Cymdeithaseg a Polisi Cymdeithasol gyda Blwyddyn Sylfaen, BSc (Anrh)

Mae clirio ar agor!

Gwnewch gais nawr
Maisie godden

Mae'r cwrs hwn ar gael trwy Glirio

Cymorth a Chefnogaeth Clirio 0808 175 3071

Trosolwg o'r Cwrs

Bydd astudio gradd Cymdeithaseg a Pholisi Cymdeithasol yn rhoi’r sylfaen ddamcaniaethol hanfodol i chi ddeall ymddygiad pobl fel bodau cymdeithasol, yn ogystal â’r ffactorau cymdeithasol, diwylliannol, gwleidyddol ac economaidd ehangach sy’n dylanwadu ar ein cymdeithas sy’n newid yn gyson.

Bydd blwyddyn sylfaen y cwrs pedair blynedd hwn yn eich cyflwyno i'r cysyniadau allweddol a'r wybodaeth y bydd eu hangen arnoch i symud ymlaen i'r Cymdeithaseg a Pholisi Cymdeithasol gyda Blwyddyn Sylfaen. Ar ôl iddynt gwblhau'r Flwyddyn Sylfaen yn llwyddiannus, bydd myfyrwyr yn symud ymlaen i Flwyddyn 1 y BSc.

Cyflwynir y flwyddyn sylfaen (lefel 3) gan y Coleg, Prifysgol Abertawe (TCSU). Cyflwynir  blynyddoedd 2 i 4 (lefelau 4 i 6) gan Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol.

Byddwch yn dysgu sut i gynhyrchu gwybodaeth newydd gan ddefnyddio amrywiaeth o offer ymchwil gymdeithasol ansoddol a meintiol, o arolygon cymdeithasol mawr a ddehonglir drwy ystadegaeth i gyfweliadau manwl gydag unigolion a grwpiau bach.

Drwy gydol y cwrs, byddwch yn datblygu sgiliau ymchwilio, cyfathrebu a chyflwyno ardderchog, ynghyd â'r gallu i ddadansoddi a gwerthuso tystiolaeth yn feirniadol a llunio dadleuon ynghylch y materion cymdeithasol cymhleth sy'n effeithio ar bob un ohonom ni.

Pam Cymdeithaseg a Polisi Cymdeithasol gyda Blwyddyn Sylfaen yn Abertawe?

Mae gan ein rhaglen radd Cymdeithaseg a Pholisi Cymdeithasol enw da rhagorol.

Mae Polisi Cymdeithasol yn Abertawe:

  • 1af yn y DU am Foddhad Myfyrwyr (Complete University Guide 2025)
  • 1af yn y DU am Brofiad Myfyrwyr (Times Good University Guide 2025)
  • 7ydd yn y DU am Lais y Myfyrwyr (NSS 2024*)
  • 11eg yn y DU am Rhagolygon Graddedigion (Complete University Guide 2025)

Mae Cymdeithaseg yn Abertawe:

  • Yn y 20 adran orau yn y DU am Rhagolygon Raddedigion (Complete University Guide 2025)
  • Yn y 25 adran orau yn y DU (Complete University Guide 2025)

Mae gan ein staff addysgu craidd broffil rhyngwladol cryf mewn ymchwil, ac maent yn ymgynghori'n rheolaidd ar bolisi yng Nghymru, y DU a thu hwnt.

*Yn seiliedig ar y sgôr gyfartalog ar gyfer agwedd gadarnhaol ar draws cwestiynau 22 i 25 yn Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr 2024 o’n cymharu ni â phrifysgoloion eraill yn y Times Good University Guide

Eich Profiad Cymdeithaseg a Polisi Cymdeithasol gyda Blwyddyn Sylfaen

Mae ein strwythur gradd hyblyg gydag ystod eang o fodiwlau arbenigol yn rhoi cyfle ichi deilwra'ch cwrs i'ch diddordebau penodol, uchelgeisiau gyrfa, neu gynlluniau ar gyfer astudiaeth bellach.

 

Cyfleoedd Cyflogaeth Cymdeithaseg a Polisi Cymdeithasol gyda Blwyddyn Sylfaen

Mae gradd Cymdeithaseg a Pholisi Cymdeithasol yn agor ystod eang o gyfleoedd astudio pellach neu yrfa. Mae graddedigion wedi mynd ymlaen i ddilyn gyrfaoedd mewn sawl maes gwahanol, gan gynnwys:

  • Gwaith ieuenctid
  • Addysg
  • Ymchwil
  • Newyddiaduraeth
  • Datblygu polisi
  • Gwasanaethau cyfreithiol, heddlu a phrawf
  • Marchnata a Hysbysebu
  • Ecoleg a Chynllunio Amgylcheddol
  • Adnoddau Dynol

Yn dibynnu ar y sector, gall graddedigion Cymdeithaseg a Pholisi Cymdeithasol ddisgwyl ennill cyflog blynyddol o £22,000 ar gyfartaledd, gan godi i £50,000 ar gyfer swyddi uwch.

Gall y radd Cymdeithaseg a Pholisi Cymdeithasol hefyd fod yn borth i hyfforddiant proffesiynol a galwedigaethol pellach mewn meysydd fel addysgu a gwaith cymdeithasol.

Modiwlau

Crynodeb o’r modiwl: 

Cymdeithaseg a Polisi Cymdeithasol gyda Blwyddyn Sylfaen