Trosolwg o'r Cwrs
Bydd ein cwrs BSc mewn Ffiseg Ymbelydredd yn rhoi'r hyfforddiant arbenigol sydd ei angen arnoch i ddechrau gyrfa fedrus, gwerth chweil yn y proffesiwn gofal iechyd fel ffisegydd ymbelydredd.
Byddwch yn dysgu am y ffordd y defnyddir pelydrau-x, deunyddiau ymbelydrol, laserau ac ymbelydredd uwch-fioled mewn cyd-destun clinigol i gymryd delweddau o gleifion, diagnosio a thrin clefydau a monitro ymateb cleifion i driniaeth.
Byddwch hefyd yn meithrin dealltwriaeth glir o'r cyfreithiau a'r rheoliadau sy'n ymwneud â defnyddio ymbelydredd mewn cyd-destun clinigol ac egwyddorion asesu a rheoli risg.
Mae strwythur y cwrs yn golygu y byddwch yn cyfuno gwaith academaidd manwl â sgiliau ymarferol mewn amrywiaeth o leoliadau gofal iechyd arbenigol.
Mae Ffiseg Ymbelydredd yn faes hollbwysig i feddygaeth sy'n gofyn am lefel uchel o gyfrifoldeb a sgiliau technegol. Fel ffisegydd ymbelydredd, byddwch yn defnyddio offer soffistigedig i fesur a chyfrifo'r dognau o ymbelydredd a dderbynnir gan gleifion yn ystod triniaeth a chan y staff sy'n ei rhoi.
Wrth i'ch gyrfa ddatblygu, byddwch yn gallu manteisio ar gyfleoedd ardderchog i ddatblygu eich ymarfer ac astudio ymhellach hyd at lefel gradd Meistr neu radd ddoethur.