Cynnig Nodweddiadol ar gyfer Safon Uwch
O leiaf BCC mewn cymwysterau U2, ac mae cyrsiau sy'n gysylltiedig ag iechyd neu wyddoniaeth yn ddymunol.
Cynnig Nodweddiadol ar gyfer Mynediad i Addysg Uwch
24 Rhagoriaeth, 18 Teilyngdod, 3 Llwyddo
Cynnig Nodweddiadol ar gyfer BTEC
Rhagoriaeth, Rhagoriaeth, Teilyngdod
Cynnig Nodweddiadol ar gyfer Bagloriaeth Sgiliau Cymru Uwch
B a BB mewn Safon Uwch, neu B a DD mewn BTEC
Tystysgrif Gadael Iwerddon
360
O leiaf bum cymhwyster TGAU â graddau A-C gan gynnwys Cymraeg/Saesneg Iaith, Mathemateg a Gwyddor Ffisegol neu Wyddoniaeth Dyfarniad Dwbl.
O dan rai amgylchiadau penodol, derbynnir Sgiliau Allweddol Lefel 3 mewn Cymhwyso Rhif yn lle TGAU Mathemateg a Sgiliau Allweddol Lefel 3 mewn Cyfathrebu yn lle TGAU Cymraeg/Saesneg Iaith.
Bydd angen i chi ddangos y canlynol hefyd:
- Proffil addysgol cryf yn ystod y tair i bum mlynedd diwethaf
- Dealltwriaeth fanwl o Nyrsio Iechyd Meddwl ac ymrwymiad iddo
- Mae profiad ym maes gofal yn ddefnyddiol ond nid yw'n hanfodol
- Bydd disgwyl i chi gymryd rhan mewn trafodaethau grŵp, gwaith tîm a thasgau unigol yn ystod y cyfweliadau
Os nad Cymraeg neu Saesneg yw eich iaith gyntaf, bydd angen sgôr IELTS o 7.0 arnoch
Os cynigir lle i chi, bydd angen y canlynol arnoch hefyd:
Dylech hefyd ymgyfarwyddo â Gwerthoedd a Safonau Ymddygiad GIG Cymru.
Bydd angen geirda addysgol boddhaol ar bob ymgeisydd.
Bydd ymgeiswyr sy'n bodloni'r gofynion mynediad a'r meini prawf dethol yn cael eu gwahodd i gyfweliad, y gellir ei gynnal wyneb yn wyneb neu dros y ffôn/galwad fideo. Mae ein Cyngor Cyfweliadau yn esbonio mwy am yr hyn y gallwch ei ddisgwyl.
Os ydych yn llwyddiannus yn y cyfweliad, bydd unrhyw gynnig lle yn amodol ar wiriad y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd/yr Heddlu boddhaol neu gyfwerth gan eich gwlad gartref yn ogystal â datganiad iechyd galwedigaethol ac asesiad cyn dechrau eich astudiaethau. Darperir rhagor o fanylion os byddwch yn derbyn cynnig.
Gellir ystyried unrhyw bryderon sy'n codi o'r rhain ym Mhanel Addasrwydd a Phriodoldeb i Ymarfer Proffesiynol yr Ysgol Iechyd a Gofal Cymdeithasol a gall arwain at dynnu lle ar y rhaglen yn ôl.
Rhagori ar y gofynion hyn?
Os yw'r cwrs hwn o ddiddordeb i chi, ond eich bod wedi rhagori ar y cymwysterau mynediad gofynnol, beth am ystyried ein Nyrsio Iechyd Meddwl, MSc?