Gwleidyddiaeth a Pholisi Cymdeithasol, BA (Anrh)

Darganfyddwch Abertawe yn ein Diwrnod Agored nesaf

Cadwch le heddiw
Pholisi Cymdeithasol

Trosolwg o'r Cwrs

Mae ein gradd Gwleidyddiaeth a Pholisi Cymdeithasol yn eich paratoi i ysgogi newid a dylanwadu ar y dyfodol, drwy archwilio sut mae pŵer a gwleidyddiaeth yn llywio ein byd, a'r cyfleoedd i gyflawni cyfiawnder cymdeithasol.

Byddwch yn mynd i'r afael â chysyniadau a damcaniaethau hanfodol, gan eu cymhwyso i heriau cymdeithasol a gwleidyddol go iawn. Archwiliwch sut mae systemau'n gweithredu, sut mae anghenion a blaenoriaethau yn dod i'r amlwg, a sut mae'r heriau hyn yn cael eu trafod a'u datrys.  Mae'r pynciau'n cynnwys gwleidyddiaeth a pholisi cyhoeddus Prydain ac Ewrop, anghydraddoldeb a chyfiawnder cymdeithasol, democratiaeth a gwrthdaro rhyngwladol, a blaenoriaethau cymdeithasol cystadleuol, megis iechyd, addysg a thai.

Fel myfyriwr ar ein cwrs Gwleidyddiaeth a Pholisi Cymdeithasol, byddwch yn meithrin sgiliau hanfodol ar gyfer gwaith yn y byd y tu hwnt i astudio.  Drwy gydol y rhaglen, byddwch yn hogi sgiliau ymchwil, dadansoddi, cyfathrebu, a rhesymu moesegol. Dyma sgiliau trosglwyddadwy a fydd yn agor drysau mewn unrhyw yrfa, gan gynnwys yr amrywiaeth eang iawn sy'n berthnasol i'r pynciau hyn.

Pam Gwleidyddiaeth a Pholisi Cymdeithasol yn Abertawe?

Gan astudio yn Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol, byddwch yn elwa o fod yn rhan o amgylchedd bywiog ac amrywiol, sy’n adnabyddus am ei weithgarwch ymchwil ac addysgu.

Mae Polisi Cymdeithasol yn Abertawe:

  • Ar y brig yn y DU* â sgôr o 100% ar gyfer boddhad cyffredinol** (NSS 2025)
  • Yn y 5ed safle yn y DU am foddhad myfyrwyr (Complete University Guide 2026)

*Yn seiliedig ar y sgôr agwedd gadarnhaol gyfartalog ar gyfer cwestiynau 1-26, NSS 2025
**C28, NSS 2025 a 5ed yn y DU ar gyfer boddhad myfyrwyr

Mae Gwleidyddiaeth yn Abertawe yn y safleoedd canlynol:

  • 8fed yn y DU am Bolisi Cymdeithasol (Daily Mail University Guide 2026)
  • 17eg yn y DU am Foddhad Myfyrwyr (Complete University Guide 2026)

Cewch ddewis modiwl sy'n cynnwys interniaeth gystadleuol gyda Senedd Cymru, gan weithio'n agos gyda gweinidogion Llywodraeth Cymru.

Eich Profiad Gwleidyddiaeth a Pholisi Cymdeithasol

Mae ein rhaglen yn cyfuno sylfeini craidd Gwleidyddiaeth a Pholisi Cymdeithasol â'r rhyddid i lunio eich llwybr eich hun - p'un a ydych chi'n canolbwyntio ar baratoi am yrfa, datblygu maes arbenigol, neu gynllunio ar gyfer astudiaethau ôl-raddedig.

Cewch gyfle i ymgymryd ag interniaeth yn Senedd Cymru, a chyfleoedd i weithio ym myd diwydiant neu astudio dramor. Gallwch dreulio blwyddyn dramor mewn lleoliadau fel UDA, Canada, Hong Kong, neu Singapore, gan gyfoethogi eich dysgu a chael profiad bywyd amhrisiadwy.

Mae'r cyfle i dreulio blwyddyn mewn diwydiant, yn y DU neu dramor, yn eich galluogi i ennill profiad gwerthfawr yn y gweithle. Mae'r Brifysgol yn ffafrio lleoliadau â thâl yn unig, sydd â chyflog gwerth mwy nag £20,000 ar gyfartaledd. Mae lleoliadau di-dâl yn cael eu hystyried fesul achos.

Cyfleoedd Cyflogaeth Gwleidyddiaeth a Pholisi Cymdeithasol

Mae myfyrwyr ar y cwrs hwn fel arfer yn datblygu sgiliau llafar ac ysgrifennu ardderchog, a byddwch yn dysgu sut i gyflwyno'ch syniadau mewn ystod o fformatau, yn ogystal â sgiliau ymchwil, dadansoddi a datrys problemau cryf.

Mae ein graddedigion yn wirioneddol ryngwladol ac yn cael eu cyflogi ledled y byd.

Mae'r camau nesaf nodweddiadol i'n graddedigion yn cynnwys:

  • Llywodraeth a gwleidyddiaeth
  • Sefydliadau dyngarol
  • Busnes
  • Y cyfryngau a chysylltiadau cyhoeddus
  • Y gyfraith
  • Addysgu
  • Swyddi ymchwil mewn prifysgolion a chwmnïau ymchwil gymdeithasol
  • Rolau polisi ac ymchwil yn y sector cyhoeddus a'r trydydd sector
  • Datblygu cymunedol
  • Astudiaethau ôl-raddedig

Modiwlau

Rydym wrthi'n adolygu ein cwricwlwm i wella eich profiad dysgu ac ymgorffori sgiliau a fydd o fudd i'ch gyrfa yn y dyfodol. Mae hyn yn golygu y gall rhai modiwlau newid.

Gofynion Mynediad

Bydd y Brifysgol yn ystyried ceisiadau gan fyfyrwyr sy'n cynnig ystod eang o gymwysterau.

Gwleidyddiaeth a Pholisi Cymdeithasol, BA (Anrh)

Gwleidyddiaeth a Pholisi Cymdeithasol gyda Blwyddyn Dramor, BA (Anrh)

Gwleidyddiaeth a Pholisi Cymdeithasol gyda Blwyddyn mewn Diwydiant, BA (Anrh)