Gwyddor Gofal Iechyd (Ffisioleg Gardiaidd), BSc (Anrh)

Darganfyddwch Abertawe yn ein Diwrnod Agored nesaf

Cadwch le heddiw
Cardiac Featured

Trosolwg o'r Cwrs

Mae ein cwrs wedi'i achredu gan yr Ysgol Genedlaethol Gofal Iechyd a Gwyddoniaeth a'r Cyngor Cofrestru Ffisioleg Glinigol.

Byddwch yn cael y wybodaeth wyddonol, glinigol a thechnegol sydd ei hangen arnoch i roi gofal arbenigol i bobl sy'n byw gyda chlefyd cardiaidd neu yr amheuir bod ganddynt glefyd cardiaidd.

Byddwch yn astudio anatomi a ffisioleg y galon a'r technegau diagnostig a therapiwtig diweddaraf ac yn cyfuno gwaith academaidd manwl â sgiliau clinigol ymarferol mewn amrywiaeth o leoliadau gofal iechyd arbenigol.

Mae Ffisioleg Gardiaidd yn faes cyffrous sy'n datblygu'n gyflym sy'n gofyn am lefel uchel o gyfrifoldeb a'r gallu i ddatrys problemau. Fel ffisiolegydd cardiaidd, bydd disgwyl i chi ymgymryd â rhywfaint o waith a arferai gael ei wneud gan feddygon a bydd llawer o gyfleoedd i arbenigo mewn maes penodol wrth i chi ddatblygu eich gyrfa.

Pam astudio Ffisioleg Gardiaidd yn Abertawe?

Wedi'i lleoli ar ein Campws Parc Singleton ar lan y môr, mae ein cyrsiau Gwyddor Gofal Iechyd yn rhan o'r Ysgol Iechyd a Gofal Cymdeithasol, lle gallwch fanteisio ar arbenigedd ymchwilwyr ac addysgwyr blaenllaw.

Mae ein gradd BSc (Anrh) Gwyddor Gofal Iechyd (Ffisioleg Gardiaidd) yn Abertawe:

  • Ymysg y 10 orau yn y DU (Times Good University Guide 2026)*
  • Yn 1af yn y DU am Ragolygon Graddedigion (Times Good University Guide 2026)*
  • Yn 2il yn y DU am Ragolygon Gyrfa (Guardian University Guide 2026)*
  • Yn 5ed yn y DU am Ymchwil (Times Good University Guide 2026)*
  • Yn 6ed yn y DU ar gyfer Boddhad â'r Addysgu (Guardian University Guide 2026)*

*Wedi'i chynnwys o dan Anatomeg a Ffisioleg 

Eich profiad ym maes Ffisioleg Gardiaidd

Mae ein cyfleusterau rhagorol, gan gynnwys Canolfan Efelychu a Dysgu Ymdrochol Prifysgol Abertawe, yn cynnwys ystafell glinigol realistig i chi roi eich gwybodaeth ddamcaniaethol ar waith mewn amgylchedd sy'n adlewyrchu'r amodau y byddwch chi'n cael profiad ohonynt ar leoliad gwaith.

Byddwch hefyd yn elwa o leoliad sydd â chleifion go iawn yn ein Hacademi Iechyd a Lles arobryn, sef clinig ar y safle sy'n cynnig gwasanaethau iechyd a lles i’r gymuned leol mewn cydweithrediad â'r GIG.

Addysgir hanner eich cwrs ar ein Campws Parc Singleton ar ymyl  Penrhyn Gŵyr hardd a bydd yr hanner arall mewn lleoliadau gofal iechyd. Mae gennym gysylltiadau cryf â darparwyr gofal iechyd a Byrddau Iechyd Cymru, sy'n agor ystod eang o gyfleoedd lleoliad gwaith clinigol i chi.

Mae llawer o'n staff academaidd hefyd yn wyddonwyr gofal iechyd cymwysedig, gan ddarparu cyfuniad o fanwl gywirdeb gwyddonol ac arbenigedd proffesiynol heb ei ail.

Os gallwch ymrwymo i weithio yng Nghymru am ddwy flynedd ar ôl graddio, gall eich ffioedd dysgu gael eu talu’n llawn drwy Gynllun Bwrsariaethau GIG Cymru, yn ogystal â chyllid cynhaliaeth a benthyciad cyfradd is gan Gyllid Myfyrwyr.

Ewch i’n tudalen we Cyllid y GIG i wirio a ydych yn gymwys i gael cyllid cyn gwneud cais.

Gyrfaoedd mewn Ffisioleg Cardiaidd

Ar ôl cwblhau'r cwrs byddwch chi'n gymwys i ymuno â'r gofrestr wirfoddol gyda'r Cyngor Cofrestru ar gyfer Ffisioleg Glinigol neu'r Academi Gwyddor Gofal Iechyd i ymuno â’r gweithle fel ymarferydd annibynnol.

Cyflog cychwynnol y GIG ar gyfer Ffisiolegwyr Cardiaidd yw £32,073 gan godi i £39,043 gyda'r potensial am ddilyniant gyrfa pellach gydag astudiaethau ychwanegol. Mae hefyd ragolygon ardderchog i weithio ym meysydd ymchwil, addysgu, rheolaeth, adrannau’r llywodraeth a'r sector preifat.

Modiwlau

Rydym wrthi'n adolygu ein cwricwlwm i wella eich profiad dysgu ac ymgorffori sgiliau a fydd o fudd i'ch gyrfa yn y dyfodol. Mae hyn yn golygu y gall rhai modiwlau newid.

Gofynion Mynediad

Bydd y Brifysgol yn ystyried ceisiadau gan fyfyrwyr sy'n cynnig ystod eang o gymwysterau.

Gwyddor Gofal Iechyd (Ffisioleg Gardiaidd), BSc (Anrh)