Troseddeg a Chyfiawnder Troseddol, BSc (Anrh)

Darganfyddwch Abertawe yn ein Diwrnod Agored nesaf

Cadwch le heddiw
students in the school of law

Mewn safle uchel am brofiad myfyrwyr a chyflogadwyedd, mae ein gradd Troseddeg yn rhoi'r fframwaith i chi ddeall a mynd i'r afael â materion y byd go iawn, o seiberdroseddu i eithafiaeth.

Trosolwg o'r Cwrs

Mae ein gradd BSc israddedig mewn Troseddeg a Chyfiawnder Troseddol yn archwilio'r ffactorau cymhleth sy'n dylanwadu ar ymddygiad troseddol, y penderfyniadau sy'n diffinio gweithredoedd penodol fel troseddau, a'r ffordd y mae cymdeithas yn ymateb i wyredd a niwed. 

Byddwch yn ymgysylltu â damcaniaethau troseddegol allweddol a'u cymhwyso i faterion yn y byd go iawn megis rhywedd a throseddau, terfysgaeth ac eithafiaeth, troseddau casineb, hil a hiliaeth, niwed amgylcheddol, seiberdroseddu a mwy.  

Byddwch yn archwilio rôl y system cyfiawnder troseddol ac asiantaethau troseddu, ac yn archwilio'r heriau maen nhw'n eu hwynebu mewn cymdeithas newidiol. Ond byddwch yn gwneud mwy nag arsylwi, bydd gennych hefyd y cyfle i asesu troseddau, mewn amser go iawn yn ein hystafell efelychu flaenllaw, Hydra. Bydd y radd hon yn eich paratoi i feddwl yn feirniadol, gweithredu'n foesegol, a chael effaith ystyrlon ym maes troseddeg a thu hwnt. 

Pam Troseddeg a Chyfiawnder Troseddol yn Abertawe?

  • Ymysg y safleoedd uchaf am gyflogadwyedd  
  • Archwilio meysydd arbenigol megis polisi cyfiawnder troseddol, troseddau ieuenctid, economïau anghyfreithlon ac anffurfiol, lles cymdeithasol, rhywedd, plismona, cymdeithaseg wleidyddol ac allgáu cymdeithasol 
  • Ymgysylltu ag efelychiadau yn yr ystafell Hydra flaenllaw, sy'n cael eu defnyddio'n rheolaidd ar gyfer hyfforddiant ac adolygu ar ôl digwyddiadau critigol mewn rolau troseddol a brys, fel yn achos yr Heddlu 

Eich Profiad Troseddeg a Chyfiawnder Troseddol

Mae strwythur ein gradd yn taro cydbwysedd rhwng darparu mynediad at feysydd craidd Troseddeg a Chyfiawnder Troseddol, ac yn cynnig y gallu i deilwra'ch astudiaethau i'ch diddordebau unigol, eich dyheadau gyrfa, neu'ch cynlluniau ar gyfer astudiaethau ôl-raddedig. 

Modiwlau

Rydym wedi gwella ein modiwlau i ddarparu profiad dysgu deniadol, wedi'i gynllunio i'ch helpu i ddatblygu'r sgiliau y mae cyflogwyr yn chwilio amdanynt. Darganfyddwch beth sydd ar gael a chael eich hysbrydoli gan y modiwlau y gallwch eu hastudio.

Gofynion Mynediad

Bydd y Brifysgol yn ystyried ceisiadau gan fyfyrwyr sy'n cynnig ystod eang o gymwysterau.

Mae gofynion mynediad yna i roi arweiniad i chi, nid i fod yn rhwystr, a bydd ein cynnig wedi cael ei deilwra ar eich cyfer chi a beth rydym yn meddwl y medrwch chi ei gyflawni.

Rydym yn gwybod bod pethau'n gallu newid wrth i chi fynd drwy'r siwrnai. Gallwch siarad â ni am eich cynnig ar unrhyw gyfnod a byddwn yn gwneud yn siŵr ei fod yn gynnig y medrwch chi ei gyflawni.

Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd

Gall astudio am BSc mewn Troseddeg a Chyfiawnder Troseddol ym Mhrifysgol Abertawe arwain at ystod o yrfaoedd. Mae ein graddedigion yn mynd ymlaen i amrywiaeth eang o yrfaoedd, sy'n cynnwys y canlynol:

  • Datblygu cymunedol
  • Cyfiawnder troseddol
  • Llywodraeth leol
  • Yr Heddlu
  • Y Gwasanaeth Carchardai
  • Y Gwasanaeth Prawf
  • Gwaith cymdeithasol
  • Addysg
  • Llywodraeth y DU
  • Cymorth i Ddioddefwyr
  • Cyrff anllywodraethol a mudiadau gwirfoddol
  • ac astudiaethau ôl-raddedig

Bydd graddedigion wedi cael eu hyfforddi'n dda o ran meddwl yn feirniadol, rhesymu moesegol, cyfathrebu effeithiol, ac arweinyddiaeth - rydym yn sicrhau eich bod yn barod i gyfrannu'n ystyrlon ar draws amgylcheddau proffesiynol amrywiol.

Troseddeg a Chyfiawnder Troseddol, BSc (Anrh)

Troseddeg a Chyfiawnder Troseddol, BSc (Anrh)

Troseddeg a Chyfiawnder Troseddol gyda Blwyddyn mewn Diwydiant, BSc (Anrh)