Trosolwg o'r Cwrs
Bydd ein cwrs BSc mewn Meddygaeth Niwclear yn rhoi'r hyfforddiant arbenigol sydd ei angen arnoch i ddechrau gyrfa fedrus, gwerth chweil yn y proffesiwn gofal iechyd fel technolegydd ffiseg feddygol/technolegydd meddygaeth niwclear.
Yn ystod y tair blynedd, byddwch yn dysgu am ddefnyddio isotopau a gwahanol fathau o ymbelydredd i ddiagnosio a thrin llawer o glefydau, gan gynnwys gwahanol fathau o ganser, clefyd y galon ac anhwylderau gastroberfeddol, endocrinaidd a niwrolegol.
Byddwch yn cyfuno gwaith academaidd manwl â sgiliau clinigol a thechnolegol ymarferol mewn amrywiaeth o leoliadau gofal iechyd arbenigol.
Mae Meddygaeth Niwclear yn faes cyffrous sy'n datblygu'n barhaus sy'n gofyn am lefel uchel o gyfrifoldeb a sgiliau technegol. Fel technolegydd ffiseg feddygol, byddwch yn gweithredu, yn cynnal ac yn monitro offer cymhleth, arbenigol a ddefnyddir i ddiagnosio a thrin cleifion o bob oed.
Wrth i'ch gyrfa ddatblygu, byddwch yn gallu manteisio ar gyfleoedd ardderchog i ddatblygu eich ymarfer ac astudio ymhellach hyd at lefel gradd Meistr neu radd doethur.