Trosolwg o'r Cwrs
Mae nyrsys iechyd meddwl yn chwarae rôl hollbwysig wrth gefnogi pobl o bob oedran a chefndir yn ystod rhai o gyfnodau mwyaf anodd a heriol eu bywydau.
Mae ein gradd hyblyg ran-amser mewn Nyrsio Iechyd Meddwl wedi cael ei datblygu i ddiwallu anghenion y myfyriwr modern ac ystyried dymuniadau unigolion sydd am ddod yn nyrsys cofrestredig, gan gydnabod y bydd llawer yn wynebu heriau wrth gydbwyso ymrwymiadau bywyd ac astudio.
Bydd wythnos 30 awr, cyfnodau byrrach o astudio, dull hybrid sy'n cyfuno dysgu dan arweiniad, dysgu ar-lein ac ar y campws, yn ogystal â nifer uwch o wyliau blynyddol a hyblygrwydd i reoli oriau ymarfer clinigol, i gyd yn dod ynghyd i'ch helpu chi i gydbwyso eich ymrwymiadau trwy gydol y rhaglen BSc pedair blynedd hon.
Mae ein cwricwlwm wedi cael ei ddatblygu i ymateb i newidiadau mewn cymdeithas a gofal iechyd, a bydd eich dysgu yn adlewyrchu disgwyliadau'r cyhoedd o'r proffesiwn nyrsio. Bydd myfyrwyr yn treulio 50% o'u hamser ar y rhaglen mewn amrywiaeth o leoliadau clinigol a chymunedol, felly byddwch yn meithrin y y sgiliau a'r profiad i ddarparu gofal nyrsio iechyd meddwl mwy diogel, tosturiol ac effeithiol.
Byddwch hefyd yn datblygu sgiliau rhyngbersonol a chyfathrebu craff i'ch paratoi chi i weithio'n effeithiol fel rhan o dîm sy'n cynnwys seiciatryddion, seicolegwyr, gweithwyr cymdeithasol, gweithwyr cymunedol a therapyddion galwedigaethol. O ganlyniad uniongyrchol i'n cysylltiadau ardderchog â byrddau iechyd Cymru, a llawer o ddarparwyr gofal iechyd eraill, bydd gennych chi fynediad at ystod eang o brofiadau clinigol ar draws de-orllewin Cymru. Gallai’r rhain gynnwys canolfannau gofal iechyd cymunedol, ysbytai a meysydd nyrsio iechyd meddwl arbenigol.