Trosolwg o'r Cwrs
Bydd ein cwrs BSc mewn Ffisioleg Anadlu a Chysgu yn rhoi'r hyfforddiant arbenigol sydd ei angen arnoch i ddechrau gyrfa werth chweil yn gweithio gyda meddygon a gweithwyr gofal iechyd proffesiynol eraill i ddiagnosio a thrin pobl â chlefydau anadlol ac anhwylderau anadlu sy'n gysylltiedig â chwsg.
Byddwch yn astudio strwythur a swyddogaethau'r system anadlu a'r technegau diagnostig a therapiwtig diweddaraf ac yn cyfuno gwaith academaidd manwl â sgiliau clinigol a thechnolegol ymarferol mewn amrywiaeth o leoliadau gofal iechyd arbenigol.
Mae Ffisioleg Anadlu a Chysgu yn faes cyffrous sy'n gofyn am lefel uchel o gyfrifoldeb a chywirdeb a'r gallu i ddatrys problemau. Fel ffisiolegydd anadlu a chysgu, byddwch yn gweithio gyda chleifion o bob oed ac anabledd, yn cynnal amrywiaeth eang o brofion diagnostig ac yn datblygu cynlluniau triniaeth.