Polisi Cymdeithasol gyda Blwyddyn Sylfaen, BSc (Anrh)

Mae clirio ar agor!

Gwnewch gais nawr
students studying

Mae'r cwrs hwn ar gael trwy Glirio

Cymorth a Chefnogaeth Clirio 0808 175 3071

Trosolwg o'r Cwrs

Mae'r hyn sydd ei angen ar bobl a sut mae cymdeithasau'n diwallu'r anghenion hynny wrth wraidd polisi cymdeithasol. Bydd ein gradd rhagorol, a gydnabyddir yn genedlaethol mewn Polisi Cymdeithasol, yn eich cyflwyno i'r damcaniaethau a'r dadleuon allweddol sy'n sail i'r maes diddorol hwn sy'n esblygu'n barhaus.

Bydd blwyddyn sylfaen y cwrs pedair blynedd hwn yn eich cyflwyno i'r cysyniadau allweddol a'r wybodaeth y bydd eu hangen arnoch i symud ymlaen i'r BSc Polisi Cymdeithasol gyda Blwyddyn Sylfaen. Ar ôl iddynt gwblhau'r Flwyddyn Sylfaen yn llwyddiannus, bydd myfyrwyr yn symud ymlaen i Flwyddyn 1 y BSc.

Cyflwynir y flwyddyn sylfaen (lefel 3) gan y Coleg, Prifysgol Abertawe (TCSU). Cyflwynir  blynyddoedd 2 i 4 (lefelau 4 i 6) gan Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol.

Byddwch yn dysgu sut i gynhyrchu gwybodaeth newydd gan ddefnyddio amrywiaeth o offer ymchwil gymdeithasol ansoddol a meintiol, o arolygon cymdeithasol mawr a ddehonglir drwy ystadegaeth i gyfweliadau manwl gydag unigolion a grwpiau bach.

Drwy gydol y cwrs, byddwch yn datblygu sgiliau ymchwilio, cyfathrebu a chyflwyno ardderchog, ynghyd â'r gallu i ddadansoddi a gwerthuso tystiolaeth yn feirniadol a llunio dadleuon ynghylch y materion cymdeithasol cymhleth sy'n effeithio ar bob un ohonom ni.

Pam Polisi Cymdeithasol gyda Blwyddyn Sylfaen yn Abertawe?

Mae gan ein staff addysgu craidd broffil da a rhyngwladol ym maes ymchwil, ac maent yn ymgynghori'n rheolaidd ynghylch polisi yng Nghymru, y DU a thu hwnt.

Mae Polisi Cymdeithasol yn Abertawe:

  • 1af yn y DU am Foddhad Myfyrwyr (Complete University Guide 2025)
  • 11eg yn y DU am Rhagolygon Graddedigion (Complete University Guide 2025)
  • 7ydd yn y DU am Lais y Myfyrwyr (NSS 2024*)

*Yn seiliedig ar y sgôr gyfartalog ar gyfer agwedd gadarnhaol ar draws cwestiynau 22 i 25 yn Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr 2024 o’n cymharu ni â phrifysgoloion eraill yn y Times Good University Guide

Eich Profiad Polisi Cymdeithasol gyda Blwyddyn Sylfaen

Wedi'ch seilio yn Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol, byddwch mewn amgylchedd ymchwil a dysgu dynamig gyda llawer o gyfleoedd i feithrin cysylltiadau â myfyrwyr o ddisgyblaethau cysylltiedig.

Ynghyd â'n cryfder academaidd ac ymchwil fel adran, mae gennym hefyd ffocws cryf iawn ar eich cefnogi chi i ddatblygu'r sgiliau ymarferol a'r priodoleddau y mae cyflogwyr yn eu gwerthfawrogi, megis arsylwi, dehongli, prosesu gwybodaeth, cyfathrebu a chyflwyno.

Yn eich ail flwyddyn a'ch trydedd flwyddyn, bydd gennych gyfle i gymryd rhan mewn lleoliadau gwaith mewn awdurdodau lleol, busnesau, lleoliadau gofal iechyd, lleoliadau addysg ac elusennau, gan ddibynnu ar eich diddordebau a'ch nodau gyrfa.

Cyfleoedd Cyflogaeth Polisi Cymdeithasol gyda Blwyddyn Sylfaen

Mae gradd mewn Polisi Cymdeithasol yn cynnig amrywiaeth eang o gyfleoedd gyrfa a chyfleoedd i astudio ymhellach. Mae ein graddedigion wedi symud ymlaen i'r canlynol:

  • Astudiaethau ôl-raddedig mewn Addysg, Ymchwil Gymdeithasol ac Astudiaethau Heneiddio
  • Swyddi ymchwil mewn prifysgolion a chwmnïau ymchwil gymdeithasol preifat
  • Rolau sy'n seiliedig ar bolisi yn y trydydd sector
  • Gwaith ym maes polisi tai i lywodraeth leol a chymdeithasau tai
  • Swyddi yn y sector Iechyd a Gofal Cymdeithasol

Modiwlau

Bydd eich astudiaethau cynnar yn cyflwyno damcaniaethau, athroniaethau, hanes ac economeg allweddol polisi cymdeithasol i chi.

Bydd yr opsiynau diweddarach yn eich galluogi i ganolbwyntio ar amrywiaeth o bynciau gan gynnwys anabledd, iechyd, tai a digartrefedd, tlodi, ac allgáu cymdeithasol.

Polisi Cymdeithasol gyda Blwyddyn Sylfaen