Gwyddor Gofal Iechyd (Ffiseg Radiotherapi), BSc (Anrh)

Bydd eich ffioedd dysgu gael eu talu'n llawn

os gallwch chi ymrwymo i weithio yng Nghymru am ddwy flynedd ar ôl graddio

radiotherapy

Trosolwg o'r Cwrs

Bydd ein cwrs BSc mewn Ffiseg Radiotherapi yn rhoi'r hyfforddiant arbenigol sydd ei angen arnoch i ddechrau gyrfa fedrus, gwerth chweil yn y proffesiwn gofal iechyd fel dosimetrydd ym maes ffiseg radiotherapi.

Yn ystod y radd fodiwlaidd, strwythuredig hon, byddwch yn dysgu sut i ddefnyddio radiotherapi i drin gwahanol ganserau. Byddwch yn cyfuno gwaith academaidd manwl â sgiliau clinigol a thechnolegol ymarferol mewn amrywiaeth o leoliadau gofal iechyd arbenigol.

Mae Ffiseg Radiotherapi yn faes hollbwysig i feddygaeth sy'n gofyn am lefel uchel o gyfrifoldeb a sgiliau technegol. Fel ffisegydd radiotherapi/technolegydd ffiseg radiotherapi, byddwch yn gweithio fel aelod o dîm i ddatblygu cynlluniau triniaeth unigol i bobl sydd â chanser. Byddwch hefyd yn gyfrifol am galibradu a defnyddio offer radiotherapi soffistigedig yn drachywir.

Wrth i'ch gyrfa ddatblygu, byddwch yn gallu manteisio ar gyfleoedd ardderchog i ddatblygu eich ymarfer ac astudio ymhellach hyd at lefel gradd Meistr neu radd doethur.

Pam Ffiseg Radiotherapi yn Abertawe

Caiff y cwrs hwn ei achredu gan yr Ysgol Genedlaethol Gwyddorau Gofal Iechyd.

Mae llawer o'n staff academaidd yn gweithio fel gwyddonwyr gofal iechyd hefyd, gan gynnig cyfuniad heb ei ail o drylwyredd gwyddonol ac arbenigedd proffesiynol.

Os gallwch ymrwymo i weithio yng Nghymru am ddwy flynedd ar ôl graddio, gallai eich ffioedd dysgu gael eu talu'n llawn drwy Gynllun Bwrsariaeth GIG Cymru. Yn ogystal, gallech gael cyllid cynhaliaeth o hyd at £4,491 a benthyciad ar gyfradd ostyngol gan Cyllid Myfyrwyr.

Gwelwch ein tudalen Nawdd GIG i wirio eich cymhwyster am gyllid cyn gwneud cais.

Mae lleoedd ar gael hefyd os ydych yn cael nawdd gan gyflogwr gofal iechyd ac, mewn rhai amgylchiadau, gallwn dderbyn lleoedd a hunanariennir gyda ffioedd dysgu safonol os gallwch ddod o hyd i'ch lleoliad gwaith eich hun.

Eich profiad Ffiseg Radiotherapi

Mae ein cyfleusterau ardderchog yn yr ysgol iechyd a gofal cymdeithasol yn cynnwys ystafell glinigol realistig sy'n eich galluogi i roi eich gwybodaeth ddamcaniaethol ar waith mewn amgylchedd sy'n adlewyrchu'r amodau gwirioneddol y byddwch yn eu hwynebu pan fyddwch yn mynd ar leoliad, mor agos â phosibl.

Caiff hanner eich cwrs ei addysgu ar gampws Parc Singleton, nid nepell o ardal hardd Penrhyn Gŵyr, a byddwch yn cwblhau'r hanner arall mewn lleoliadau gofal iechyd. 

Mae gennym gysylltiadau cryf iawn â darparwyr gofal iechyd a byrddau iechyd yng Nghymru, sy'n golygu y gallwch fanteisio ar amrywiaeth eang o leoliadau clinigol.

Gyrfaoedd Ffiseg Radiotherapi

Cyflog cychwynnol y GIG ar gyfer dosimetryddion clinigol yw tua £28,407 yn codi i £50,056. 

Mae llawer o gyfleoedd hefyd i weithio ym maes ymchwil, addysg, rheoli a'r sector preifat.

Ar ôl graddio, gallwch wneud cais i fod yn aelod o'r corff rheoleiddio, y Sefydliad Ffiseg a Pheirianneg mewn Meddygaeth, a dechrau gweithio fel ymarferydd annibynnol.

Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth am ein graddau Gwyddorau Iechyd trwy fynd i'n .

Modiwlau

Modiwlau

Gwyddor Gofal Iechyd (Ffiseg Radiotherapi)