Nyrsio (Anableddau Dysgu), BSc (Anrh)

Bydd eich ffioedd dysgu yn cael eu talu'n llawn

os gallwch chi ymrwymo i weithio yng Nghymru am ddwy flynedd ar ôl graddio

nyrs helpu person

Trosolwg o'r Cwrs

Bydd ein cwrs gradd Nyrsio Anabledd Dysgu yn rhoi’r sgiliau a’r profiad i chi lansio gyrfa werth chweil yn y proffesiwn amrywiol a hanfodol hwn.

Yn ystod y rhaglen BSc tair blynedd hon sydd wedi’i hintegreiddio’n ofalus, byddwch yn dysgu sut mae mabwysiadu dull rhychwant oes o nyrsio person gydag anabledd dysgu. Wrth i chi symud ymlaen, bydd ein hystod o strategaethau dysgu ac addysgu yn datblygu eich meddwl beirniadol i'ch galluogi i adnabod anghenion amrywiol a chymhleth pobl ag anableddau dysgu; gwneud diagnosis nyrsio cywir a chynllunio a gwerthuso'r gofal sydd ei angen. Byddwch yn dysgu sut mae darparu gofal effeithiol i bobl ag anabledd dysgu a all fod ag afiachusrwydd iechyd lluosog yn ogystal â heriau iechyd meddwl, corfforol, gwybyddol neu ymddygiadol, gan alluogi ymarferwyr i allu cefnogi pobl ag anableddau dysgu o unrhyw oedran.  

Pam Nyrsio Anabledd Dysgu ym Mhrifysgol Abertawe?

Mae gennym enw rhagorol am nyrsio ac rydym yn un o’r 10 prifysgol orau yn y DU am Ragolygon Graddedigion (Times Good University Guide 2025).

Mae ein staff academaidd yn nyrsys cymwys, yn feddygon, ac yn weithwyr proffesiynol perthynol i iechyd, y mae llawer ohonynt hefyd yn glinigwyr wrth eu gwaith, gan ddarparu cyfuniad eithriadol o drylwyredd damcaniaethol, mewnwelediad proffesiynol, ac arbenigedd ymarferol.

Mae gennym gysylltiadau cryf iawn â byrddau iechyd yng Nghymru, gan agor cyfleoedd lleoliadau clinigol i chi mewn ysbytai neu dimau iechyd meddwl cymunedol mewn lleoliadau trefol a gwledig.

Os ydych yn fyfyriwr yn y DU sy’n gallu ymrwymo i weithio yng Nghymru am ddwy flynedd ar ôl graddio, gallech gael eich ffioedd dysgu wedi’u talu’n llawn drwy Gynllun Bwrsariaeth GIG Cymru, yn ogystal â chyllid cynhaliaeth a benthyciad cyfradd is gan Gyllid Myfyrwyr.

A wnewch chi weld ein tudalen we Ariannu’r GIG i wirio a ydych yn gymwys am gyllid cyn gwneud cais.

Eich Profiad Nyrsio Anabledd Dysgu

Mae ein cyfleusterau rhagorol yn cynnwys swît glinigol realistig fel y gallwch roi eich gwybodaeth ddamcaniaethol ar waith mewn amgylchedd sy'n adlewyrchu mor agos â phosibl yr amodau gwirioneddol y byddwch yn eu profi pan fyddwch yn mynd ar leoliad mewn ysbyty neu leoliad cymunedol.

Gallwch hefyd astudio rhai modiwlau trwy gyfrwng y Gymraeg a gallech fod yn gymwys ar gyfer ysgoloriaethau mewnol neu gymorth drwy’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol.

Gyrfaoedd Nyrsio

Wedi i chi raddio, byddwch yn gymwys i wneud cais am statws Nyrs Gofrestredig (Anabledd Dysgu) gyda'r Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth ac i gofrestru fel nyrs ar gyfer gwaith yn yr UE a'r AEE.

Gallwch ddisgwyl cyflog cychwynnol o £28,407 yn codi i £57,349 ar gyfer nyrs staff hynod brofiadol. Gall nyrsys arbenigol a rheolwyr practis ennill £50,056.

Modiwlau

Modiwlau

Nyrsio (Anableddau Dysgu)