Trosolwg o'r Cwrs
Os oes gennych ddiddordeb mewn adeiladu gyrfa werth chweil ym maes iechyd a gofal cymdeithasol, ond nad ydych yn bodloni'r gofynion mynediad i astudio ein rhaglen BSc 3 blynedd, neu'n fyfyriwr aeddfed sy'n dychwelyd i addysg, rydym yn falch o gynnig ein cwrs BSc Iechyd a Gofal Cymdeithasol gyda Blwyddyn Sylfaen.
Mae'r flwyddyn gyntaf o'n cwrs 4 blynedd yn flwyddyn sylfaenol lle byddwch yn cael eich cyflwyno i sylfeini iechyd a gofal cymdeithasol, ac yn cwmpasu themâu allweddol sy'n ffurfio sylfaen y maes, gan gynnwys iechyd cyhoeddus, polisi, cyfraith a moeseg, cyfiawnder, a chyfartaledd.
Byddwch yn adeiladu eich gwybodaeth ac, ar ôl cwblhau'r cwrs yn llwyddiannus (lle bydd gofyn i chi gyflawni o leiaf 40% yn gyffredinol), byddwch yn symud ymlaen i flwyddyn 1 y rhaglen BSc 3 blynedd.
Bydd y flwyddyn sylfaen (lefel 3) yn cael ei chyflwyno gan Y Coleg, Prifysgol Abertawe (TCSU). Bydd blynyddoedd 2-4 (lefelau 4-6) yn cael eu cyflwyno gan yr Ysgol Iechyd a Gofal Cymdeithasol.