Ran-amser Gwyddor Gofal Iechyd (Peirianneg Adsefydlu), BSc (Anrh)

Cwrs rhan-amser wedi'i ariannu'n llawn

Myfyriwr sy'n gweithio ar offer peirianneg feddygol

Trosolwg o'r Cwrs

Mae'r radd Peirianneg Feddygol ran-amser ar gael i unigolion sy'n cael eu cyflogi o fewn byrddau iechyd y GIG ac sy'n canolbwyntio ar agweddau clinigol ac ymarferol ar Beirianneg Feddygol yn eich rôl GIG.

Bydd y cwrs gradd rhan-amser hwn mewn Peirianneg Feddygol yn rhoi'r hyfforddiant arbenigol i chi i'ch galluogi i ddatblygu eich gyrfa fedrus wrth weithio yn y proffesiwn gofal iechyd fel Peiriannydd Meddygol.

Mae'r cwrs rhan-amser hwn yn cynnwys dwy lefel astudio, FHEQ lefel 5 a 6, ac mae'n hygyrch ar ôl cwblhau cymhwyster lefel 4 cydnabyddedig FHEQ, neu gymhwyster cyfatebol.  Bydd y rhaglen yn cael ei chwblhau'n rhan-amser dros dair blynedd ac yn cyfuno gwaith academaidd a damcaniaethol trwyadl â'r profiad clinigol ymarferol helaeth y bydd ei angen arnoch yn eich cyflogaeth yn y proffesiwn hanfodol hwn. 

Dros dair blynedd byddwch yn dysgu am gylch bywyd offer meddygol, gan gynnwys profi derbyn offer newydd, cyflwyno offer a dyfeisiau i wasanaeth, cynghori ar ddefnyddio offer yn gywir, mynd i'r afael â materion diogelwch cleifion a chael gwared ar hen ddyfeisiau’n ddiogel. Byddwch yn cyfuno gwaith academaidd manwl â sgiliau clinigol a thechnolegol ymarferol mewn ystod o leoliadau gofal iechyd arbenigol.

PAM PEIRIANNEG FEDDYGOL YN ABERTAWE?

Mae Prifysgol Abertawe'n cynnig graddau Gwyddorau Gofal Iechyd ar draws ystod gynyddol o arbenigeddau, pob un wedi'i hachredu yn llawn gan gyrff proffesiynol y diwydiant.

Mae ein cyfleusterau ardderchog yn dynwared y gweithle mewn ffordd realistig ac mae llawer o'n staff academaidd ym maes Gwyddorau Iechyd yn gweithio fel clinigwyr, gan roi dealltwriaeth ac arbenigedd proffesiynol amhrisiadwy.

Byddwch hefyd yn elwa o leoliad cleifion bywyd go iawn yn ein Hacademi Iechyd a Llesiant gwobrwyedig, clinig ar y safle sy'n darparu gwasanaethau iechyd a llesiant i'r gymuned leol.

Mae'r cwrs wedi'i achredu gan yr Ysgol Genedlaethol Gwyddor Gofal Iechyd (yn yr arfaeth) ac mae'n cyflawni meini prawf y Gofrestr o Dechnolegwyr Clinigol. Mae gennym gysylltiadau cryf iawn â byrddau iechyd GIG Cymru, lle byddwch yn derbyn dysgu clinigol ymarferol trwy gyflogaeth â thâl.

EICH PROFIAD PEIRIANNEG FEDDYGOL

Mae'r rhaglen radd ran-amser hon yn cynnwys dull dysgu cyfunol, lle bydd disgwyl i chi gymryd rhan mewn llu o weithgareddau dysgu ar-lein a sesiynau addysgu ar y campws un diwrnod yr wythnos. Mae'r rhaglen astudio wedi'i datblygu'n benodol i ategu'r profiad dysgu clinigol y byddwch yn ei ennill ym mwrdd iechyd y GIG sy'n eich lletya, i'ch arfogi â'r sgiliau a'r cymwysterau sydd eu hangen arnoch i ddechrau eich gyrfa fel Peiriannydd Feddygol.

GYRFAOEDD MEWN PEIRIANNEG FEDDYGOL

Cyflog cychwynnol y GIG ar  £28,407 gydag enillion gyrfa yn codi fel arfer i £50,056.

Modiwlau

modules

Ran-amser Gwyddor Gofal Iechyd (Peirianneg Adsefydlu)