Nyrsio (Plant), BSc (Anrh)

Bydd eich ffioedd dysgu gael eu talu'n llawn

os gallwch chi ymrwymo i weithio yng Nghymru am ddwy flynedd ar ôl graddio

childnursing

Trosolwg o'r Cwrs

Bydd ein cwrs gradd Nyrsio Plant a gydnabyddir yn rhyngwladol yn rhoi'r sgiliau a'r profiad sydd eu hangen arnoch i ddechrau ar yrfa sy'n llawn boddhad.

Yn ystod y rhaglen BSc tair blynedd hon, byddwch yn dysgu am anghenion iechyd a llesiant holistaidd plant, pobl ifanc a'u teuluoedd.

Drwy gyfuniad o astudiaethau academaidd a phrofiad clinigol ymarferol, byddwch yn meithrin y sgiliau proffesiynol sydd eu hangen arnoch i ddarparu gofal nyrsio o safon uchel sy'n seiliedig ar dystiolaeth a mesurau diogelu iechyd mewn amrywiaeth o leoliadau clinigol a chymunedol, a hynny'n aml wrth weithio fel rhan o dîm amlddisgyblaethol yn y sectorau iechyd a gofal cymdeithasol.

Bydd hanner y cwrs yn cael ei addysgu yn y brifysgol a'r hanner arall mewn lleoliadau gofal iechyd. Mae gennym gydberthnasau gwaith ardderchog â llawer o ddarparwyr gofal iechyd, felly byddwch yn gallu manteisio ar amrywiaeth eang o brofiadau clinigol ledled de-orllewin Cymru. Mae'r rhain yn cynnwys lleoliadau yn y GIG a'r sector annibynnol mewn ysbytai a lleoliadau cymunedol.

Pam Nyrsio Plant ym Mhrifysgol Abertawe?

Mae gennym enw rhagorol am nyrsio ac rydym yn un o’r 10 prifysgol orau yn y DU am Ragolygon Graddedigion (Times Good University Guide 2025).

Mae ein staff academaidd yn cynnwys nyrsys, meddygon a gweithwyr iechyd proffesiynol perthynol i iechyd cymwysedig, y mae llawer ohonynt yn gweithio fel clinigwyr hefyd, gan ddarparu cyfuniad heb ei ail o drylwyredd damcaniaethol, dealltwriaeth broffesiynol ac arbenigedd ymarferol.

Mae gennym gysylltiadau cryf iawn â byrddau iechyd yng Nghymru sy'n golygu y gallwn gynnig lleoliadau clinigol i chi mewn amrywiaeth o leoliadau trefol a gwledig. Yn y cyfamser, mae'r ysbyty agosaf drws nesaf i gampws Parc Singleton nid nepell o ardal hardd Penrhyn Gŵyr.

Os gallwch ymrwymo i weithio yng Nghymru am ddwy flynedd ar ôl graddio, gallai eich ffioedd dysgu gael eu talu'n llawn drwy Gynllun Bwrsariaeth GIG Cymru. Yn ogystal, gallech gael cyllid cynhaliaeth o hyd at £4,491 a benthyciad ar gyfradd ostyngol gan Cyllid Myfyrwyr.

Gwelwch ein tudalen Nawdd GIG i wirio eich cymhwyster am gyllid cyn gwneud cais.

Eich Profiad ym maes Nyrsio Plant

Mae ein cyfleusterau ardderchog yn cynnwys ystafell glinigol realistig sy'n eich galluogi i roi eich gwybodaeth ddamcaniaethol ar waith mewn amgylchedd sy'n adlewyrchu'r amodau gwirioneddol y byddwch yn eu hwynebu pan fyddwch yn mynd ar leoliad i ysbyty neu leoliad cymunedol, mor agos â phosibl.

Gallwch hefyd astudio rhan o'ch gradd nyrsio drwy gyfrwng y Gymraeg a gallech fod yn gymwys i gael ysgoloriaethau mewnol neu gymorth drwy'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol.

Gyrfaoedd Nyrsio Plant

Ar ôl graddio, gallwch wneud cais am statws Nyrs Gofrestredig (Plant) gyda'r Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth a chofrestru fel nyrs i weithio yn yr UE a'r AEA.

Mae'r siawns o gael swydd yn ardderchog, gyda 100% o'n graddedigion nyrsio yn cael eu cyflogi mewn swydd broffesiynol neu reoli o fewn chwe mis (Arolwg o Gyrchfannau'r Rhai sy'n Gadael Addysg Uwch, 2018)

Gallwch ddisgwyl cael cyflog cychwynnol o £28,407 sy'n codi i £57,349 i staff-nyrs brofiadol iawn.  

Gall nyrsys arbenigol a rheolwyr practis ennill £50,056.

Modiwlau

   

Nyrsio (Plant)