Nyrsio Hyblyg Rhan-amser (Oedolion), BSc (Anrh)

Dysgu hyblyg ar gyfer gweithlu'r dyfodol

Dau fyfyriwr mewn prysgwydd yn ymarfer ar fodel o glaf ffug

Trosolwg o'r Cwrs

Mae ein cwrs gradd hyblyg rhan-amser mewn Nyrsio Oedolion wedi cael ei ddatblygu i ddiwallu anghenion y myfyriwr modern, gan ystyried dymuniadau unigolion sydd am ddod yn nyrsys cofrestredig, gan gydnabod y bydd llawer yn wynebu heriau wrth gydbwyso ymrwymiadau bywyd ac astudio.

Mae gan y rhaglen BSc hon nodweddion a fydd yn eich helpu i gydbwyso eich ymrwymiadau ar draws pedair blynedd y cwrs: wythnos dysgu 30 awr, cyfnodau astudio byrrach ac ymagwedd hybrid o addysgu ar-lein ac ar y campws, yn ogystal â lwfans uwch o wyliau blynyddol a hyblygrwydd i reoli oriau ymarfer clinigol drwy gydol yr wythnos.

Mae ein cwricwlwm wedi cael ei ddatblygu i ymateb i newidiadau mewn cymdeithas a gofal iechyd, a bydd eich dysgu yn adlewyrchu disgwyliadau'r cyhoedd o'r proffesiwn nyrsio. Bydd myfyrwyr yn treulio 50% o'u hamser ar y rhaglen mewn lleoliadau clinigol a chymunedol, felly byddwch yn datblygu'r sgiliau a'r profiad i ddarparu gofal nyrsio mwy diogel, tosturiol ac effeithiol.

Mae gennym berthnasoedd gweithio ardderchog â llawer o ddarparwyr gofal iechyd, felly bydd gennych gyfle i fanteisio ar amrywiaeth eang o brofiadau clinigol ledled de-orllewin Cymru. Mae'r rhain yn cynnwys lleoliadau yn y GIG a'r sector annibynnol mewn ysbytai ac yn y gymuned.

PAM ASTUDIO NYRSIO OEDOLION YM MHRIFYSGOL ABERTAWE?

Mae gennym enw rhagorol am nyrsio yn Abertawe ac rydym yn y 10 uchaf yn y DU am Nyrsio (The Times and Sunday Times Good University Guide 2024) ac yn 1af yn Rhagolygon Gyrfa y DU (The Guardian 2024).

Mae ein staff academaidd yn cynnwys nyrsys, meddygon a gweithwyr iechyd proffesiynol perthynol i iechyd cymwysedig, y mae llawer ohonynt yn gweithio fel clinigwyr hefyd, gan ddarparu cyfuniad heb ei ail o drylwyredd damcaniaethol, dealltwriaeth broffesiynol ac arbenigedd ymarferol.

Mae gennym gysylltiadau cryf iawn â byrddau iechyd yng Nghymru sy'n golygu y gallwn gynnig lleoliadau clinigol i chi mewn amrywiaeth o leoliadau trefol a gwledig. Yn y cyfamser, mae'r ysbyty agosaf drws nesaf i gampws Parc Singleton nid nepell o ardal hardd Penrhyn Gŵyr. 

EICH PROFIAD YM MAES NYRSIO OEDOLION

Drwy gydol eich astudiaethau, byddwch yn cymryd rhan mewn amrywiaeth o weithgareddau dysgu, gan gyfuno addysgu wyneb yn wyneb ag astudio ar-lein, dysgu digidol a gweithgareddau sy'n canolbwyntio ar y myfyrwyr, gan gynnwys:

  • Grwpiau trafod
  • Efelychu
  • Darlithoedd
  • Tiwtora personol ac mewn grwpiau
  • Darllen a gweithgareddau dan arweiniad
  • Chwarae rôl ac astudiaethau achos
  • Dysgu ymarfer
  • Dysgu ar sail ymchwil
  • Ymarfer sgiliau sy'n cynnwys claf a gofalwr.

Gallwch hefyd astudio rhan o'ch gradd nyrsio drwy gyfrwng y Gymraeg a gallech fod yn gymwys i gael ysgoloriaethau mewnol neu gymorth ariannol drwy'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol.

GYRFAOEDD NYRSIO

Ar ôl graddio, gallwch wneud cais am statws Nyrs Gofrestredig (Oedolion) gyda'r Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth a chofrestru fel nyrs i weithio yn yr UE a'r AEA.

Gallwch ddisgwyl cael cyflog cychwynnol o £28,407 sy'n codi i £57,349 i staff-nyrs brofiadol iawn. Gall nyrsys arbenigol a rheolwyr practis ennill £50,056. 

Modiwlau

Mae gennym ystod o fodiwlau Cymraeg a Saesneg ar gael, wedi'u cynllunio i greu nyrsys medrus a hyderus. Byddwch yn astudio 3 blynedd o gynnwys modiwl dros gyfnod astudio 4 blynedd.

Nyrsio Hyblyg Rhan-amser (Oedolion)