Gwaith Cymdeithasol, BSc (Anrh)

Darganfyddwch Abertawe yn ein Diwrnod Agored nesaf

Cadwch le heddiw
Social Work

Trosolwg o'r Cwrs

Os ydych yn awyddus i ddilyn gyrfa lle gallwch wneud gwahaniaeth go iawn a chadarnhaol i fywydau pobl a chymunedau mewn amgylchiadau sy'n agored i niwed, yna mae ein gradd Gwaith Cymdeithasol yn berffaith i chi.

Bydd y cwrs hwn sydd wedi'i achredu'n broffesiynol yn sicrhau bod gennych chi'r wybodaeth academaidd a'r profiad ymarferol i ddechrau gyrfa fel gweithiwr cymdeithasol cofrestredig.

Byddwch yn treulio hanner eich amser ar leoliad gwaith gydag asiantaethau gwaith cymdeithasol, gan ddysgu trwy arsylwi ac ymarfer a byddwch yn cael eich addysgu ar ein Campws Parc Singleton am hanner arall yr amser.

Byddwch yn datblygu sgiliau ymchwil a dadansoddi ardderchog ac yn dysgu i gyfleu eich syniadau'n effeithiol ar lafar ac yn ysgrifenedig.

Pam Gwaith Cymdeithasol ym Mhrifysgol Abertawe?

Mae ein cwrs wedi'i gydnabod gan y cyrff rheoleiddio yng nghenhedloedd eraill y DU, felly pan fyddwch wedi gorffen y radd, gallwch gofrestru fel gweithiwr cymdeithasol cymwysedig.

Mae gennym gysylltiadau eithriadol ag asiantaethau gwasanaethau cymdeithasol yn ne a gorllewin Cymru, ac mewn sectorau awdurdod lleol a sectorau gwirfoddol, gan gynnig lleoliadau gwaith mewn amrywiaeth o amgylchiadau.

Gallwch astudio rhai modiwlau trwy gyfrwng y Gymraeg, a gallwch fod yn gymwys am ysgoloriaethau mewnol neu gymorth ariannol gan y Coleg Cymraeg.

Eich profiad Gwaith Cymdeithasol

Yn yr Ysgol Iechyd a Gofal Cymdeithasol, darparwr addysg gofal iechyd mwyaf Cymru, cewch eich trochi mewn amgylchedd ymchwil a dysgu deinamig gyda llawer o gyfleoedd i feithrin cysylltiadau â myfyrwyr o ddisgyblaethau cysylltiedig.

Mae hon yn rhaglen ryngddisgyblaethol sy'n cyfuno gwybodaeth ddamcaniaethol a datblygu sgiliau gyda dysgu trwy ymarfer er mwyn i chi ddatblygu fel ymarferwyr sy'n seiliedig ar werthoedd, sy'n wybodus, yn foesegol ac yn gymwys. Byddwch yn cael eich addysgu drwy gyfuniad 50%/50% o ddysgu wyneb yn wyneb ar y campws a dysgu mewn lleoliad gwaith. Mae ychydig o ddysgu ar-lein a dysgu dan gyfarwyddyd y tu hwnt i'r ystafell ddosbarth, sy'n ategu ac yn gwella eich dysgu. Er enghraifft, sesiynau cymorth galw heibio rhithwir yn ystod lleoliadau gwaith.

Gyrfaoedd Gwaith Cymdeithasol

Y peth pwysicaf i raddedigion yw eu statws fel gweithiwr cymdeithasol cofrestredig a gydnabyddir yn broffesiynol ac yn gyfreithiol.

Gallwch ddisgwyl cyflog dechreuol o oddeutu £37,000 fel gweithiwr cymdeithasol newydd gymhwyso. Gall uwch ymarferwyr a rheolwyr tîm ennill hyd at £48,000. (Gyrfa Cymru, 2025)

Mae'r rhaglen yn darparu'r cymhwyster proffesiynol sydd ei angen er mwyn cofrestru. Gall graddedigion weithio mewn unrhyw ranbarth yn y DU, os ydyn nhw'n cofrestru gyda'r corff rheoleiddio gwaith cymdeithasol perthnasol. Gall graddedigion symud ymlaen i weithio mewn gwasanaethau cymdeithasol statudol, er bod rhai wedi dewis swyddi mewn meysydd megis allgymorth, gwaith ieuenctid a gwaith cymunedol. Fel myfyriwr graddedig Gwaith Cymdeithasol, byddwch hefyd mewn sefyllfa dda i ymgymryd ag astudiaethau pellach neu ymchwil.

Modiwlau

Rydym wrthi'n adolygu ein cwricwlwm i wella eich profiad dysgu ac ymgorffori sgiliau a fydd o fudd i'ch gyrfa yn y dyfodol. Mae hyn yn golygu y gall rhai modiwlau newid.

Gofynion Mynediad

Bydd y Brifysgol yn ystyried ceisiadau gan fyfyrwyr sy'n cynnig ystod eang o gymwysterau.

Gwaith Cymdeithasol, BSc (Anrh)