd i fyfyrwyr ddewis pynciau a meysydd maent yn dymuno canolbwyntio arnynt. Yn y flwyddyn olaf, bydd gennych chi'r cyfle i wneud interniaeth gyda'r modiwl Astudiaethau Senedd Cymru a Senedd Prydain, sy'n cael ei addysgu'n rhannol gan staff arbenigol o Ddau Dŷ’r Senedd

Mae myfyrwyr y cwrs hwn fel arfer yn datblygu sgiliau llafar ac ysgrifennu gwych, a byddwch yn dysgu sut i gyflwyno'ch syniadau mewn ystod o ffyrdd, yn ogystal â sgiliau ymchwil, dadansoddi a datrys problemau cryf.

Mae ein graddedigion yn wirioneddol ryngwladol ac maent mewn swyddi ledled y byd.

Mae ganddynt yrfaoedd yn y meysydd canlynol:

  • Llywodraeth a gwleidyddiaeth
  • Addysg
  • Sefydliadau eraill
  • Busnes
  • Y Cyfryngau, Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus
  • Y Gyfraith
  • Y Gwasanaethau Cyhoeddus

Pam Gwleidyddiaeth a Chysylltiadau Rhyngwladol yn Abertawe?

Mae pwnc Gwleidyddiaeth, sydd wedi'i leoli ar gampws godidog Parc Singleton, mewn parcdir sy'n edrych dros Fae Abertawe ar gyrion Penrhyn Gŵyr, yn y safleoedd canlynol.

Mae Gwleidyddiaeth yn Abertawe:

  • 4ydd yn y DU am Foddhad Myfyrwyr (Complete University Guide 2025)
  • 8ydd  yn y DU am Gymorth Academaidd (NSS 2024*) 
  • Cydanrhydedd mewn Gwleidyddiaeth yn Prifysgol Abertawe Ymhlith y 250 gorau yn y Byd (QS World University Rankings by Subject 2025)

Mae Cysylltiadau Rhyngwladol yn Abertawe yn y safle canlynol: 

  • 4ydd yn y DU ar gyfer Boddhad Addysgu (Guardian University Guide 2025)
  • Ymysg y 15 cwrs gorau o’i fath yn y DU (Guardian University Guide 2025)
  • Cydanrhydedd mewn Gwleidyddiaeth yn Prifysgol Abertawe Ymhlith y 250 gorau yn y Byd (QS World University Rankings by Subject 2025)

Byddwch yn astudio yn un o adrannau dethol y Deyrnas Unedig sy'n cynnig modiwl Astudiaethau Seneddol Prydain, lle cewch eich addysgu gan ein staff academaidd arbenigol ac Aelodau Seneddol. Byddwch hefyd yn ymweld â Thŷ'r Cyffredin.

Cewch ddewis modiwl sy'n cynnwys interniaeth gyda Chynulliad Cenedlaethol Cymru, gan weithio'n agos gyda gweinidogion y Cynulliad.

Gallwch hefyd gael semester dramor yn Hong Kong, Singapôr neu UDA, gan wella eich profiad myfyriwr a rhagolygon gyrfa ymhellach.

*Yn seiliedig ar y sgôr gyfartalog ar gyfer agwedd gadarnhaol ar draws cwestiynau 15 i 16 yn Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr 2024 o’n cymharu ni â phrifysgoloion eraill yn y Times Good University Guide

Eich Profiad Gwleidyddiaeth a Chysylltiadau Rhyngwladol

Rydym yn cynnig cwrs amrywiol a hyblyg, felly gallwch lunio'ch gradd mewn Gwleidyddiaeth a'r Gymraeg i fodloni'ch diddordebau.

Mae’r pynciau'n cynnwys gwleidyddiaeth Brydeinig ac Ewropeaidd, polisi cyhoeddus, damcaniaeth wleidyddol ac athroniaeth, materion etholiadol a heddwch a gwrthdaro rhyngwladol.

Caiff ein haddysgu ei gyfeirio gan ein hymchwil sy'n arwain y ffordd yn fyd-eang, a gallwch fynychu seminarau a drefnir drwy ein rhaglen siaradwyr gwadd.

Bydd gennych tiwtor personol ar gyfer cefnogaeth fugeiliol ac academaidd.

 

Cyfleoedd Cyflogaeth Gwleidyddiaeth a Chysylltiadau Rhyngwladol

Yn gyffredinol, gall myfyrwyr Gwleidyddiaeth a Chysylltiadau Rhyngwladol fynd ymlaen i amrywiaeth eang o yrfaoedd, gan gynnwys: Dadansoddi a strategaeth wleidyddol; ymchwil wleidyddol; swyddfa etholiadol; Polisi cyhoeddus; llywodraeth leol a gweinyddiaeth gyhoeddus; llywodraethu corfforaethol; cyfathrebu gwleidyddol; dadansoddi risg gwleidyddol; lobïo ac eiriolaeth; diplomyddiaeth; gwaith y gwasanaeth sifil rhyngwladol; gwaith yn y sector diogelwch; gwaith dyngarol rhyngwladol.

Mae cyflogwyr posib, gan gynnwys cyflogwyr graddedigion diweddar, yn cynnwys: Pleidiau a sefydliadau gwleidyddol, gwasanaeth sifil y DU (gan gynnwys y Swyddfa Dramor a'r Gymanwlad, y Trysorlys, Y Weinidogaeth Amddiffyn, DFID), gweinyddiaethau datganoledig (yn enwedig Senedd Cymru); Llywodraeth leol (cynghorau); Y lluoedd arfog; Yr heddlu; Cwmnïoedd cysylltiadau cyhoeddus a chyfathrebu; Addysg; Melinau trafod a sefydliadau polisi; Sefydliadau elusennol ac anllywodraethol; Sefydliadau rhynglywodraethol (e.e. Banc y Byd, Rhaglen Ddatblygu'r Cenhedloedd Unedig); Sefydliadau darlledu, digidol a'r cyfryngau argraffu (e.e. y BBC); Cwmnïoedd y cyfryngau cymdeithasol; Cwmnïoedd ymgynghori rheoli; Cwmnïoedd diogelwch ac ymgynghori am risg (e.e. Rheoli Risgiau).

Modiwlau

Bydd eich astudiaethau cynnar yn eich cyflwyno chi i wleidyddiaeth a pherthnasoedd rhyngwladol.

Yna byddwch yn dewis eich llwybr gyda modiwlau sy'n addas i'ch diddordebau chi, cyn canolbwyntio'n fanwl ar eich prosiect ymchwil a ddewisir i lunio'ch traethawd hir terfynol.

Gwleidyddiaeth a Chysylltiadau Rhyngwladol

Gwleidyddiaeth a Chysylltiadau Rhyngwladol gyda Blwyddyn Dramor

Gwleidyddiaeth a Chysylltiadau Rhyngwladol gyda Blwyddyn mewn Diwydiant