Nyrsio (Oedolion), BSc Ran-amser (Anrh)

Wedi'i anelu at Weithwyr Cefnogi Gofal Iechyd

mewn rôl Nyrsio

nursingswansea

Trosolwg o'r Cwrs

Bydd ein cwrs gradd Nyrsio Oedolion rhan-amser a gydnabyddir yn rhyngwladol yn rhoi'r sgiliau a'r profiad sydd eu hangen arnoch i lansio gyrfa werth chweil yn y proffesiwn amrywiol a hanfodol hwn. 

Drwy gydol y rhaglen BSc tair blynedd hon sydd wedi’i hintegreiddio’n ofalus, byddwch chi’n dysgu am anghenion cyfannol pobl o oedolaeth gynnar i henoed.

Wrth i'r cwrs fynd rhagddo, byddwch yn datblygu'r sgiliau i asesu, cynllunio, darparu a gwerthuso gofal nyrsio yn seiliedig ar dystiolaeth sy'n hyrwyddo iechyd a lles oedolion sydd â chyflyrau acíwt a chronig.

Bydd hanner y cwrs yn cael ei addysgu yn y brifysgol a'r hanner arall mewn lleoliadau gofal iechyd. Mae gennym gydberthnasau gwaith ardderchog â llawer o ddarparwyr gofal iechyd felly byddwch yn gallu manteisio ar amrywiaeth eang o brofiadau clinigol ledled de-orllewin Cymru, gan gynnwys lleoliadau yn y GIG a'r sector annibynnol mewn ysbytai a lleoliadau cymunedol.

 

 

Pam astudio Nyrsio Oedolion ym Mhrifysgol Abertawe?

Mae gennym enw rhagorol am nyrsio ac rydym yn un o’r 10 prifysgol orau yn y DU am Ragolygon Graddedigion (Times Good University Guide 2025) ac rydym ymysg y 200 gorau yn y byd am Nyrsio (QS World University Rankings by Subject 2024).

Mae ein staff academaidd yn cynnwys nyrsys, meddygon a gweithwyr iechyd proffesiynol perthynol i iechyd cymwysedig, y mae llawer ohonynt yn gweithio fel clinigwyr hefyd, gan ddarparu cyfuniad heb ei ail o drylwyredd damcaniaethol, dealltwriaeth broffesiynol ac arbenigedd ymarferol.

Mae gennym gysylltiadau cryf iawn â byrddau iechyd yng Nghymru sy'n golygu y gallwn gynnig lleoliadau clinigol i chi mewn amrywiaeth o leoliadau trefol a gwledig. Yn y cyfamser, mae'r ysbyty agosaf drws nesaf i gampws Parc Singleton nid nepell o ardal hardd Penrhyn Gŵyr. 

Eich profiad ym maes Nyrsio Oedolion

Mae ein cyfleusterau ardderchog yn cynnwys ystafell glinigol realistig sy'n eich galluogi i roi eich gwybodaeth ddamcaniaethol ar waith mewn amgylchedd sy'n adlewyrchu'r amodau gwirioneddol y byddwch yn eu hwynebu pan fyddwch yn mynd ar leoliad i ysbyty neu leoliad cymunedol, mor agos â phosibl.

Cewch gyfle i wneud cais i astudio dramor am gyfnod o dri mis drwy raglen Erasmus + gydag un o'n prifysgolion partner yn Nenmarc, y Ffindir, Norwy, Slofenia neu Sweden.

Gallwch hefyd astudio rhan o'ch gradd nyrsio drwy gyfrwng y Gymraeg a gallech fod yn gymwys i gael ysgoloriaethau mewnol neu gymorth ariannol drwy'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol.

Gyrfa Nyrsio

Ar ôl graddio, gallwch wneud cais am statws Nyrs Gofrestredig (Oedolion) gyda'r Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth a chofrestru fel nyrs i weithio yn yr UE a'r AEA.

Mae'r siawns o gael swydd yn ardderchog, gyda 99% o'n graddedigion nyrsio yn cael eu cyflogi mewn swydd broffesiynol neu reoli o fewn chwe mis (Arolwg o Gyrchfannau'r Rhai sy'n Gadael, 2018)

Gallwch ddisgwyl cael cyflog cychwynnol o £28,407 sy'n codi i £57,349 i staff-nyrs brofiadol iawn. Gall nyrsys arbenigol a rheolwyr practis ennill £50,056.  

Modiwlau

   

Nyrsio (Oedolion)