Bydwreigiaeth, BMid (Anrh)

Bydd eich ffioedd dysgu gael eu talu'n llawn

os gallwch chi ymrwymo i weithio yng Nghymru am ddwy flynedd ar ôl graddio.

midwifery header

Trosolwg o'r Cwrs

Gallwch feithrin y sgiliau a'r profiad sydd eu hangen arnoch i ddechrau ar yrfa werthfawr sy'n llawn boddhad fel bydwraig gyda'n cwrs gradd uchel ei barch a gydnabyddir yn rhyngwladol mewn Bydwreigiaeth.

Byddwch yn datblygu'r arbenigedd clinigol a rhyngbersonol i sicrhau llesiant corfforol ac emosiynol menyw yn ystod beichiogrwydd, genedigaeth a'r cyfnod ar ôl geni. Bydd hanner y cwrs yn cael ei addysgu yn y brifysgol a'r hanner arall mewn lleoliadau ymarfer, gan weithio gyda bydwragedd mewn timau cymunedol, canolfannau geni a arweinir gan fydwreigiaeth ac unedau mamolaeth mewn ysbytai. 

Mae gennym gysylltiadau ardderchog â byrddau iechyd yng Nghymru, felly byddwch yn gallu manteisio ar amrywiaeth eang o leoliadau ledled de-orllewin Cymru. Mae'r ysbyty mamolaeth agosaf drws nesaf i gampws Parc Singleton, nid nepell o ardal hardd Penrhyn Gŵyr.

Pam Bydwreigiaeth ym Mhrifysgol Abertawe?

Mae gennym enw da iawn, ac mae ein gradd mewn Bydwreigiaeth yn y 5fed lle yn y DU ar hyn o bryd (Guardian University Guide 2024).

Mae llawer o'n staff academaidd yn fydwragedd cofrestredig sy'n weithgar mewn ymarfer ac ymchwil, gan ddarparu cyfuniad heb ei ail o drylwyredd damcaniaethol, dealltwriaeth broffesiynol ac arbenigedd ymarferol.

Os gallwch ymrwymo i weithio yng Nghymru am ddwy flynedd ar ôl graddio, gallai eich ffioedd dysgu gael eu talu'n llawn drwy Gynllun Bwrsariaeth GIG Cymru. Yn ogystal, gallech gael cyllid cynhaliaeth o hyd at £4,491 a benthyciad ar gyfradd ostyngol gan Cyllid Myfyrwyr.

Gwelwch ein tudalen Nawdd GIG i wirio eich cymhwyster am gyllid cyn gwneud cais.

Eich profiad ym maes Bydwreigiaeth

Mae ein cyfleusterau ardderchog yn cynnwys ystafell glinigol realistig sy'n eich galluogi i roi eich gwybodaeth ddamcaniaethol ar waith mewn amgylchedd sy'n adlewyrchu'r amodau gwirioneddol y byddwch yn eu hwynebu pan fyddwch yn mynd ar leoliad, mor agos â phosibl.

Hefyd, bydd cyfleoedd unigryw i chi fagu profiad mewn addysg cynenedigol, ôl-enedigol a chymorth bwydo ar y fron drwy gymryd rhan mewn gweithgareddau a gynigir drwy ein Hacademi Iechyd a Llesiant ar y campws.

Gallwch hefyd astudio rhai modiwlau drwy gyfrwng y Gymraeg a gallech fod yn gymwys i gael ysgoloriaethau mewnol neu gymorth ariannol drwy'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol.

Gyrfaoedd Bydwreigiaeth

Ar ôl graddio, gallwch wneud cais am statws Bydwraig Gofrestredig gyda'r Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth a chofrestru fel bydwraig i weithio yn yr UE a'r AEA.

Mae ein cymhwyster Bydwreigiaeth yn uchel ei barch yn rhyngwladol, sy'n golygu y gallwch ddatblygu eich gyrfa dramor mewn gwledydd fel Awstralia, Canada a Seland Newydd.

Wrth i'ch gyrfa ddatblygu, gallech gael cyfleoedd i symud i rolau arbenigol mewn meysydd fel beichiogrwydd ymhlith merched yn eu harddegau, camddefnyddio sylweddau, bwydo ar y fron, iechyd rhyw, gofal risg uchel, addysg cynenedigol, sgrinio cynenedigol a rhoi genedigaeth gartref. Gallech hefyd gymryd rhan mewn rolau ym meysydd addysg, ymchwil neu reoli.

Gallwch ddisgwyl cael cyflog cychwynnol o tua £28,407 sy'n codi i £68,525 ar gyfer ymgynghorydd bydwraig.

Modiwlau

   

Bydwreigiaeth