Polisi Cymdeithasol, BSc (Anrh)

Mae clirio ar agor!

Gwnewch gais nawr
Socialpolicy

Mae'r cwrs hwn ar gael trwy Glirio

Cymorth a Chefnogaeth Clirio 0808 175 3071

Trosolwg o'r Cwrs

Yr hyn sydd ei angen ar fodau dynol a'r ffordd y mae cymdeithasau'n diwallu'r anghenion hynny sydd wrth wraidd polisi cymdeithasol. Bydd ein cwrs gradd rhagorol a gydnabyddir yn genedlaethol mewn Polisi Cymdeithasol yn cyflwyno’r damcaniaethau a dadleuon allweddol sy'n sail i'r maes diddorol hwn sy'n datblygu'n barhaus.

Byddwch yn ymchwilio i'r ffordd y mae cymdeithas yn hyrwyddo llesiant ei haelodau, gan ystyried themâu a gwerthoedd fel cyfiawnder cymdeithasol, cydraddoldeb, tegwch a dinasyddiaeth, ochr yn ochr ag elfennau penodol sy'n ganolog i bolisïau fel iechyd, addysg, tai, anabledd, trosedd, tlodi a'r teulu.

Byddwch yn meithrin sgiliau ymchwil a dadansoddi ardderchog ac yn dysgu sut i gyfleu eich syniadau'n effeithiol mewn amrywiaeth o fformatau.

Pam Polisi Cymdeithasol ym Mhrifysgol Abertawe?

Mae gan ein staff addysgu craidd broffil da a rhyngwladol ym maes ymchwil, ac maent yn ymgynghori'n rheolaidd ynghylch polisi yng Nghymru, y DU a thu hwnt.

Mae Polisi Cymdeithasol yn Abertawe:

  • 1af yn y DU am Foddhad Myfyrwyr (Complete University Guide 2025)
  • 11eg yn y DU am Rhagolygon Graddedigion (Complete University Guide 2025)
  • 7ydd yn y DU am Lais y Myfyrwyr (NSS 2024*)

*Yn seiliedig ar y sgôr gyfartalog ar gyfer agwedd gadarnhaol ar draws cwestiynau 22 i 25 yn Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr 2024 o’n cymharu ni â phrifysgoloion eraill yn y Times Good University Guide

Eich profiad ym maes Polisi Cymdeithasol

Mae'r opsiynau dewisol yn eich galluogi i deilwra eich astudiaethau yn unol â'ch diddordebau penodol, eich nodau gyrfa neu'ch cynlluniau ar gyfer astudiaethau ôl-raddedig.

Wrth astudio yn Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol, cewch eich ymdrochi mewn amgylchedd ymchwil a dysgu deinamig sy’n cynnig nifer o gyfleoedd i greu cysylltiadau â myfyrwyr o ddisgyblaethau cysylltiedig. 

Yn eich ail flwyddyn, cewch gyfle i gwblhau lleoliad gwaith ar sail diwrnodau astudio, gan gyfoethogi eich rhagolygon gyrfa a meithrin eich sgiliau rhyngbersonol. Ymhlith y cyflogwyr rydym wedi cydweithio â nhw yn ddiweddar mae sefydliadau gwirfoddol, darparwyr tai cymdeithasol ac elusennau cenedlaethol a lleol.

Gyrfaoedd Polisi Cymdeithasol

Mae gradd mewn Polisi Cymdeithasol yn cynnig amrywiaeth eang o gyfleoedd gyrfa a chyfleoedd i astudio ymhellach. Mae ein graddedigion wedi symud ymlaen i'r canlynol:

  • Astudiaethau ôl-raddedig mewn Addysg, Ymchwil Gymdeithasol ac Astudiaethau Heneiddio
  • Swyddi ymchwil mewn prifysgolion a chwmnïau ymchwil gymdeithasol preifat
  • Rolau sy'n seiliedig ar bolisi yn y trydydd sector
  • Gwaith ym maes polisi tai i lywodraeth leol a chymdeithasau tai
  • Swyddi yn y sector Iechyd a Gofal Cymdeithasol

 

 

Modiwlau

Bydd eich astudiaethau cynnar yn cyflwyno damcaniaethau, athroniaethau, hanes ac economeg allweddol polisi cymdeithasol i chi.

Bydd yr opsiynau diweddarach yn eich galluogi i ganolbwyntio ar amrywiaeth o bynciau gan gynnwys anabledd, iechyd, tai a digartrefedd, tlodi, ac allgáu cymdeithasol.

Polisi Cymdeithasol

Polisi Cymdeithasol gyda Blwyddyn Dramor

Polisi Cymdeithasol gyda Blwyddyn mewn Diwydiant