Trosolwg o'r Cwrs
Bydd ein cwrs gradd Nyrsio Oedolion a gydnabyddir yn rhyngwladol yn rhoi'r sgiliau a'r profiad sydd eu hangen arnoch i lansio gyrfa werth chweil yn y proffesiwn amrywiol a hanfodol hwn.
Drwy gydol y rhaglen BSc tair blynedd hon sydd wedi’i hintegreiddio’n ofalus, byddwch chi’n dysgu am anghenion cyfannol pobl o oedolaeth gynnar i henoed.
Wrth i'r cwrs fynd rhagddo, byddwch yn datblygu'r sgiliau i asesu, cynllunio, darparu a gwerthuso gofal nyrsio yn seiliedig ar dystiolaeth sy'n hyrwyddo iechyd a lles oedolion sydd â chyflyrau acíwt a chronig.
Wedi'i leoli ar gampws Parc Dewi Sant yng Nghaerfyrddin, bydd hanner y cwrs yn cael ei addysgu yn y brifysgol a'r hanner arall mewn lleoliadau gofal iechyd. Mae gennym gydberthnasau gwaith ardderchog â llawer o ddarparwyr gofal iechyd felly byddwch yn gallu manteisio ar amrywiaeth eang o brofiadau clinigol ledled de-orllewin Cymru, gan gynnwys lleoliadau yn y GIG a'r sector annibynnol mewn ysbytai a lleoliadau cymunedol.