Iechyd a Gofal Cymdeithasol, BSc (Anrh)

Mae clirio ar agor!

Gwnewch gais nawr
HSC students

Mae'r cwrs hwn ar gael trwy Glirio

Cymorth a Chefnogaeth Clirio 0808 175 3071

Trosolwg o'r Cwrs

Iechyd a Gofal Cymdeithasol, BSc (Anrh) – Cod UCAS L510

Iechyd a Gofal Cymdeithasol Gyda Blwyddyn mewn Ymarfer, BSc (Anrh) – Cod UCAS L511

Ein cwrs gradd hyblyg â sail eang mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol yw'r man cychwyn delfrydol ar gyfer ystod o yrfaoedd sy'n llawn boddhad mewn amrywiaeth o sectorau.

Byddwch yn ymchwilio i iechyd a gofal cymdeithasol mewn amrywiaeth eang o gyd-destunau cenedlaethol a rhyngwladol, gan gwmpasu themâu sy'n cynnwys polisi cymdeithasol, iechyd y cyhoedd, epidemioleg, seicoleg, bioleg ddynol a ffisioleg, y gyfraith a moeseg mewn perthynas ag iechyd, cydraddoldeb, a chyfiawnder cymdeithasol. 

Byddwch yn dod i ddeall y strwythurau a'r polisïau sy'n sail i iechyd a gofal cymdeithasol yn y DU yn glir ac yn meithrin sgiliau cyfathrebu, ymchwilio a dadansoddi rhagorol y mae cyflogwyr yn rhoi gwerth mawr arnynt.

Pam Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn Abertawe?

Fel myfyriwr yn narparwr addysg gofal iechyd mwyaf Cymru, byddwch yn cael eich trwytho mewn amgylchedd ymchwil a dysgu dynamig sy'n cynnig llawer o gyfleoedd i ffurfio cysylltiadau â myfyrwyr o ddisgyblaethau cysylltiedig. 

Mae hyn yn rhan o'n dull cydweithredol mewn perthynas ag iechyd a gofal cymdeithasol, sydd â'r nod o wella'r integreiddio rhwng y sectorau a'ch paratoi ar gyfer gyrfa yn gweithio ar draws ffiniau sefydliadol a phroffesiynol traddodiadol.

 

Eich profiad ym maes Iechyd a Gofal Cymdeithasol

Gallwch ddewis astudio Iechyd a Gofal Cymdeithasol fel BSc 3 blynedd neu BSc 4 blynedd gydag Ymarfer Cymhwysol.

Fel rhan o’r BSc 3 blynedd mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol, byddwch yn ymgymryd â modiwlau mewn datblygiad proffesiynol a bydd gennych yr opsiwn i gwblhau lleoliad gwaith fel rhan o’ch gradd ochr yn ochr â’ch gwaith academaidd.

Mae'r BSc 4 blynedd mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol gydag Ymarfer Cymhwysol yn cynnig blwyddyn ychwanegol mewn diwydiant i'r radd 3 blynedd mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol. Bydd y flwyddyn ychwanegol hon yn rhoi cyfle i fyfyrwyr gael profiad o waith yn amgylchedd y gwasanaethau Iechyd a Gofal Cymdeithasol, gan ganiatáu i fyfyrwyr adeiladu eu hyder a chael profiad byd go iawn.

Gyrfaoedd Iechyd a Gofal Cymdeithasol

Fel myfyriwr graddedig mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol, bydd digonedd o yrfaoedd ar agor i chi yn y GIG, gwasanaethau cymdeithasol, y gwasanaeth sifil, y sector iechyd a gofal cymdeithasol annibynnol, a sefydliadau elusennol.

Bydd gennych lawer o opsiynau ar gyfer astudiaethau pellach hefyd. Mae myfyrwyr sydd wedi graddio'n ddiweddar wedi symud ymlaen i dystysgrifau addysgu ôl-raddedig, cyrsiau Gwyddor Parafeddygol, ac astudiaethau ar lefel Meistr mewn Gwaith Cymdeithasol, Hybu Iechyd, Niwrowyddoniaeth Wybyddol a Chymorth Dyngarol. 

 

Modiwlau

Mae hon yn rhaglen radd â strwythur penodol ac mae'r rhan fwyaf o'r modiwlau yn orfodol. Byddwch yn dilyn modiwlau cynyddol ddatblygedig sy'n cwmpasu anatomeg ddynol, ffisioleg, pathoffisioleg, moeseg, a seicoleg a chymdeithaseg ym maes gofal iechyd.

Iechyd a Gofal Cymdeithasol

Iechyd a Gofal Cymdeithasol gydag Ymarfer Cymhwysol