Gwyddor Gofal Iechyd (Peirianneg Feddygol), BSc (Anrh)

Bydd eich ffioedd dysgu gael eu talu'n llawn

os gallwch chi ymrwymo i weithio yng Nghymru am ddwy flynedd ar ôl graddio

medical engineering

Trosolwg o'r Cwrs

Bydd ein BSc mewn Peirianneg Feddygol yn rhoi'r hyfforddiant arbenigol sydd ei angen arnoch i ddechrau gyrfa werth chweil a medrus iawn yn gweithio yn y proffesiwn gofal iechyd fel peiriannydd meddygol. Fel ymarferydd, byddwch yn ymgymryd â rôl ymarferol gyda dyfeisiau meddygol, gan weithio gydag ystod eang o offer y deuir ar eu traws yn aml mewn amgylchedd ysbyty.

Er enghraifft, efallai y byddwch chi'n arbenigo mewn rhai mathau o offer fel yr un a ddefnyddir mewn triniaeth arennol neu radiotherapi.

Dros dair blynedd byddwch yn dysgu am gylch bywyd offer meddygol, gan gynnwys profi derbyn offer newydd, cyflwyno offer a dyfeisiau i wasanaeth, cynghori ar ddefnyddio offer yn gywir, mynd i'r afael â materion diogelwch cleifion a chael gwared ar hen ddyfeisiau’n ddiogel. Byddwch yn cyfuno gwaith academaidd manwl â sgiliau clinigol a thechnolegol ymarferol mewn ystod o leoliadau gofal iechyd arbenigol.

Mae peirianneg feddygol yn rôl gyffrous ac amrywiol lle byddwch chi'n defnyddio'ch arbenigedd mewn peirianneg electronig neu fecanyddol i gyflawni'r gweithgareddau hyn ac efallai cymryd rhan mewn addasu neu adeiladu offer hefyd. Mae'n faes cyffrous sy'n datblygu'n barhaus a gofynna  am lefel uchel o gyfrifoldeb a sgil dechnegol.

Rhaglen Baglor mewn Gwyddoniaeth (BS) yw hon, gyda ffocws ar agweddau clinigol ac ymarferol ar beirianneg feddygol o fewn y GIG. Os ydych yn chwilio am Faglor mewn Peirianneg (BEng), a fydd yn rhoi hyfforddiant a sgiliau i chi mewn dylunio ac arloesi technolegau meddygol yfory yn seiliedig ar egwyddorion peirianneg, a llwybr i ddod yn Beiriannydd Siartredig Proffesiynol gweler ein BEng Peirianneg Biofeddygol.

Pam Astudio Peirianneg Feddygol yn Abertawe?

Caiff ein cwrs ei achredu gan yr Ysgol Genedlaethol Gwyddorau Gofal Iechyd.

Mae llawer o'n staff academaidd yn gweithio fel gwyddonwyr gofal iechyd hefyd, gan gynnig cyfuniad heb ei ail o drylwyredd gwyddonol ac arbenigedd proffesiynol.

Os gallwch ymrwymo i weithio yng Nghymru am ddwy flynedd ar ôl graddio, gallai eich ffioedd dysgu gael eu talu'n llawn drwy Gynllun Bwrsariaeth GIG Cymru. Yn ogystal, gallech gael cyllid cynhaliaeth o hyd at £4,491 a benthyciad ar gyfradd ostyngol gan Cyllid Myfyrwyr.

Mae lleoedd ar gael hefyd os ydych yn cael nawdd gan gyflogwr gofal iechyd ac, mewn rhai amgylchiadau, gallwn dderbyn lleoedd a hunanariennir gyda ffioedd dysgu safonol os gallwch ddod o hyd i'ch lleoliad gwaith eich hun.

Gwelwch ein tudalen Nawdd GIG i wirio eich cymhwyster am gyllid cyn gwneud cais.

Eich Profiad ym Maes Peirianneg Feddygol

Mae ein cyfleusterau ardderchog yn yr ysgol Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn cynnwys ystafell glinigol realistig sy'n eich galluogi i roi eich gwybodaeth ddamcaniaethol ar waith mewn amgylchedd sy'n adlewyrchu'r amodau gwirioneddol y byddwch yn eu hwynebu pan fyddwch yn mynd ar leoliad, mor agos â phosibl.

Caiff hanner eich cwrs ei addysgu ar gampws Parc Singleton, nid nepell o ardal hardd Penrhyn Gŵyr, a byddwch yn cwblhau'r hanner arall mewn lleoliadau gofal iechyd. 

Mae gennym gysylltiadau cryf iawn â darparwyr gofal iechyd a byrddau iechyd yng Nghymru, sy'n golygu y gallwch fanteisio ar amrywiaeth eang o leoliadau clinigol.

 

Gyrfaoedd mewn Meddygaeth Niwclear

Mae'r siawns o gael swydd yn ardderchog, gyda bron 100% o fyfyrwyr Gwyddorau Gofal Iechyd yn mynd ymlaen i weithio yn eu dewis broffesiwn o fewn chwe mis ar ôl graddio (Arolwg o Gyrchfannau'r Rhai sy'n Gadael Addysg Uwch, 2018)

Cyflog cychwynnol y GIG ar gyfer Technolegwyr Ffiseg Feddygol yw tua £28,407, yn codi i £50,056. Mae llawer o gyfleoedd hefyd i weithio ym maes ymchwil, addysg, rheoli a'r sector preifat.

Wrth i'ch gyrfa ddatblygu, cewch gyfleoedd rhagorol ar gyfer ymarfer uwch ac astudio ymhellach i lefel Meistr a doethuriaeth.

Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth am ein graddau Gwyddorau Iechyd trwy fynd i'n .

Modiwlau

   

O Ddur i Astudiaeth: Taith i Beirianneg Feddygol

Dyma un o'n myfyrwyr ysbrydoledig a gymerodd y naid o'r diwydiant dur i fyd peirianneg feddygol. Ar ôl blynyddoedd o weithio yn Tata Steel, penderfynodd ddilyn llwybr newydd wrth astudio BSc mewn Gwyddor Gofal Iechyd, gan gyfuno profiad ymarferol ag angerdd am helpu eraill. Mae ei stori'n dangos nad yw hi byth yn rhy hwyr i newid cyfeiriad, a gall profiad yn y byd go iawn fod yn sylfaen bwerus i lwyddiant academaidd.

Gwyddor Gofal Iechyd (Peirianneg Feddygol)

Ran-amser Gwyddor Gofal Iechyd (Peirianneg Fecanyddol)