Gwyddor Gofal Iechyd (Niwroffisioleg), BSc (Anrh)

Gall eich ffioedd dysgu gael eu talu'n llawn

Os gallwch chi ymrwymo i weithio yng Nghymru am ddwy flynedd ar ôl graddio

Neuro

Trosolwg o'r Cwrs

Mae ein cwrs BSc mewn Niwroffisioleg yn rhoi'r hyfforddiant arbenigol sydd ei angen arnoch i ddechrau gyrfa fedrus, gwerth chweil yn y proffesiwn gofal iechyd, yn diagnosio ac yn trin pobl ag anhwylderau niwrolegol.

Byddwch yn dysgu am swyddogaeth y system nerfol a'r cyflyrau sy'n effeithio arni fel strôc, epilepsi, sglerosis ymledol, dementia a chamweithrediad y nerfau a'r cyhyrau.

Wrth i'r cwrs fynd rhagddo, byddwch yn datblygu'r ddealltwriaeth ac yn magu'r hyder i gyflawni triniaethau arbenigol mewn niwroffisioleg, gan gyfuno eich gwaith academaidd manwl â sgiliau clinigol ymarferol mewn amrywiaeth o leoliadau gofal iechyd arbenigol.

Mae niwroffisioleg yn faes cyffrous sy'n gofyn am lefel uchel o gyfrifoldeb a'r gallu i ddatrys problemau. Fel niwroffisiolegydd, byddwch yn cynnal ymchwiliadau rheolaidd mewn amgylcheddau neu adrannau penodol, fel lleoliadau gofal dwys ac ystafelloedd llawdriniaeth, gan weithio gyda chleifion o bob oed.

Pam astudio Niwroffisioleg yn Abertawe?

Ni yw'r unig brifysgol yng Nghymru sy'n cynnig BSc mewn Niwroffisioleg a chaiff y cwrs ei achredu gan yr Ysgol Genedlaethol Gwyddorau Gofal Iechyd.

Mae llawer o'n staff academaidd yn gweithio fel gwyddonwyr gofal iechyd ac yn ymgymryd â gwaith ymchwil hefyd, gan gynnig cyfuniad heb ei ail o drylwyredd gwyddonol ac arbenigedd proffesiynol.

Os gallwch ymrwymo i weithio yng Nghymru am ddwy flynedd ar ôl graddio, gallai eich ffioedd dysgu gael eu talu'n llawn drwy Gynllun Bwrsariaeth GIG Cymru. Yn ogystal, gallech gael cyllid cynhaliaeth o hyd at £4,491 a benthyciad ar gyfradd ostyngol gan Cyllid Myfyrwyr.

Gwelwch ein tudalen Nawdd GIG i wirio eich cymhwyster am gyllid cyn gwneud cais.

Eich profiad ym maes Niwroffisioleg

Mae ein cyfleusterau ardderchog yng Ngholeg y Gwyddorau Dynol ac Iechyd yn cynnwys ystafell glinigol realistig sy'n eich galluogi i roi eich gwybodaeth ddamcaniaethol ar waith mewn amgylchedd sy'n adlewyrchu'r amodau gwirioneddol y byddwch yn eu hwynebu pan fyddwch yn mynd ar leoliad, mor agos â phosibl.

Caiff hanner eich cwrs ei addysgu ar gampws Parc Singleton, nid nepell o ardal hardd Penrhyn Gŵyr, a byddwch yn cwblhau'r hanner arall mewn lleoliadau gofal iechyd. Mae gennym gysylltiadau cryf iawn â darparwyr gofal iechyd a byrddau iechyd yng Nghymru, sy'n golygu y gallwch fanteisio ar amrywiaeth eang o leoliadau clinigol.

Gyrfaoedd mewn Niwroffisioleg

Mae prinder niwroffisiolegwyr yn y DU ar hyn o bryd, felly mae'r siawns o gael swydd yn ardderchog. Cyflog cychwynnol y GIG ar gyfer Niwroffisiolegwyr yw tua £28,407, yn codi i £50,056.

Mae llawer o gyfleoedd hefyd i weithio ym maes ymchwil, addysg, rheoli a'r sector preifat; ac mae cyfleoedd ardderchog i barhau i astudio hyd at lefel gradd Meistr neu radd doethur wrth i'ch gyrfa ddatblygu.

Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth am ein graddau Gwyddorau Iechyd trwy fynd i'n .

Modiwlau

Mae hon yn rhaglen radd â strwythur penodol ac mae pob modiwl yn orfodol. Yn ystod eich blwyddyn gyntaf, byddwch yn canolbwyntio ar hanfodion anatomi, ffisioleg, pathoffisioleg a gwyddor niwrosynhwyraidd.

Yn ystod eich ail flwyddyn, byddwch yn mynd i'r afael â dulliau ymchwil a gwaith dadansoddi ystadegol, ac yn cyflawni eich lleoliad clinigol cyntaf.

Yn ystod eich blwyddyn olaf, byddwch yn mireinio eich astudiaethau ymhellach, gan ddatblygu prosiect ymchwil gofal iechyd a chwblhau eich ail leoliad clinigol. 

Gwyddor Gofal Iechyd (Niwroffisioleg)