Gwyddor Gofal Iechyd (Peirianneg Adsefydlu), BSc (Anrh)

Cyfuno gwaith academaidd manwl â sgiliau ymarferol

Peirianneg Adsefydlu

Trosolwg o'r Cwrs

Bydd ein BSc mewn Peirianneg Adsefydlu yn rhoi'r hyfforddiant arbenigol sydd ei angen arnoch i ddechrau gyrfa werth chweil a medrus iawn yn y proffesiwn gofal iechyd fel peiriannydd adsefydlu.

Cewch ddysgu am gymhwyso egwyddorion peirianneg i ddatblygu datrysiadau a dyfeisiau technolegol i gynorthwyo unigolion ag anableddau a chyflyrau tymor hir.

Byddwch yn cyfuno gwaith academaidd manwl â sgiliau clinigol a thechnolegol ymarferol mewn ystod o leoliadau gofal iechyd arbenigol.

Dros y tair blynedd byddwch yn dysgu am ddylunio, adeiladu a phrofi ystod o dechnolegau cynorthwyol, gan gynnwys cadeiriau olwyn, aelodau artiffisial, cymhorthion robotig a seti arbenigol. Gan ddefnyddio systemau mapio gwasgedd, goniometrau, inclinomedr, rheolwyr ffon reoli a rhaglenwyr, byddwch yn dysgu adeiladu dyfeisiau safonol wedi'u gwneud yn arbennig, yn ogystal â dysgu am eu pwysigrwydd tuag at chwyldroi gofal ac annibyniaeth cleifion. 

Mae peirianneg adsefydlu yn faes cyffrous, heriol sy'n esblygu'n barhaus ac sy'n gofyn am lefel uchel o gyfrifoldeb a sgil dechnegol. Fel peiriannydd adsefydlu, byddwch yn gweithio fel rhan o dîm adsefydlu gan gynnwys prosthetyddion ac orthotyddion, ffisiotherapyddion, therapyddion galwedigaethol, yn ogystal â chleifion a chlinigau mewn gwasanaethau acíwt a chymunedol.

Wrth i'ch gyrfa ddatblygu, cewch gyfleoedd gwych ar gyfer ymarfer uwch ac astudio ymhellach i lefel Meistr a doethurol.

PAM GWYDDOR GOFAL IECHYD (PEIRIANNEG ADSEFYDLU) YN ABERTAWE?

Caiff ein cwrs ei achredu gan yr Ysgol Genedlaethol Gwyddorau Gofal Iechyd a Chofrestr y Technolegwyr Clinigol.

Mae llawer o'n staff academaidd yn gweithio fel gwyddonwyr gofal iechyd hefyd, gan gynnig cyfuniad heb ei ail o drylwyredd gwyddonol ac arbenigedd proffesiynol.

Mae lleoedd ar gael hefyd os ydych yn cael nawdd gan gyflogwr gofal iechyd ac, mewn rhai amgylchiadau, gallwn dderbyn lleoedd a hunanariennir gyda ffioedd dysgu safonol os gallwch ddod o hyd i'ch lleoliad gwaith eich hun.

EICH PROFIAD GWYDDOR GOFAL IECHYD (PEIRIANNEG ADSEFYDLU)

Mae ein cyfleusterau ardderchog yn yr ysgol Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn cynnwys ystafell glinigol realistig sy'n eich galluogi i roi eich gwybodaeth ddamcaniaethol ar waith mewn amgylchedd sy'n adlewyrchu'r amodau gwirioneddol y byddwch yn eu hwynebu pan fyddwch yn mynd ar leoliad, mor agos â phosibl.

Caiff hanner eich cwrs ei addysgu ar gampws Parc Singleton, nid nepell o ardal hardd Penrhyn Gŵyr, a byddwch yn cwblhau'r hanner arall mewn lleoliadau gofal iechyd. 

Mae gennym gysylltiadau cryf iawn â darparwyr gofal iechyd a byrddau iechyd yng Nghymru, sy'n golygu y gallwch fanteisio ar amrywiaeth eang o leoliadau clinigol.

GYRFAOEDD MEWN PEIRIANNEG ADSEFYDLU

Cyflog cychwynnol y GIG ar  £24,214 gydag enillion gyrfa yn codi fel arfer i £43,772. 

Mae ein graddedigion ar y trywydd cywir ar gyfer ystod o gyfleoedd gyrfa cyffrous, gan weithio mewn amrywiaeth o wasanaethau gofal iechyd:

  • Technoleg gynorthwyol electronig
  • Dadansoddiad o symudiadau clinigol
  • Cadair olwyn a seddi
  • Prostheteg ac orthoteg
  • Telehealth and telecare

Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth am ein graddau Gwyddorau Iechyd trwy fynd i'n .

Modiwlau

    

Gwyddor Gofal Iechyd (Peirianneg Adsefydlu)