Ran-amser Gwyddor Gofal Iechyd (Clywedeg), BSc (Anrh)

Bydd eich ffioedd dysgu gael eu talu'n llawn

os gallwch chi ymrwymo i weithio yn

Myfyriwr yn archwilio model awdioleg gydag academydd

Trosolwg o'r Cwrs

Mae'r radd Clywedeg ran-amser ar gael i unigolion sy'n cael eu cyflogi gan fyrddau iechyd y GIG.

Mae'r cwrs rhan-amser hwn yn cynnwys dwy lefel astudio, FHEQ lefel 5 a 6 ac mae ar gael i ymgeiswyr sydd wedi cwblhau cymhwyster FHEQ lefel 4 cydnabyddedig neu gyfwerth.  

Caiff y rhaglen ei chwblhau'n rhan-amser dros dair blynedd ac mae'n cyfuno gwaith academaidd a damcaniaethol trylwyr a’r profiad clinigol ymarferol helaeth y mae ei angen arnoch i gael cyflogaeth yn y proffesiwn hwn sy'n tyfu. 

Byddwch yn mynd i ddarlithoedd a sesiynau sgiliau clinigol, ar-lein ac ar y campws, wrth barhau i feithrin eich sgiliau a'ch hyder mewn lleoliadau gwaith clinigol yn eich bwrdd iechyd lletyol yng ngwasanaethau GIG Cymru.

PAM ASTUDIO AWDIOLEG YM MHRIFYSGOL ABERTAWE

Mae ein cyfleusterau ardderchog yn dynwared y gweithle mewn ffordd realistig ac mae llawer o'n staff academaidd ym maes Gwyddorau Iechyd yn gweithio fel clinigwyr, gan roi dealltwriaeth ac arbenigedd proffesiynol amhrisiadwy.

Byddwch hefyd yn elwa o leoliad cleifion bywyd go iawn yn ein Hacademi Iechyd a Llesiant gwobrwyedig, clinig ar y safle sy'n darparu gwasanaethau iechyd a llesiant i'r gymuned leol gan gynnwys clinig awdioleg preifat.

Mae'r cwrs wedi'i achredu gan yr Ysgol Genedlaethol Gwyddor Gofal Iechyd (yn yr arfaeth) ac mae gennym gysylltiadau cryf iawn â byrddau iechyd GIG Cymru, lle byddwch yn derbyn dysgu clinigol ymarferol trwy gyflogaeth â thâl.

Achredwyd y cwrs gan yr holl brif gyrff rheoleiddio ac mae gennym gysylltiadau cryf iawn â byrddau iechyd Cymru, gan agor cyfleoedd lleoliad clinigol ymarferol i chi ledled y wlad. Yn y cyfamser, mae'r ysbyty agosaf drws nesaf i gampws Parc Singleton nid nepell o ardal hardd Penrhyn Gŵyr.

EICH PROFIAD YM MAES AWDIOLEG

Mae’r rhaglen radd ran-amser hon yn cynnwys dull dysgu cyfunol, lle bydd disgwyl i chi ymgysylltu â llu o weithgareddau dysgu ar-lein a sesiynau addysgu ar y campws un diwrnod yr wythnos. Mae’r rhaglen astudio wedi’i datblygu’n benodol i ategu’r profiad dysgu clinigol y byddwch yn ei gael yn eich bwrdd iechyd GIG lletyol, i roi’r sgiliau a’r cymwysterau sydd eu hangen arnoch i ddechrau eich gyrfa fel awdiolegydd.

GYRFAOEDD YM MAES AWDIOLEG

Mae'r proffesiwn awdioleg wedi ehangu'n gyflym yn ystod y blynyddoedd diwethaf felly, fel rhywun sydd â gradd Awdioleg, gallwch edrych ymlaen at amrywiaeth o gyfleoedd proffesiynol a chyfleoedd i astudio ymhellach.

Cyflog cychwynnol y GIG ar gyfer awdiolegwyr yw £28,407 gydag enillion gyrfa yn codi fel arfer i £50,056.

Modiwlau

Modules

Ran-amser Gwyddor Gofal Iechyd (Clywedeg)