Gwyddor Barafeddygol, BSc (Anrh)

Bydd eich ffioedd dysgu gael eu talu'n llawn

os gallwch chi ymrwymo i weithio yng Nghymru am ddwy flynedd

myfyriwr parafeddyg gyda darlithydd

Trosolwg o'r Cwrs

Bydd astudio’r cwrs Gwyddor Barafeddygol hwn yn rhoi sgiliau hanfodol, gwybodaeth, a phriodoleddau i chi i ddechrau ar yrfa gyffrous a gwobrwyol fel Parafeddyg Cofrestredig.

Byddwch yn dysgu am anatomeg a ffisioleg, prif systemau'r corff a'r amodau sy'n effeithio arnynt, sut i asesu cleifion a nodi cyflyrau sy'n bygwth bywyd, a rhoi triniaeth cynnal bywyd.

Byddwch hefyd yn meithrin dealltwriaeth o rôl a pherthnasedd ymchwil, cysyniadau gofal i gleifion, ac egwyddorion cyfreithiol a moesegol mewn perthynas â gofal iechyd.

Pam Gwyddor Parafeddygol ym Mhrifysgol Abertawe?

Mae gennym dros ddeng mlynedd o brofiad yn cefnogi parafeddygon sy’n dysgu trwy eu taith addysgol a ni yw’r unig ddarparwr hyfforddiant Gwyddor Barafeddygol yng Nghymru.

Mae ein cwrs yn cael ei gymeradwyo gan y Cyngor Proffesiynau Iechyd a Gofal, sy'n eich galluogi i wneud cais am statws cofrestredig ar ôl cwblhau'r cwrs. Mae hwn yn ofyniad cyfreithiol i unrhyw un sy'n dymuno ymarfer fel parafeddyg.

Mae llawer o'n staff addysgu hefyd yn barafeddygon cofrestredig sy'n parhau i weithio, gan gynnig cyfuniad heb ei ail o drylwyredd academaidd ac arbenigedd proffesiynol.

Os gallwch chi ymrwymo i weithio yng Nghymru am ddwy flynedd ar ôl graddio, fe allech chi gael eich ffioedd dysgu wedi eu talu’n llawn fesul Cynllun Bwrsariaeth GIG Cymru, yn ogystal â chyllid cynhaliaeth a benthyciad cyfradd is gan Gyllid Myfyrwyr.

Gwelwch ein tudalen Nawdd GIG i wirio eich cymhwyster am gyllid cyn gwneud cais.

Eich Profiad ym maes Gwyddor Parafeddygol

Mae ein cyfleusterau ardderchog yn Yr ysgol Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn cynnwys ystafell glinigol realistig sy'n eich galluogi i ddysgu sgiliau ymarferol dan oruchwyliaeth mewn amgylchedd diogel cyn eu defnyddio mewn sefyllfa go iawn. Byddwch hefyd yn manteisio ar brofiadau realistig yn y gweithle yng nghanolfan hyfforddi Gwasanaethau Ambiwlans Cymru.

Ynghyd â gweithgareddau dysgu wyneb yn wyneb, byddwch yn defnyddio datrysiadau digidol, fel Gofod Dysgu ar gyfer efelychiadau clinigol, lle byddwch yn derbyn adborth fideo ar unwaith a manwl i wella dysgu clinigol ac i hwyluso datblygiad sgiliau parafeddyg hanfodol.

Defnyddir rhith-realiti i wella addysgu anatomeg, gan eich galluogi i ddelweddu systemau organau a'u perthnasoedd yn y corff.

Bydd hanner eich cwrs yn cael ei ddysgu ar ein campws ym Mharc Singleton ar gyrion Penrhyn Gŵyr a bydd yr hanner arall yn digwydd mewn lleoliadau clinigol allweddol yn y GIG ac yng nghyfleusterau Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru.

Bydd y lleoliadau hyn yn cynnwys gweithio ar fwrdd ambiwlansys gweithredol, ynghyd â chydweithwyr mewn ysbytai fel theatrau, ac adrannau damweiniau ac achosion brys.

Gyrfaoedd Gwyddor Parafeddygol

Mae'r rhan fwyaf o'n graddedigion Gwyddor Parafeddygol yn symud ymlaen i gyflawni rolau clinigol, naill ai o fewn y GIG neu'r sector preifat. Cyflog cychwynnol y GIG ar gyfer parafeddygon cofrestredig yw tua £28,407 ynghyd â hyd at 25% o daliad oriau anghymdeithasol. Gall cyflogau yn y sector preifat fod yn sylweddol uwch, yn dibynnu ar y lleoliad.

Mae cyfleoedd i barafeddygon â'r profiad clinigol a'r proffil addysgol priodol ddod yn Ymarferwyr Arbenigol, Ymarferwyr Parafeddygol Uwch, neu Barafeddygon Ymgynghorol. Mae cyfleoedd i symud ymlaen i swyddi rheoli neu addysgol hefyd.

Modiwlau

   

Gwyddor Barafeddygol