Cynnig Safon Uwch Nodweddiadol
Isafswm o BBB - BCC mewn Safon Uwch. Mae cyrsiau iechyd neu sy'n gysylltiedig â gwyddoniaeth yn ddymunol. Rydym yn derbyn Bagloriaeth Cymru fel Safon Uwch
Cynnig Mynediad at Addysg Uwch Nodweddiadol
21 Rhagoriaeth, 18 Teilyngdod, 6 Gradd Pasio
Sylwer, mae ein hystod graddau yn cynnwys cynigion safonol a chyd-destunol. Os ydych yn bodloni un (neu fwy) o'n meini prawf cymhwyso ar gyfer cynigion cyd-destunol, byddwch yn cael cynnig is. Bydd hyn yn dal i fod yn yr ystod graddau a nodwyd. Gweler ein tudalen derbyn cyd-destunol am ragor o wybodaeth.
Cynnig BTEC Nodweddiadol
DDM - DMM
Cynnig Sgiliau Uwch Bagloriaeth Cymru Nodweddiadol
B a BB yn Safon Uwch neu DD yn BTEC
Tystysgrif Gadael Iwerddon
360
Mae o leiaf 5 TGAU gradd A-C, gan gynnwys Iaith Gymraeg neu Saesneg, Mathemateg, a Gwyddor Ffisegol neu Wyddoniaeth Ddwbl yn ofynnol.
Mewn amgylchiadau penodol, caiff Lefel 2 Sgiliau Allweddol mewn Cymhwyso Rhifau ei derbyn yn lle TGAU Mathemateg a chaiff Lefel 2 Sgiliau Allweddol mewn Cyfathrebu ei derbyn yn lle TGAU Iaith Gymraeg/ Saesneg, os cwblhawyd hynny ers mis Medi 2015.
Bydd angen i chi hefyd ddangos:
- proffil addysgol cryf yn ystod y tair i bum mlynedd ddiwethaf
- Dealltwriaeth fanwl o Nyrsio Oedolion ac ymrwymiad i’r ddisgyblaeth
- Mae profiad o ddarparu gofal yn ddefnyddiol, ond nid yw'n hanfodol.
- Disgwylir i chi gymryd rhan mewn trafodaethau grŵp, gwaith tîm a thasgau unigol yn ystod cyfweliadau
Nid oes unrhyw fantais ynghlwm wrth gyflwyno cais i Abertawe a Chaerfyrddin hefyd, a byddem yn argymell eich bod yn cyflwyno un cais yn unig, a hynny i’r lleoliad yr hoffech fynd iddo.
Os byddwch yn cael cynnig lle i astudio, bydd hefyd arnoch angen:
Os ydych chi'n fyfyriwr rhyngwladol:
Sgôr IELTS
Sicrhewch fod gennych sgôr IELTS gyffredinol o 6.5 ym mhob cydran cyn dechrau'r rhaglen (mae hwn yn ofyniad gan y Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth).
Cais a chyfweliad
Bydd angen geirda addysgol boddhaol ar bob ymgeisydd.
Bydd ymgeiswyr sy'n bodloni'r gofynion mynediad a'r meini prawf dethol yn cael eu gwahodd i gyfweliad, y gellir ei gynnal wyneb yn wyneb neu dros y ffôn/drwy alwad fideo. Mae ein Cyngor ar gyfer Cyfweliadau yn esbonio mwy am yr hyn y gallwch ei ddisgwyl.
Bydd yn ofynnol i'r holl ymgeiswyr gael gwiriad manylach gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd, a gwiriad iechyd galwedigaethol. Gellir ystyried pryderon sy'n deillio o'r rhain ym Mhanel Addasrwydd a Phriodoldeb Ymarfer Proffesiynol yr Ysgol Iechyd a Gofal Cymdeithasol, a gall arwain at dynnu lle ar y rhaglen yn ôl.
Yn rhagori ar y gofynion hyn?
Os yw'r cwrs hwn o ddiddordeb i chi, ond rydych wedi rhagori ar y cymwysterau mynediad gofynnol, beth am ystyried ein MSc Nyrsio Oedolion?